Tuesday, August 14, 2012

Pravda Cymru

Mae'r blog yma wedi nodi yn y gorffennol bod y cyfryngau 'Cymreig' -y BBC yn benodol - yn clodfori digwyddiadau a sefydliadau Prydeinllyd, tra'n gwrthod cydnabod bod yna wahaniaeth barn yn y wlad ynglyn a'r cyfryw sefydliadau a digwyddiadau.

Ymddengys bod y Western Mail druan yn mynd cam yn bellach fodd bynnag - yn ol Ian Titherington mae sylwadau sy'n feirniadol o'u hymdriniaeth o'r Gemau Olympaidd yn cael eu dileu oddi ar wefan Wales Online..

Mae gwrthod gadael i bobl sydd ddim yn cytuno efo safbwynt arbennig leisio eu anghytundeb yn dystiolaeth diymwad o wendid y safbwynt hwnnw. A dyna sydd y tu ol i ddiffyg cydnabyddiaeth y cyfryngau Cymreig o safbwyntiau amgen.

Pan mae'r holl heip wedi ei droelli, pan mae newyddiadurwyr hunan fodlon BBC Cymru wedi gorffen diolch i'w gilydd am eu gwaith 'anhygoel' (fel roeddynt ar Newyddion S4C neithiwr) mae'r ffeithiau yn dal yr un peth.

Mae dewis arweinydd gwladwriaeth ar sail etifeddol a phwmpio miliynau lawer i'w theulu yn flynyddol yn dal yn beth chwerthinllyd o wirion a chyntefig i'w wneud.

Mae £500m+ yn parhau i fod yn bris anhygoel o uchel i wlad dlawd ei anfon i un o ddinasoedd cyfoethocaf y Byd ar gyfer cystadleuaeth lle nad yw'n cael anfon tim a phan nad yw'n derbyn nesaf peth i ddim yn ol ar ffurf busnes na lleoliadau digwyddiadau.

'Dydi'r holl hunan fodlonrwydd! na'r holl shysh shyshio yn y Byd ddim yn newid hynny.

11 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Wyt ti wedi gweld yr erthygl yma yn y WM? Mae ar y dudalen flaen, ond dydi o ddim yn gwneud yr un iot o synnwyr!

http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2012/08/14/hopes-that-olympics-2012-legacy-can-improve-wales-productivity-91466-31616301/

Hyd y gwela'i dim ond esgus i fychanu Cymru a gwneud stori arall yn hybu'r Gemau Olympaidd ydyw.

Ifan

Cai Larsen said...

Diolch Ifan - fel ti'n deud - od iawn.

Os ga i amser mi af ar ol un neu ddau o bwyntiau yno.

HC said...

Mae'e profion Pisa yn cael eu cynnal eto yn yr Hydref. Os y trafodwch hwy gydag athrawon, mae rhai a gymerodd ran y tro diwethaf yn dweud nad oedd y pennaethiaid yn sylweddoli beth oedd eu harwyddocad y tro diwethaf, ac felly ni baratowyd y disgyblion ar eu cyfer. Y tro hyn, mae nifer o ysgolion yn hyfforddi disgyblion yn reit ddwys.
Mae problem gyda cyfrwng y profion yn broblem. Yn ol polisi'r OECD ( y corff rhyngwladol sy'n dilysu'r profion) , dim ond un iaith y gellir ei ddefnyddio o fewn y prawf. Mae 3 cydran - maths, gwydd a chyfathrebu. (Gyda pwyslais ar maths) . Rhaid i'r 3 fod yn yr un iaith. Mae Cymru yn dra gwahanol i drwch Gorllewin Ewrop, gan fod gennym nifer sylweddol o ysgolion sy'n ddwyieithog. mae'n anochel felly fod disgyblion yn yr ysgolion yma yn gorfod gwynebu o leiaf un rhan o'r prawf mewn iaith lle nad ydynt yn gyfangwbl gyfarwydd.
O ran yr erthygl, mae popeth yn disgrifio gwlad ol-ddiwydiannol.
Mae'r Blaid Lafur yn perffaith fodlon i gadw Cymru yn y cyflwr yna, gan na fuasai gwlad gyda chyfarn uchel o pobl uchelgeisiol o reidrwydd yn pleidleisio iddynt.

Alwyn ap Huw said...

Mi fûm yn recordiad o raglen "diwedd blwyddyn" i S4C cyn dolig llynedd yn cael ei gyflwyno gan Huw Edwards. Bu ran o'r drafodaeth am y briodas frenhinol, bu mwyafrif llethol o sylwadau a wnaed yn feirniadol o'r briodas a dim ond dau neu dri yn gefnogol. Pan ddarlledwyd y rhaglen dim ond y sylwadau ffafriol i'r frenhiniaeth cafodd eu dangos ar y sgrin.

Dylan said...

Am erthygl druenus, Ifan! Be ddiawl? Wedi gadael sylw yno; rhag ofn iddo 'ddiflannu', atgynhyrchaf:

8:03 PM on 14/8/2012

Senseless article. Despite the headline, the link to the Olympics is somewhere between tenuous and non-existent. I would have assumed this were a parody, had I not happened to notice in the shop earlier that this is today's front page story.

This is the sort of guff that appears in Private Eye's 'Olympicballs' feature, except it's not particularly funny.

Anonymous said...

Gwir Ifan.
Ond mae'n dda gweld siaradwr y Ceidwadwyr yn defnyddio peth o iaith cendelaetholdeb Gymreig (rwy'n pwysleisio ar 'peth' oherwydd mae 'cenedl' y Tori Prydeinig yn wahanol iawn i 'nghenedl' i):
Arguing that such governments should take a similar hands-off approach in other areas, he said:

“One of the great fallacies of governments going back decades [is] this idea there is a one-size solution in education or the economy or sport that fits the whole nation ... it never will.”

Dyma ddadl cendlaetholdeb Cymreig ers Emrys ap Iwan!

Anonymous said...

Barn Jac am yr erthygl..

http://jacothenorth.blogspot.co.uk/2012/08/yet-more-olympibollocks.html

Anonymous said...

Onid yw'n hen bryd inni ddechrau mynd i'r afael a'r diffyg cyfryngau Cymreig sydd mewn gwirionedd yn bygwth dyfodol ystyrlon i'n gwlad?

Pam nad oes modd i rywrai neu'i gilydd dargedu'r papurau Llundeinig hyn sy'n gwerthu wrth y miloedd fan hyn gan roi ddim sylw o gwbl i faterion Cymreig? Siawns na fyddai'n amhosib i greu ymgyrch liwgar i godi cywilydd ar y rhain, neu o leiaf ddwyn y broblem i sylw pobl?

A wedyn mae angen dod a phobl at ei gilydd i weld sut mae modd creu papur cenedlaethol newydd yn y Saesneg i gystadlu gyda'r Western Mail. Efallai'n wir bod angen ail-gyfeirio lot o ynni Cymry Cymraeg sydd ar hyn o bryd yn cynhyrchu llyfrau Cymraeg( i gynulleidfa gweddol fychan) a'r cyllid sydd ynghlwm wrth hynny i gyfeiriad creu papur newydd i Gymru.

Does dim modd osgoi'r eliffant hwn sydd ar garreg ein drws.

Anonymous said...

Mae Cymru Arlein yn mynd yn fwy o ofid na hyd yn oed y WM. Mae na drol wedi bron a herwgipio'r safle gan bostio o dan sawl enw. Credaf mai'r gwr hwn sy hefyd yn gyfrifol am wefannau mwya gwrth-Gymreig ein cenedl.

Anonymous said...

Mae yna bapur yn y Gogledd yn barod - Y daily Post. Dwi'n rhyw feddwl ei
fod o'n fwy rhesymol na'r WM o ran Cymreictod. O leiaf mae yna fwy o beldroed na rygbi ynddo fo.

Anonymous said...

You could certainly see your enthusiasm in the article you write.
The world hopes for even more passionate writers such as you who are not afraid
to mention how they believe. All the time go after your heart.
Check out my webpage ; medi weightloss clinic