Monday, May 14, 2012

Hwyl fawr Peter

Mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn cofio Peter Hain fel gwleidydd o'r tu allan o Gymru aeth ati i ymgorffori holl dueddiadau anymunol y Blaid Lafur Gymreig - traha, llwytholdeb rhemp, rhagrith di feddwl a diffyg diddordeb llwyr mewn cyd weithredu efo elfennau gwleidyddol eraill yng Nghymru.

Bydd hefyd yn cael ei gofio fel gwleidydd oedd byth a hefyd ynghanol rhyw helynt neu'i gilydd - cymryd rhoddion ariannol o ffynonellau amheus ac anghofio eu datgan i'r awdurdodau priodol, defnyddio ei statws fel gweinidog y goron i hyrwyddo busnes ei wraig, ceisio hawlio treuliau ar ddau dy oedd wedi eu lleoli chwe milltir oddi wrth ei gilydd ar yr un pryd ac ati.

Er gwaethaf hyn oll mae'n dra phosibl y bydd y sawl sy'n 'sgwennu hanes Cymru yn y dyfodol yn garedig wrtho am un rheswm ac un rheswm yn unig - ei ran yn yr ymgyrch ddatganoli yn 1997. Hain oedd yn arwain yr ymgyrch Llafur, ac yn ei iard gefn yng Nghastell Nedd Port Talbot oedd y ganran 'Ia' ar ei huchaf. Bychan iawn oedd y mwyafrif tros Gymru, ac mae'n ddigon posibl na fyddai'r ateb wedi bod yn un cadarnhaol oni bai am Hain. Mae'n debyg bod datganoli yn symud ymhellach ac ynghynt na mae Hain yn gyfforddus na'n hapus efo fo - ond serch hynny mae wedi chwarae rhan pwysig i'n cael i'r man yr ydym ynddo heddiw.

Tybed pwy ddaw yn ei le? Mae Blogmenai yn cefnogi'r athrylith etholiadol a lwyddodd i golli'r Rhondda i Lafur yn ol yn 1999.

2 comments:

Anonymous said...

Fo neu Bryant fysan dda i'r Blaid.

Ond i Gymru swnin lyfio petai fysa Paul Flynn yn cael y swydd- ond never in europe!.

Ynglyn a Rhondda, oedd na unrhyw inquest o fewn y Blaid am canlyniadau- wedi edrych am wybodaeth ond allaim gweld dim.

Mae na dros 4,000 o bleidleisiau (maen deby rhai Plaid) wedi jest diflannu... oherwydd dim ond twf o 2,000 gafodd Llafur.

Be sydd wedi digwydd?!

Anonymous said...

Pobl oedd rhy brysur yn paratoi ar gyfer eu te parti jiwbili , mae'n rhaid !