Tuesday, February 07, 2012

Naz Malik a'r Blaid Lafur

Mae'n gas gen i godi hyn, ond onid ydi'r cwestiwn os oes cysylltiad rhwng methiant llwyr llywodraeth Cymru i weithredu ar adroddiad ar broblemau yn AWEMA yn ol yn 2005 a'r ffaith bod pennaeth y corff , Naz Malik efo cysylltiadau agos a'r Blaid Lafur Gymreig, yn un cwbl briodol?



Safodd mab Mr Malik, Gwion Iqbal Malik tros y Blaid Lafur yn etholiadau'r Cynulliad y llynedd yn rhanbarth y Gorllewin a'r Canolbarth, ac mi gafodd Gwion, Naz Malik a Carwyn Jones gryn dipyn o hwyl yn mynd o gwmpas y rhanbarth yn canfasio.   'Doedd Mr Malik, er gwaethaf natur ei gyflogaeth, ddim yn gweld problem mewn mynegi cefnogaeth i Diane Abbott yn ystod yr ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig.  Roedd hefyd yn hapus iawn i gymryd rhan mewn sterics chwerthinllyd ynglyn a hiliaeth gwrth Seisnig honedig  mewn cyfnod pan roedd naratif y Blaid Lafur Gymreig yn cysylltu'r Mudiad Cenedlaethol efo hiliaeth o'r fath. 



Tybed os byddai Mr Malik wedi cael rhwydd hynt i fynd trwy'i bethau am cyhyd oni bai am ei gysylltiadau efo'r blaid sydd wedi llywodraethu yng Nghymru Cymru ers 1997? 

Efallai, ond mae ymateb chwyrn llywodraeth Cymru i gynghorau a chyrff cyhoeddus eraill sy'n ymddwyn mewn ffyrdd amhriodol neu ddiffygiol yn cyferbynnu'n amlwg iawn efo'u diffyg ymateb i ddiffygion amlwg AWEMA o dan oruwchwyliaeth Naz  Malik. 

2 comments:

Anonymous said...

Yn union! So, pam nad yw Plaid Cymru yn dweud hyn - pam mae Aled LibDem sy'n siarad ar y cyfryngau? Plaid Cymru dal ofn cael eu gweld yn honedig 'hiliol'?

Mae hyn yn sgandal.

Anonymous said...

Plaid llipa yw Plaid (PC) Cymru!