Sunday, September 09, 2012

Golwg360 yn torri tir newydd

Mae'n hynod ddiddorol a chlodwiw bod Golwg360 wedi dechrau adrodd ar farwolaethau cwn.

Mewn oes pan mae'n anodd iawn i gyfryngau newyddion ddod ar draws syniadau newydd mae'n rhaid edmygu gwreiddioldeb Golwg360. Hwyrach y byddant yn mynd ati maes o law i riportio ar farwolaethau gwartheg, cathod, llygod a phryfaid.

6 comments:

Anonymous said...

Mae fy nghoeden rhodydendrons yn y cefn wedi marw. Stori i Golwg360!

Anonymous said...

.....a'r un mor bwysig - mae llai o bobl yn gwylio X factor hefyd....

Anonymous said...

Nes i roi stwff yn fy ngwallt i ladd chwain heno. Sgwn i os bydd gan Golwg ddiddordeb yn y stori.

Colwyn said...

Be di'r protocol, parti stryd ta galaru cyhoeddus?

Anonymous said...

Tri diwrnod o alaru a gwyl y banc arbennig.

Anonymous said...

Roedd fy ngheffyl wedi brifo'i goes, ond mae'n gwella rwan. Ga i golofn yn Golwg?