Dwi'n rhyw gytuno efo Alwyn a Jason bod y canlyniadau i'r Blaid ddydd Iau yn well na mae'r cyfryngau wedi awgrymu. Llwyddwyd i sefyll yn gryfach na'r pleidiau unoliaethol sy'n rheoli yn Llundain yn erbyn y llanw Llafur, ac roedd y Blaid yn ail clir. Yn wir roedd y canlyniad ymysg y tri gorau yn hanes y Blaid mewn llywodraeth leol.
Yn bwysicach efallai! mae yna is strwythur yn sefyll ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Cadwyd presenoldeb yn yr ardaloedd mae'r Blaid wedi llwyddo i sefydlu presenoldeb tros y ddegawd diwethaf - Wrecsam, Torfaen, ardaloedd dosbarth gweithiol yng Nghaedydd ac ati. Bydd yr amgylchiadau yn haws yn 2017 - bydd Llafur ar lefelau lleol a Chynulliad wedi gorfod cymryd llawer - llawer iawn o benderfyniadau amhoblogaidd, ac ar ben hynny mae'n ddigon posibl y byddant yn rheoli yn San Steffan erbyn hynny hefyd.
Dwi'n digwydd bod yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Dwy sedd yn unig sydd gan y Blaid yma bellach - mae'r ddwy yn y Tyllgoed. Ond ni fyddai'n cymryd newid mawr i ni ad ennill y seddi a gollwyd yng Nghreigiau, Glan yr Afon a'r Tyllgoed, ac ennill tair sedd ychwanegol yn Grangetown. Byddai hynny'n rhoi cyfanswm o 10 sedd. Byddai gogwydd ychydig yn fwy yn dod a thair sedd arall yn Elai, er bod rhaid cyfaddef i Mr Patel & co sefydlu gafael go gadarn ar Dreganna bellach. Mae cael gwleidydd fel Neil McKevoy ar Gyngor Caerdydd yn rhoi cyfle gwych i fynd ar ol pob cam amhoblogaidd y bydd rhaid i Lafur eu cymryd.
Ond mae dibynnu ar lanw a thrai etholiadol fel hyn yn gam gwag yn y pendraw - rydym yn agored i don arall o boblogrwydd Llafuraidd ymhellach yn y dyfodol. Yr hyn sydd rhaid ei wneud ydi difa'r ddadl tros bleidleisio i Lafur - ac ar un olwg dylai hynny fod yn hawdd. Mae llawer o'r sawl a bleidleisiodd i Lafur ddydd Iau wedi gwneud hynny oherwydd eu bod yn meddwl bod gwneud hynny yn ffordd o'u hamddiffyn eu hunain, eu cymunedau a Chymru. Yr eliffant yn ystafell Llafur ydi'r ffaith bod hanes yn dweud wrthym yn gwbl glir nad ydi pleidleisio i Lafur yn amddiffyn Cymru, cymunedau nag yn wir unigolion.
Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud i Lafur 'ennill' pob etholiad o bob math yng Nghymru ers 1918. Ac eto rydym yn dlotach na'r unman arall yn y DU, mae mwy o amddifadedd yma, mwy o ddibyniaeth ar y wladwriaeth les, mwy o ddiweithdra hir dymor, llai o fuddsoddiad, llai o gynhyrchu, llai o gyfoeth. Fydd yr ychydig flynyddoedd nesaf ddim gwahanol - bydd ein perfformiad economaidd cymharol yn parhau i syrthio yn ol, ac yn ol ac yn ol. Mae'r blog yma wedi trafod y rheswm pam ar sawl achlysur - does gennym ni ddim mynediad i'r lefrau economaidd fydda'n ein galluogi i wneud iawn am ein hanfanteision strwythurol a daearyddol.
Mae dyn yn deall pam na fyddai cyd bleidiau unoliaethol Llafur eisiau gwneud llawer o hyn - ond dyma'r unig opsiwn sydd ar gael i'r Blaid mewn gwirionedd - tynnu sylw at fethiant y presennol, methiannau'r gorffennol a chynnig llwybr cadarnhaol a chredadwy i gywiro'r sefyllfa yn y dyfodol. Mae pethau mor syml a hynny yn y bon.
6 comments:
er basai 'send Carwyn in Cardiff a message about his hospital closures' wedi bod yn handi iawn yn Llanelli
Byddai, mi fyddai.
Mae yna hen ddywediad ' All politics is local' . A yw hynny'n wir bellach ? .' All politics is national' Mae canlyniadau Ceredigion yn bryderus iawn, gan nad yw'r blaid Lafur yn bodoli yma, ac mae yna rhyw fersiwn arall o 'Llais Gwynedd' yn bodoli yma, sef y garfan annibynol. Mae nifer yn eu plith a fuasai wedi bod yn Bleidwyr 10 mlynedd yn ol, ond sy'n synhwyro , ar ol ffiascos Simon Thomas a Penri James, nad yw'r Blaid cyn cryfed nac mor unol ac yr oedd.
Bu gorymdeithio a gwrthdystio cryf adeg ys streiciau fis Hydref, a buasai rhywyn yn meddwl (yn niffyg ymgeiswyr Llafur, a'r ffaith fod y Lib Dems gyda nifer o gynrycholwyr yma) y buasai dibyniaeth Ceredigion ar y ector cyhoeddus yn gwarantu pleidlais gref i'r Blaid. Ofnaf , foddbynnag, fod llawer o'r gwrthdystwyr (Saeson oedd y mwyafrif) yn hapusach i beidio pleidleisio o gwbl, neu'n erbyn y Blaid .
Dwi'n teimlo y broblem fwyaf sydd gan Plaid i ddisodli Llafur yw nid newid y Blaid ond rhywbeth sydd tu allan i rheolaeth PC. A hynny yw y cyfryngau. I mi mae hwn yn broblem ANFERTHOL ac yn y bod ddi-ddemocrataidd. Yn syml, os ydych yn edrych ar bron bob maes mae Llafur ers 15mlynedd wedi rhoi smonach or peth lawr yn y Bae (yn endwedig yn y maes o addysg [heb law addysg blant 5-8 oed]).
Ond sna neb yn gwbod am hyn. Ac y gwirionedd yw, dim ots be neith Plaid Cymru- fydd Llafur ar dir hollol saff. Dwi'n sicr, pe bai cyfryngau Cymru wedi bod yn gryf.... fe fysa Llafur wedi colli grym yn 2007 os ddim 2003.
Dyna ywr gwirionedd yn fy marn i (ac yn anffodus!)
Dydi o ddim yn senario rhy ddrwg i PC-rhesaid o gynghorau Llafur yn gorfod cyflwyno'r toriadau mawrion y mae llywodraeth leol yn ei wynebu yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf. Hynny hefyd yn rheswm da dros bod yn falch nad ydi PC wedi cael mwyafrif clir yng Ngwynedd.Mae isio rhannu baich y diafol weithiau- tybed a ydi clymbleidio hefo Llais Gwynedd yn opsiwn yn hyn o beth? Byddai hynny hefyd yn eu herio nhw i ddangos y gallan nhw fod yn fwy na jest grwp protest chwerw a negyddol.
O ran Plaid Cymru yn gyffredinol- mae isio canolbwyntio ar ddau beth yn fy marn i. Yn gyntaf, gosod y pwyslais ar fod yn fudiad ymgyrchol/cenhadol a chreu prosiectau ymarferol all helpu pobol yn eu cymunedau.Yn ail, mae angen datblygu peirianwaith newyddion effeithiol all rhoi sylw i'r gweithgaredd hwn. Mae angen harnesu'r symudiad hwn tuag at newyddiaduraeth y dinesydd( citizens's journalism), e.e hyfforddi canghennau i recordio eitemau newyddion/barn cyson y gall pobol eu gweld ar y we( a chyfrannu atynt). Os ydan ni isio gweld Cyfryngau Cymreig yn datblygu- mae'n rhaid inni fynd ati i'w creu nhw ein hunain yn y lle cyntaf.
Aled GJ,
Dwi'n cytuno y dylsai Plaid newid tactis. Mae HenRech hefo syniadau da- cael pob cangen i roi press release allan i papurau lleol. Y reality yw, ydy bod papurau fel y Mail ar Chronicle- ma nwn chwilio am sotriau i lenwir papur... os fysa Plaid yn gallu paratoi datganiad ym mhop etholaeth ar ryw stori mae nhw yn ei ddilyn (yn lle disgwyl ir papurau ofyn i nhw).
Dwi hefyd yn teimlo y dylsai y Blaid neud fwy hefor cymuned. Na, dim agor social clubs. Ond jest pethau bychan fel llnau parc a ballu. Troi y Blaid yn ryw fath o mudiad. Rhaid dechrau neud hyn nawr, nid chydig o fisoedd cyn etholiad.
Fyswn i hefyd yn annog y Blaid i roi pwysau bob wythnos ar raglenni fel Newsnight i greu stori ar LlywodCymru.... dydy hyn ddim yn bydoli ar hyn o bryd.
Ynglyn a fidios a ballu / newyddion gan cangen. Ma hynny yn anodd. Os mae hynny am ddigwydd- ni ddylsai hein cael ei roi ar wefan Plaid (pam? wel pwy sydd yn mynd ar gwefan gwleidyddol i edrych ar newyddion?). Felly yn lle, pam ddim creu ryw bran newydd sydd ddim yn son am Plaid Cymru a cael newyddion ar hwnw?? (ond yn amlwg yn rhoi ochr y Blaid yn fwy ffafriol). Yn barod ma na ddigon o bethau "pro Plaid" ar YouTube y gellir rhoi ar y sianel yma.
Post a Comment