Wednesday, May 30, 2012

Costau'r Jiwbili a 'gwerth' y teulu brenhinol

Rwan bod y ffagl Olympaidd yn diflannu tuag at Loegr, bydd ein cyfryngau 'Cymreig' yn troi eu sylw tuag ar y jiwbili brenhinol. Mae rhai o'r cyfryngau hynny yn flin iawn oherwydd gwariant ar yr iaith Gymraeg. Felly efallai na fyddai'n ddrwg o beth i gael cip ar gost y jiwbili yn benodol a'r teulu brenhinol yn gyffredinol.


Yn ol astudiaeth diweddar gan Brand Finance mae'r ffigyrau yn rhai mawr.


Mrs Windsor a rhai o'i ffrindiau


Yn ol Brand Finance mae asedau 'cyffyrddiadwy'r' teulu yn dod i tua £18 biliwn.
Gellir ychwanegu £26 biliwn o asedau anuniongyrchol. Cyfanswm o £44 biliwn. Os ydych eisiau rhywbeth i gymharu hyn efo fo, £14.7 biliwn ydi cyfanswm cyllideb gyfredol y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys fwy neu lai yr holl wariant yng Nghymru ar y Gwasanaeth Iechyd a'r Gwasanaeth Addysg i dair miliwn o bobl.

Mi fyddwn yn clywed hyd at syrffed yr holl les fydd y sioe yn ei wneud i'r diwydiant twristiaeth. Yn ol yr adroddiad £924 miliwn fydd cyfanswm hyn, tra bydd cost y gwyl y banc ychwanegol ynddo ei hun yn £1.2 biliwn.

'Dydi'r adroddiad ddim yn edrych ar gostu diogelwch - sy'n debygol o fod yn anferthol. Mae'n debyg y bydd yr holl sioe yn costio cannoedd o weithiau'r hyn roedd y Western Mail yn honni ydi cost cyfieithu cofnod y Cynulliad i'r Gymraeg. Ond peidiwch a disgwyl i'r Bib na'r Western Mail ddweud hynny wrthych.

11 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Efallai fy mod i'n anghytuno â ti ar fater y Gemau Olympaidd - ond rydw i'n cytuno yn llwyr yn yr achos yma!

Does gen i ddim syniad sut y mae mwyafrif y boblogaeth yn cael eu hudo gan y teulu hollol erchyll yma.

Yr unig obaith ydi y bydd pobol yn dod at eu hunain unwaith y mae Charles ar yr orsedd.

Cai Larsen said...

Mae gen i ofn bod eu poblogrwydd yn dysteb i rym y cyfryngau torfol Ifan.

Ifan Morgan Jones said...

Dydw i ddim yn siwr ai'r cyfryngau torfol yn unig sy'n gyfrifol am boblogrwydd y Teulu Brenhinol.

O roi ein hunain yn esgidiau cenedlaetholwyr Prydeinig am funud, cefnogaeth tuag at y Teulu Brenhinol yw un o'r ychydig bethau fyddain yn ein cysylltu ni gyda 'cymuned dychmygol' o genedlaetholwyr eraill. Hynny yw, drwy gymryd rhan mewn parti stryd yn ystod Jiwbili'r Diemwnt, fe fydden ni'n teimlo ein bod ni'n rhan o gymuned a traddodiad ehangach sy'n rywbeth parhaol a hefyd yn hynafol.

Does dim angen hyn arnom ni'r Cymru achos mae'r iaith a'n Cymreictod yn ein 'huno' ni'n barod - rydyn ni'n teimlo yn rhan o gymuned ehangach o Gymru.

Yn ogystal a hyn, mae'r teulu Brenhinol yn rhoi cyfle i Brydeinwyr deimlo bod y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn rym pwerus yn y byd. Wedi'r cwbwl, mae'r Frenhines yn bennaeth ar sawl gwlad gwahanol. Petai'n cael ei disodli, byddai yn rhai dod i delerau gyda'r ffaith nad yw'r Deyrnas Unedig yw wlad o bwys rhagor, ond yn hytrach yn wlad weddol di-nod ar gyrion Ewrop.

Yn ogystal a hyn mae'r Teulu Brenhinol, i nifer o bobol hy^n, yn un peth sydd wedi aros yr un fath ar hyn y degawdau. Mae'r Frenhines wedi bod yno ers 60 mlynedd. I bobol yn eu 50+, mae hi 'fel nhw' (er ein bod ni'n gwybod ei bod h'n byw bywyd hollol wahanol iddyn nhw).

Rydw i'n proffwydo y bydd y swyngyfaredd yma yn diflannu i raddau helaeth unwaith y bydd Charles yn esgyn i'r orsedd.

Un o Eryri said...

Tra yn cytuno a pob gair yr wyt yn ddweud, mae rhaid i ni ddilyn esiampl yr Albanwyr. Nid dyfodol y teulu brenhinol sydd yn bwysig i ni fel gwlad ond yn hytrach Hunan Lywodraeth. Gwell genny weld Cymru gyda yr un math o Hunan Lywodraeth ac Awstralia o dan y Frenhiniaeth dyweder na Chymru o dan Loegr mewn Brenhiniaeth neu gweriniaeth.

Anonymous said...

Rhywbeth pwysicach na hunan lywodraeth yw hunan barch. Dydw'i ddim yn gwybod os da chi wedi cael y cyfle i ddarllen datganiad jiwbili y cynulliad - (gweler blog Syniadau), ond tydi cenedl mor daeog a hyn ddim yn mynd i ennill hunan lywodraeth, nac yn ei haeddu chwaith.

Hogyn o Rachub said...

Cytuno i'r carn efo Un o Eryri. Dydw i ddim yn dallt yn y mymryn lleiaf obsesiwn cenedlaetholwyr efo'r teulu brenhinol. Annibyniaeth sy'n bwysig i ni, ac yn hynny o beth gwastraff ymdrech ac egni ydi inni boeni amdanyn nhw. Dwi'n casáu'r propaganda Prydeinig ynghylch y Jiwbilî, ond byddai propaganda Prydeinig ddim yn dod i ben efo gweriniaeth (tasa fo'n weriniaeth tebyg i Ffrainc, mi fyddai o'n waeth).

Efallai bod hynny i raddau gan nad oes gen i yn bersonol unrhyw wrthwynebiad moesol tuag at y syniad o deulu brenhinol. Ond alla i ddim ond â helpu teimlo dro ar ôl tro ein bod ni'n trafod rhywbeth a ddylai fod yn ddibwynt i genedlaetholwyr - mater ôl-annibyniaeth ydi dyfodol rôl y teulu brenhinol yng Nghymru.

Mae'r syniad o Weriniaeth Brydeinig yr un mor atgas imi â'r sefyllfa sydd ohoni rwan. Os ydan ni wir isio ymgyrch sy'n berthnasol i Gymru o ran y teulu brenhinol, beth am ddechrau ymgyrch i sicrhau nad yw mab cyntaf-anedig teyrn Prydain yn cael teitl sarhaus 'Tywysog Cymru'?

Anonymous said...

Hello would you mind sharing which blog
platform you're working with? I'm looking to start my own blog soon but I'm having a difficult time deciding between BlogEngine/Wordpress/B2evolution and Drupal. The reason I ask is because your layout seems different then most blogs and I'm looking for something unique.
P.S My apologies for getting off-topic but I had to ask!



My website :: hardwood flooring

Anonymous said...

Excellent beat ! I wish to apprentice while you amend your web site, how could i subscribe for a blog website?

The account helped me a acceptable deal. I had been a little bit acquainted
of this your broadcast offered bright clear concept

Feel free to visit my homepage ... Your Domain Name

Anonymous said...

Greetings, I do believe your web site could possibly be having browser compatibility problems.
When I look at your site in Safari, it looks fine however,
when opening in Internet Explorer, it's got some overlapping issues. I merely wanted to give you a quick heads up! Aside from that, excellent website!

Feel free to visit my web-site; hardwood floors prices
Also see my web site: hardwood floors

Anonymous said...

Generally I do not read post on blogs, but I would like to say
that this write-up very forced me to check out and do it!

Your writing taste has been surprised me. Thank you, very nice article.


My blog :: This Webpage

Anonymous said...

Hello to every one, the contents present at this website are in
fact awesome for people experience, well, keep up the nice work fellows.


Also visit my web-site: zetaclear nail fungus relief
My site > nail fungus zetaclear