Sunday, May 13, 2012

Mwy o gobyldigwc o flog y Derwydd o Fon

Fydda i ddim yn ymweld a blog y Tori o Ynys Mon, Paul Williams ag y byddwn i, ond mi gefais gip ddoe. Yr hyn aeth a fy sylw oedd y blogiad ffuantus braidd yma.

Rwan mae Paul yn honni mai rhywun arall anhysbys sydd wedi 'sgwennu'r darn, ac os ydi o'n dweud hynny mae'n rhaid i ni dderbyn mai rhywun ag eithrio fo ei hun sy'n gyfrifol am y blogiad. Beth bynnag prif neges y darn ydi bod y Blaid yn colli tir ar lefel seneddol a lleol yng Ngwynedd a thu hwnt oherwydd mai pleidiau Prydeinig sy'n gwireddu agenda'r Blaid - pleidiau fel plaid Paul wrth gwrs.

Rwan, mae gan awdur y darn gymaint o hawl i'w farn na neb arall, ond yr hyn sydd yn fy mhoeni ydi'r defnydd o ffeithiau ac ystadegau ffug i gefnogi'r ddadl. Er enghraifft mae'r canlyniad cymharol agos yn Arfon yn etholiad cyffredinol 2010 yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth o ogwydd yn erbyn y Blaid yng Ngwynedd. Ond mewn gwirionedd gogwydd tuag at y Blaid o 3.7% a gafwyd yn etholaeth newydd Arfon o gymharu a chanlyniad damcaniaethol 2005. Does yna ddim cyfeiriad at fuddugoliaeth swmpus Ffred yn yr un etholaeth yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn ganlynol. Byddai hynny'n difetha'r propoganda.

Ceir cyfeiriadau at etholiadau a gollwyd gan y Blaid ar Fai 3 - Deiniolen, Bethel a Llanwnda, ond dim cyfeiriad at rai a enillwyd - Menai, Waunfawr, Gogledd Pwllheli, Brithdir ac ati. Ceir hefyd awgrym i'r Blaid symud yn ol rhwng etholiadau 2008 a 2012. Y gwrthwyneb sy'n wir. Enillwyd 35 sedd yn 2008 a 37 yn 2012.

Y gwir ydi nad oedd y Blaid yn rheoli'r hen Gyngor Gwynedd cyn 1999. Doedd gan y Blaid ddim mwyafrif yn y rhannau hynny o'r hen Wynedd a drosglwyddwyd i'r Gwynedd newydd chwaith. Doedd yna ddim mwyafrif - nag unrhyw beth tebyg i fwyafrif - yn y wardiau o gynghorau dosbarth Arfon, Meirion a Dwyfor a drosglwyddwyd i'r sir newydd chwaith. Doedd yna ddim mwyafrif nes i'r Cyngor newydd ddod i fodolaeth yn 1999.

Ers ffurfio'r Gwynedd newydd mae'r Blaid wedi ennill y canrannau canlynol o'r seddi oedd ar gael: 1999 - 52%, 2004 - 55%, 2008 - 46%, 2012 - 50%. Yn wir gellir dadlau mai tri phatrwm sy'n nodweddu hanes etholiadol Cyngor Gwynedd - llwyddiant rhannol Llais Gwynedd yn 2008 a 2012, cysondeb rhyfeddol y gynrychiolaeth Plaid Cymru ac Annibynnol a methiant llwyr y pleidiau unoliaethol i gystadlu. 'Dydi'r Toriaid erioed wedi ennill sedd, ac mae'r gynrychiolaeth Llafur wedi syrthio o 14.5% yn 1999 i 4.5% eleni, tra bod y gynrychiolaeth Lib Dem wedi syrthio o 7% i 1.5% tros yr un cyfnod.

Ymhellach ceir sylw bod nifer o wardiau trefol yn agos iawn. Mae hynny'n wir - ond roedd y wardiau agosaf yn tueddu i fod yn rhai a gollwyd o drwch blewyn gan y Blaid. Gallai mymryn o lwc fod wedi sicrhau'r etholiad gorau erioed i'r Blaid yng Ngwynedd. Collodd y Blaid mewn chwe gornest agos iawn - tair ym Mangor (ail sedd Menai), Garth a Dewi), Tregarth, Botwnnog a Nefyn. Byddai tua 100 pleidlais ychwanegol wedi ei ddosbarthu'n gywir yn y chwe sedd fod wedi sicrhau 58% o'r seddi ar y cyngor.

Mae gan flog Paul hanes o adeiladu naratifau gwleidyddol ar gobyldigwc ystadegol, ac rydym wedi edrych ar hynny yn y gorffennol. Dwi'n deall bod blogwyr eisiau gwthio eu gweledigaeth wleidyddol eu hunain - 'does yna neb yn fwy euog na fi o wneud hynny. Ond mae'n bwysig gwneud hynny ar sail ffeithiol. Un o gryfderau blogio gwleidyddol ydi bod gwybodaeth ar gael nad yw ar gael gan y cyfryngau prif lif. Mae cyflwyno gwybodaeth ffug yn niweidio hygrydedd y cyfrwng.

6 comments:

Anonymous said...

Mae gan Paul Williams obsesiwn gydag ystadegau. Ond y mae un set o ystadegau yn lliwio'i farn ar bopeth bron - sef, canlyniad etholiad Cynulliad 2011. I'n hatgoffa :

Ieuan Wyn - Plaid, 9,969 (41.4%)Druid Williams - Tori 7,032 (29.2%)

Roedd hyn yn ganlyniad trychinebus i Paul, o gofio, fod y Toriaid wedi gwneud mor dda ar draws Cymru gyfan y noson honno.

Hefyd, doedd cyfaill mawr teulu'r Williams, Rhostrehwfa - Peter Rogers, ddim wedi sefyll, na'r ymgeisydd UKIP ( o Fodorgan ). Mi ddylai fod wedi gwneud yn llawer iawn gwell na hyn.

Y gwir plaen oedd fod Paul Williams yn ymgeisydd uffernol o sal - ond Ieuan a'r Blaid yw targed ei gynddaredd a'i siom hyd heddiw.

Rhaid felly ystyried pob datganiad am y Blaid ganddo yn y goleuni hyn.

Dyn chwerw iawn yw Paul Williams mae arnai ofn! Dyn sy'n methu credu fod gwerin yr ynys wedi ei wrthod!

Hogyn o'r ynys

Anonymous said...

Rhaid deud mae ambell i flog gan y Druid yn dda iawn iawn. Ond teimlo ydw i bod o hefo obsesiwn hefo Plaid Cymru.

Anon 3.03pm
Do nath IWJ yn dda flwyddyn diwethaf, ond raid deud dwi wir yn poeni am pwy neith sefyll yna yn 2016. Maen debyg fe fydd IWJ yn sefyll lawr a does neb yn "waiting in the wings" fe y dylen nhw fod (dylsa bod nin datblygu rhywun nawr). Dwi yn ofni mai Heledd Fychan fydd yn sefyll ar Ynys Mon a dwnim os fysa lot yn cydweld gyda hi (lot fawr o "toris" a "liberals" bach yn pledleisio i IWJ).

Anonymous said...

Hogyn o'r ynys yn llygad ei le.

Mi gafodd Anthony Ridge-Newman, o Surrey, fu'n 'byw' ar yr ynys am dri mis cyn y lecsiwn 7,744 pleidlais. 700 yn fwy na Paul Williams!

Ar ben hynny mi gafodd Rogers 2,225 ag UKIP 1,201. Cyfanswm o ryw 11,000 felly i'r asgell dde.

Mi gollodd Paul Williams felly 4,000 o gefnogwyr o'r un anian a fo'i hun.

Ymgeisydd gwael iawn

Anonymous said...

Dwi'n cytuno bod Ynys Mon yn broblem i'r Blaid. Y peth annoying am y lle ydy unwaith da chin "colli'r set" (e.e fel nath IWJ ddwyn o gan y toris, yna Albert ddwyn o gan PC) maen anodd iawn i ddwyn o yn ol... nes mar AS/AC yn ymddeol.

Felly mae'n HOLL bwysig bod Ynys Mon yn penderfynnu ar ymgeisydd cryf RWAN. Oherwydd os yda ni am neud yn dda yn 2016 maen holl bwysig bod nin enill y seddi yma yn hawdd. Ac wrth gymharu 1999 a 2011 - da ni di colli % go fawr o votes.

Anonymous said...

Exсellent ρost. I'm dealing with a few of these issues as well..

Here is my site - Property for Sale

Anonymous said...

Thank you for the auspicious wrіteup. It in fаct ωas a amusеment account it.
Lоoκ advanced to moгe аdded agreеable from you!
Bу the waу, how сοuld we communicate?



Here is my wеb pagе: instant payday loans
my website :: instant payday loans