Saturday, September 08, 2012

Carwyn methu gweld yr eliffant yn ei ystafell fyw - eto

Felly mae Carwyn Jones o'r farn mai daearyddiaeth anffafriol a 'diwylliant' sy'n gyfrifol am ddiffyg llwyddiant economaidd Cymru. Ymddengys bod natur tirwedd y Cymoedd ynghyd a'r ffaith ein bod yn cael ein hannog i fynd am swyddo saff sector cyhoeddus a 'ballu yn gyfrifol am yr holl broblem.

Rwan, mae yna wledydd cymharol agos atom sy'n gyfoethog a sydd efo daearyddiaeth - a hinsawdd - llawer, llawer mwy heriol na'r hyn a geir yng Nghymru - gwledydd Sgandinafia er enghraifft. Mae Cymru yn wlad cymharol fach, sydd ag iddi system drafnidiaeth cymharol dda - gwell na'r hyn a geir yn Iwerddon neu'r Alban mae'n debyg.

Mae'r hyn a ddisgrifir gan Carwyn yn 'ddiwylliant' yn ymarferiad o synnwyr cyffredin gan bobl mewn gwirionedd. Mae'n gwbl naturiol i bobl fod eisiau gweithio mewn swyddi sector cyhoeddus 'saff' os ydynt yn gwybod bod y rhan fwyaf o fusnesau bach yn methu, neu yn cynhyrchu elw isel iawn.

Mae hefyd yn gwbl naturiol i gyfalaf gael ei fuddsoddi yn Lloegr - yn agos at ganolfannau poblogaeth mawr - a felly marchnadoedd mawr - y wlad honno ac Ewrop, os nad ydi'r gyfundrefn drethiannol yng Nghymru yn gwahanol i un Lloegr.

Os ydi Carwyn o ddifri am newid pethau mae'n rhaid iddo roi rhesymau da i bobl sefydlu eu busnesau eu hunain yma, yn ogystal a rhoi rhesymau da i gwmniau o'r tu allan fuddsoddi yma. Golyga hynny gael rheolaeth tros agweddau ar sut yr ydym yn trethu. Fel rydym wedi trafod yn y gorffennol 'dydi Llafur byth am fod eisiau i drethiant gael ei ddatganoli i Gymru - yn wir ymddengys bod Peter Hain o'r farn y byddai datganoli pwerau trethu yn 'difa'r genedl'.

A'r gwir amdani mae gen i ofn ydi y gall Carwyn drafod daearyddiaeth, diwylliant a band eang hyd ddydd y farn - ond os nad ydi o eisiau'r arfau i fynd i'r afael efo problemau sylfaenol Cymru, ni fydd yn llwyddo i wneud iot o wahaniaeth i'r problemau hynny.

6 comments:

maen_tramgwydd said...

Chwilio am esgis mae Carwyn, am fethiant ei blaid i ddod i'r afael a phroblemau Cymru a'i phobl i lawr y blynyddoedd.

Mae John, ar Borthlas, wedi sôn yn ddiweddar am yr honiad fod gan y Blaid Lafur resymau etholiadol am gadw Cymru yn gymharol dlawd.

http://borthlas.blogspot.co.uk/2012/09/we-all-need-enemies.html

Credaf bod rhaid disodli Llafur cyn y gall ein gwlad ffynnu. Wrth gwrs, d'oes dim gwarant i bethau wella, ond heb hynny d'oes dim gobaith.

Anonymous said...

Great deliѵery. Sοund аrguments. Κeep up the аmazing spiгit.
Take a look at my homepage - Http://Forums.Craftworksfactionrpg.Net/Profile.Php?Id=320

Anonymous said...

Due to this truth, seѵеral women fаvor these wondеrful v2 сigs.


Feel free to surf to my web-site: http://Java.csie.nctu.edu.tw

Anonymous said...

Whеn I originаllу сommented I clickeԁ the "Notify me when new comments are added" checkboх and now eаch time a comment іѕ adԁed I get three emails wіth thе ѕame comment.
Іs there аnу way you can remоve me fгom that seгvice?
Appгeciаte it!

Visіt mу hοmeρagе :: just click the following web site

Anonymous said...

Simply ԁesіre to say your article іs as аstounding.
Τhe clearness in yоur post is just great and i could assume you are an еxpert on this
subject. Well with your pеrmisѕion
allоw me tο gгab уour feed to keep up to
date wіth forthcοmіng post.
Thanks a milliοn and please keep up the gratifying work.



My website ... Read This

Anonymous said...

Hi my loveԁ οne! I want to ѕаy that this post is awesоme, niсe written and
come with almost all ѵitаl infos. I would like to ρeer
extra ρosts lіke thiѕ .

my wеblog: http://uvicgamedev.com