Thursday, May 10, 2012

Llongyfarchiadu Rhondda Cynon Taf

Mae'n beth anarferol i ardal Rhondda Cynon Taf i ddod ar ben unrhyw dabl - ar y gwaelod y byddan nhw fel rheol. Mae'n braf felly cael nodi iddynt ddod ben ac ysgwydd uwch ben pawb arall yn y tabl diweddaraf i gael ei ryddhu - cynghrair y partis brenhinol.

Yn ol y BBC - ffynhonell pob doethineb am faterion brenhinol - gwnaed cais am tua 300 o bartis yng Nghymru hyd yn hyn, ac roedd 58 o'r ceisiadau hynny yn RCT. Yr unig sir i ddod yn agos at y cyfanswm anrhydeddus hwnnw oedd Caerdydd gyda 40 cais.

Felly llongyarchiadau bois - mae'n dda gweld bod y fersiwn anarferol o Sosialaeth a arferir yn Ne Cymru yn dal yn fyw ac yn iach ac yn ysu am barti mawreddog.

10 comments:

Unknown said...

Wales always was a staunch supporter of the Crown, even Owain Glyndŵr was a supporter of Henry IV (was he a squire to him as Henry Bolingbroke) until that spat over land with Baron Grey.

Anonymous said...

"Mae'n beth anarferol i ardal Rhondda Cynon Taf i ddod ar ben unrhyw dabl - ar y gwaelod y byddan nhw fel rheol"

RCT yw un o'r ardaloedd Cymreicaf yng Nghymru. Mae hanner poblogaeth y gogledd yn Saeson ac mae rhan fwyaf o'r Cymry sy'n byw 'na yn swnio fel trigolion Lerpwl wrth siarad yr iaith fain! Y rheswm bod cymaint o bartïon yw bod lot o bobl yn byw mewn tai teras ac mae'r cymunedau yn glos iawn. Pobl sy'n ddigon sicr a chyfforddus yn eu hunaniaeth Gymreig. Bydd hi'n ddiwrnod i ddathlu ac yfed. Tyfwch lan!

Anonymous said...

Gogs sy'n pedlo'r myth 'ma bod Caerdydd yn 'Cymreigio' rhywsut. Lol, mae'r lle yn fwy Seisnig nag erioed. Newsflash - Abertawe yw gwir brifddinas Cymru ac mae pobl y Cymoedd yn ochri gyda'r Jacs. Mae 'na fwy i Gymreictod na siarad Cymraeg.

Dyfed said...

Diddorol iawn a diolch am y wybodaeth. Ac fe allai gydymdeimlo efo dy safbwynt. Tydw innau chwaith ddim yn deall pam fod pobl mor nawddoglyd.

Ond tybed nad oes yna bwynt i'w wneud yma ynghylch safiad Leanne ar y frenhiniaeth? Er ei bod hi'n gwbl egwyddorol ar y pwynt, tydi o ddim o angenrheidrwydd yn safbwynt poblogaidd. Tybed na fydd ei safbwynt hi ddim yn help o gwbl with inni geisio torri mewn i'r cymoedd - rhywbeth yr oedd llawer yn teimlo mai dyma fyddai ei chryfder mawr hi.

Anonymous said...

nid cyd-ddigwyddiad mae'r un ardaloedd sydd a'r nifer fwya o 'bartis brenhinol' a'r gefnogaeth fwya i'r Blaid Lafur. Dyma dangos bod angen i'r Blaid deall y cymunedau hyn yn well os am ceisio eu cefnogaeth

Anonymous said...

'Wales always was a staunch supporter of the Crown'

Except Wales wasn't 'always' subject to 'the Crown'.

Anonymous said...

Nid trwy feirniadu ardaloedd fel hyn yr ydych yn mynd i ddenu ac ennill cefnogaeth yng Nghymoedd y de. Mae na dueddiad eilitaidd bron yn snobyddiaeth bur sydd yn treiddio o Sir Gwynedd lle y tybier taw hwythau yw'r gwir Gymry sy'n siarad ei hiaith ac wedi'u trwytho mewn diwylliant Cymreig ac hyn a'r llall.

Nawr yn sicr mae'n destun o longyfarch i Gwynedd am gadw'r iaith mor hyfyw o'u cymharu a rhannau o Sir Gâr a Cheredigion ond ardaloedd fel Rhondda sydd yn gweld y twf mwyaf yn siaradwyr y Gymraeg, ardal a gefnogodd datganoli i'r carn 70% wedyn rydych braidd yn llugoer ac annheg eich beirniadaeth trwy ddatgan eu bod yn disgyn ar waelod bob un tabl arall.

Dwi ddim yn frenhinwr, twll tîn i'r cwîn weda i, ond mae nifer o bobl yn tyrru at ddathliad fel rhywbeth i ddathlu ei hunain yn hytrach na rhyw gefnogaeth i'r frenhines, jst esgus ydyw i rai i gael parti.

Ffôl yw i geisio beirniadu Leanne Wood hefyd gan awgrymu bod yn rhaid iddi newid ei safbwynt i ennill cefnogaeth, dod â phobl gyda chi yw'r nod wleidyddol nid plygu a cholli egwyddorion, colli nod er mwyn ennill pleidleisiau ar bapur - agweddau felly sydd yn rhonc ym Mhlaid Cymru ac agweddau felly sydd wedi bod yn gyfrifol am ei thranc hi a'i chrebachiad hi fel plaid.

Cai Larsen said...

O diar dyna fi wedi troi'r drol.

Jyst gair bach o eglurhad am y busnes 'gwaelod y tablau'. Cyfeirio oeddwn i'n benodol at ddata sy'n ymwneud ag amddifadedd a pherfformiad economaidd.

Mae'n greiddiol i'r blog yma mai'r ffordd o fynd i'r afael efo tlodi yng Nghymru ydi trwy gymryd rheolaeth o'n tynged economaidd ein hunain. Mae yna rhyw eironi bod un o ardaloedd tlotaf Cymru yn dangos mwy o frwdfrydedd tros symbolau ein diffyg ymreolaeth tros ein economi na neb arall.

Reynolds said...

Yn ol y Daily Post bore 'ma , yng Nghaernfon mae unig partis stryd Gwynedd ( 3 ohonynt) . Heb gael gwadd wyt ti Cai !

Cai Larsen said...

Naddo am rhyw reswm. Fedra i ddim dychmygu pam chwaith.