Thursday, May 31, 2012

Crafu tros Gymru

Mae'n debyg y gallai'r Cynulliad grafu tros Gymru - yn wir ymddengys ei bod yn crafu tros Gymru ar raddfa grotesg ac eithafol mewn perthynas a Jiwbili Mrs Windsor. Gweler y rhodd isod mae'r ddeddfwrfa am ei anfon iddi.


Gobeithio na fydd Mrs Windsor yn chwydu ar ol darllen y ffasiwn druth crafllyd - mae'r ddynas mewn cryn oed, a byddai'n anffodus iawn petai rhodd y Cynulliad yn achosi niwed parhaol o rhyw fath iddi.

6 comments:

Unknown said...

Dim os fod Dafydd El a llaw yn hwn! Cyfoglyd!

Anonymous said...

Sionnyn-dyw dy sylw yn gwneud dim synnwyr.

Cai Larsen said...

Ydi os ti'n Ogleddwr. Mae 'dim os' yn golygu 'dim amheuaeth'.

Unknown said...

Diolch, Menai.

Anonymous said...

A diolch! Dwi ddim yn gog mae'n amlwg

Anonymous said...

Dyma be mae cardia cofi'n feddwl...

http://www.facebook.com/photo.php?fbid=245934958841286&set=a.156087587826024.23797.137135073054609&type=1