Wednesday, February 01, 2012

Mwy o swyddi yn cael eu colli yng Nghaernarfon

Mae Ffred yn gwbl gywir i nodi bod cau swyddfa Tinopolis yn Nghaernarfon yn slap i'r dref gyfan yn ogystal ag i'r unigolion anffodus sydd wedi colli eu gwaith.

Yn draddodiadol mae economi'r dref hynod Gymreig yma wedi bod yn ddibynol i raddau ar ei statws fel canolfan gyfreithiol, canolfan llywodraeth leol a chanolfan siopa. Mewn blynyddoedd diweddar daeth y diwydiant teledu yn bwysig hefyd.

Mae pob un o'r pileri hyn i economi'r ardal wedi cael slap yn ddiweddar. Mae'r toriadau syfrdanol i gyllideb S4C yn ogystal a thranc Barcud wedi tanseilio'r diwydiant teledu, mae penderfyniad y llywodraeth Llafur blaenorol yn Llundain i beidio ag agor carchar yn yr ardal wedi bod yn golled sylweddol, mae'r grymoedd sydd wedi cau siopa ar hyd a lled y DU wedi effeithio ar y dref hefyd, ac mae toriadau yng nghyllideb Cyngor Gwynedd hefyd wedi cael effaith negyddol.

Ond 'dydi hyn oll yn ddim wrth ymyl cynlluniau Llais Gwynedd i ddifa 600 o swyddi llywodraeth leol. Os byth y caiff y meicrogrwp eu dwylo ar rym yng Ngwynedd bydd yn fwy o drychineb i economi tref Gymreiciaf Cymru na'r datblygiadau uchod nag yn wir unrhyw beth arall sydd erioed wedi digwydd yn ei hanes - wel ers dyddiau Glyndwr beth bynnag.

5 comments:

Anonymous said...

Cytuno - byddai cynlluniau Llais Gwynedd i ddiswyddo 700 o weithwyr cyngor yn ergyd farwol i economi Caernarfon a sawl ardal arall o Wynedd.

Hyd yn hyn tydi'r cyfryngau heb herio Owain Williams, Loise Hughes ar criw ynglyn ag effaith y polisi Thatcheraidd yma ar economi, iaith ac ysgolion gwledig y sir - yn enwedig o gofio mai Seimon Glyn yw Arweinydd Portffolio Adnoddau Dynol Gwynedd!!

Gan fod dyfodol cymunedau Cymraeg Gwynedd yn dibynu ar y swyddi yma, mae angen i'r undebau llafur sy'n cynrychioli staff y cyngor ynghyd a grwpiau gwleidyddol cymhedrol Gwynedd a grwpiau cymunedol megis Cymuned a Chymdeithas yr Iaith ymuno a'r Blaid i gondemnio'r polisi gwallgo yma.

Anonymous said...

Ydy Seimon Glyn wedi cadarnhau ffigurau ei arweinydd - a'i fwriad i gyflogi "arbenigwr" allanol i dorri swyddi Gwynedd?

Efallai dylai'r aelodau meinciau cefn herio'r aelod cabinet SG ar hyn?

Anonymous said...

Ar ol ail-ddarllen "Caerdydd, Caerdydd" (fe wnes ymateb sawl gwaith) a rhifyn heddiw o Golwg rwyf wedi anfon y llythyr isod i Golwg (ar gyfer colofn lythyrau wythnos nesaf y cylchgrawn):
Annwyl Olygydd,
Caniatewch i mi gwblhau brawddeg gan JCB yr wythnos ddiwethaf: "31 diwrnod o wyliau, oriau hyblyg a chyflogau bras hefo'r posibilrwydd o leoli'r swydd yng Nghaerdydd!". A oes angen dweud mwy? Wel oes...
Mae'r pot mel Cymraeg yng Nghaerdydd wedi tyfu'n rhy fawr yn y brifddinas yn ystod y 30+ mlynedd ddiwethaf. Rhaid taenu'r mel yn decach o amgylch Cymru gyfan. Mae gan e.e. S4C a theledu Cymraeg, ein Prifwyl a BYIG record anfoddhaol o leoli gormod o swyddi sy'n talu'n dda yng Nghaerdydd. A yw digon o aelodau Plaid Cymru (y blaid sy'n honni ei bod hi'n malio fwyaf yng nghylch y byd Cymraeg) yn fodlon ymateb? A beth yn union ydi'r lol CymruX yma (adran ieuenctid PC)? Mae hwn hefyd yn ry Caerdydd-centric!
Nid Cymdeithas yr Iaith sydd berchen y gwir pob tro, ond efallai mai'r mudiad yma ydi'r callaf:os yw'r Gymraeg i fyw rhaid i bopeth newid gan gynnwys (yn fy marn i)llai o lol Caerdydd-centric ! Diolch yn fawr iawn am newyddiaduriaeth ddisglair Barry Thomas a mymryn o synnwyr cyffredin gan Alun Ffred Jones (AC Arfon) ar dudalen 4 yr wythnos ddiwethaf. Ac os yw'r caswir yn brifo aelodau eraill o Blaid Cymru yna sori, ond rhaid i chi ddod at eich coed! Hyfryd fyddai gweld pris tocynnau tren rhwng y gogledd a Chaerdydd yn gostwng-afrealistig, ond dyma sy'n deg. Ond nid oes gen i ddiddordeb mewn tren grefi!
Martin

Anonymous said...

Roedd y diweddar Gwilym Euros, Llais G isio dileu 1,000 o swyddi.

Anonymous said...

ydi cai larsen yn od? o, yndi