Monday, May 21, 2012

Argymhellion Cheryl Gillan ar gyfer y Cynulliad

Felly mae Cheryl Gillan yn argymell yr hyn roedd pawb yn disgwyl iddi ei awgrymu ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn y dyfodol. Ei bwriad ydi lleihau'r nifer o etholaethau uniongyrchol o 40 i 30 yn unol a'r newidiadau yn etholaethau San Steffan, tra'n cynyddu'r nifer sy'n cael eu hethol trwy'r rhestrau rhanbarthol o 20 i 30.


Rwan mae hyn yn fwy teg na'r hyn mae Llafur yn bygwth ei wneud - mabwysiadu dull fyddai'n caniatau i'r blaid honno gael hyd at 60% o'r seddi gyda 30% o'r pleidleisiau. Ond mae'n dal yn ddull diffygiol. Mae dau reswm am hyn. Yn gyntaf mae'n ddull sy'n gwobreuo methiant etholiadol, ac yn ail mae'n caniatau i bleidiau yn hytrach nag etholwyr ddewis pwy sy'n eistedd yn y Cynulliad. Yn wir penderfyniad criw bach o Doriaid sy'n eistedd ar Fwrdd Rheoli'r Blaid Doriaidd oedd yn gyfrifol am ddewis tua hanner eu ASau - gweithred cwbl ddi gywilydd o anemocrataidd sydd heb gael unrhyw sylw gan y cyfryngau prif lif yng Nghymru.

Argymhelliad Blogmenai ydi diddymu'r etholaethau Cynulliad presenol, cynyddu nifer yr ACau o 60 i 80, mabwysiadu trefn STV a defnyddio'r siroedd fel unedau etholiadol aml aelod. Gallai hyn olygu y byddai gan Ynys Mon ddau aelod, Gwynedd tri, Rhondda Cynon Taf pump a Chaerdydd saith.

Byddai nifer o fanteision i'r dull yma.

1. Mae'n lled gyfrannol.
2. Mae'n sicrhau bod cysylltiad gan pob aelod efo etholaeth.
3. Mae'n trosglwyddo grym oddi wrth beiriannau gwleidyddol i etholwyr.
4. Mae'n osgoi gormod o ffiniau etholiadol gwahanol.
5. Mae'n caniatau i gefnogwyr pleidiau gwahanol gael cynrychiolaeth lleol o'u plaid eu hunain. Byddai gan y Toriaid a Phlaid Cymru gynrychiolaeth yng Nghaerdydd, a byddai gan Llafur (mae'n debyg) gynrychiolaeth yng Ngwynedd.

Ond 'dydw i ddim yn dal fy ngwynt mae gen i ofn. Y perygl ydi y byddwn naill a'n cael ein hunain efo trefn sy'n sicrhau mwyafrif llwyr i Lafur, neu un sy'n sicrhau bod yr Old Boys Club sy'n rhedeg y Blaid Doriaidd yng Nghymru mewn sefyllfa i roi swyddi fel ACau i'w mets. Mater o pa blaid fydd yn gwneud y penderfyniad ydi o mae gen i ofn.

1 comment:

Anonymous said...

Mae cynnig Gillam 100% yn well nag un Llafur.

Gallai Llafur fod wedi cynnwys cymal am etholiadau yn Neddf Cymru 2006 a'r Refferendwm ddilynol. Ond roedd yn well gan Carwyn Jones gadw'r grym dros etholiadau Cymru yn San Steffan. Ei fai ef, Hain a Rhodri Morgan yw hynny a neb arall.

Dal ati Gillan. Ti'n gwneud cyfraniad enfawr i ddemocratiaeth Cymru.

Y cam nesa yw PR yn etholiadau sirol Cymru.


Twpsyn