Yn ol fy nghyfri fi Gary Owen sydd wedi ennill y gystadleuaeth chwyrn rhwng gweision cyflog y Bib i drydar neu ail drydar canmoliaeth i'r ffagl fwy na neb arall. 21 neges hyd yn hyn yn ol fy nghyfri. Os ydw i wedi tan gyfri cyfraniadau unrhyw un arall o'r hogiau neu'r genod, plis gadewch i mi wybod er mwyn i mi gael unioni'r cam.
Hefyd llongyfarchiadau i'r Bib am efelychu ymdriniaeth sensitif y Western Mail o'r iaith Gymraeg a chael dau nytar eithafol i fyllio ar eu gilydd am y pwnc ar Radio 2.
Mae'n dda o beth nad ydi Blogmenai yn rhoi lle i conspiracy theories - beth bynnag ydi hynny yn y Gymraeg. Byddai antics y cyfryngau tros yr wythnos neu ddwy diwethaf wedi bod yn wythien ffrwythlon iawn ar gyfer deunydd crai ar gyfer damcaniaethu felly.
6 comments:
blah - trueni am y plant mor anabl eu iaith a'r fenyw o Dreorci mor screchog.
Dwi'n meddwl y bydd dy fywyd blogio di'n wag heb y ffagl yma, Cai !
Bydd yn ddiddorol gweld sut y byd pobl yr Alban yn ymateb i Jac yr Undeb yn ymddangos ymhobman , gyda'r ymgyrch annibyniaeth newydd gychwyn.
Fydd neb yn sylwi'r gwahaniaeth yng Nghogledd Iwerddon, ac alla i ddim meddwl fod y ffagl yn ymweld a'r Falls Road neu'r Bogside .
Dwi'n meddwl fod protest y pobl ddewr a chall yn Wrecsam yn cyfleu fy marn i: 'Not our Colour'
http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/74291-ffarwel-wrth-y-fflam-gwynt-teg-ar-ei-hol-hi
... ac os mai hyrwyddo'r Olympics oeddem ni, pam nad oedd bynting a baneri Olympics yn cael eu dosbarthu ar hyd Taith y Fflam AKA BritFest yma?
Cwestiwn i Garry Owen ofyn trefnwyr yr Olympics y tro nesa?!
Camsillafu dwi yn siwr
Gweision Cyfog oedd ganddot dan sylw ???
Roedd y plant 'mor anabl eu hiaith' yn debygol o blant sy'n cael eu 'haddysgu' yng Ngyhymru gyfoes, Mistar Pen-yn-y-tywod Larsen bach. Trueni nad ydych yn cymryd sylw ohonynt hyd a lled Cymru.
Roeddwn wrth fy modd yn gwrando ar aelod Seneddol Ceidwadol wedi'i eni yn Lloegr, yn siarad Cymraeg a rhywfaint o synnwyr a'r genedaetholwraig hurt.
Credaf y buaset yn canfod , 'POGON',
mai pobl fel Cai sy'n cadw'r iaith yn gryf ac yn bwrpasol yn ei gwlad ei hun, ac nad oes neb fwy ymwybodol o dranc yr iaith na athrawon cynradd, nac yn bregethu'r angen i bolisiau Gwynedd gael eu hyrwyddo hyd a lled Cymru.
. Mae 'Costa Geriatrica' Clwyd a Conwy yn gartref hefyd i fan ysgolion bonedd, heblaw am filoedd o bobl a symudodd o thu hwnt i Glawdd Offa a heb grebwyll o fath am Gymru.
I fy meddwl i, mae unrhyw farn unoliaethol yn hurt ynddo'i hun. Tybiaf nad oes neb gwell na Cymraes danbaid, werinol , di-Gymraeg i bledio achos iaith y mae'n gweld fel elfen goll yn ei magwraeth .
Post a Comment