Wednesday, May 09, 2012

'Vote Labour get Tory'

Mae'n debyg gen i bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn gyfarwydd efo'r mantra hwnnw y bydd pobl yn  gadael y Toriaid i mewn os na fyddant yn pleidleisio i Lafur.  Y Blaid Lafur Gymreig sy'n gyfrifol amdano wrth gwrs, a chymaint eu defnydd o'r stori dylwyth teg nes peri i ddyn amau  weithiau os oes ganddynt unrhyw ddadl arall i gymell pobl i bleidleisio trostynt.

Ond mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur mewn rhannau eraill o'r DU yn fwy na pharod i daro bargen efo'r Toriaid os ydi hynny yn sicrhau eu bod yn cael eu bachau ar ychydig o rym.  Er mai'r SNP ydi plaid fwyaf Cyngor Stirling, mae'r ddwy blaid unoliaethol fawr wedi dod at eu gilydd i'w hatal rhag cymryd grym. 

Tybed os bydd Carwyn yn teimlo fel condemnio'r ffasiwn ymddygiad?  Na, efallai ddim - ymddengys nad ydi Toriaid yr Alban mor ddrwg na Thoriaid Cymru.

2 comments:

Cneifiwr said...

Dyna'n union beth sy'n digwydd yn Sir Gâr unwaith eto. Daeth Llafur yn drydydd o ran y nifer o bleidleisiau, ond nhw fydd yn arwain y cyngor mewn clymblaid gyda'r Annibynwyr - Toriaid cudd yn ôl Peter Hain.

Anonymous said...

Ti'n gwbod be?
Dwi ddim yn deall pam bod clymbleidio gydar Toris yn big deal. Wrth greu clymblaid maer 2 plaid yn dod at ei gilydd i greu agenda. Os mae'r ddau yn cytuno- gret, os ddim- tynnu yn ol.

Dyna pam dwin gweld sefyllfa Plaid yn eithaf od nawr ar ol deud na fysa ni yn derbyn Clymblaid Enfys. Pam ddim deud "ella".... yna gweld y polisiau mae'r Toris eisiau... os mae nhwn mynd yn erbyn rhai on egwyddorion, jest cerddwch allan. Ond os mae rhan fwyaf or polisiau yn dilyn manifesto y Blaid- pam ddim creu Llwyodraeth Enfys.... cael ein manifesto i fewn i Lywodraeth y ein prif pwrpas ie??.

Dyna pam oeddwn i yn ffan o'r Llywodraeth Enfys yn 2007. Heb law am y Refferendwm ac Y Byd, oedd y 'deal' yn un eithaf tebyg i Cymru'n Un, os nad yn well. Yn amlwg nath Y Byd ddim digwydd anyway, a dwi hefyd yn meddwl ar ol chydig fisoedd efallai bysa Refferendwm wedi digwydd (gan gofio mai Lywodraeth Llafur fysa yn gorfod delio gyda B.C'dydd ar y pryd).