Wednesday, February 15, 2012

Araith Mr Bebb

Fel 'dwi wedi son eisoes 'dwi i ffwrdd ar hyn o bryd, ac mae fy mynediad i gyfrifiadur yn gyfyng braidd, ond mi hoffwn i wneud sylw neu ddau brysiog am ddarlith radio fy nghymydog Guto Bebb.

A bod yn ddigon digywilydd i grisialu'r hyn sydd gan Guto i'w ddweud i ychydig eiriau craidd ei ddadl mewn gwirionedd ydi bod llwyddiant y mudiad hawliau iaith wedi bod yn lwyddiant anghytbwys sydd wedi gwthio llawer o siaradwyr Cymraeg i weithio yn y sector cyhoeddus, a bod yna beryglon sylweddol i'r iaith yn deillio o hynny.

'Dydw i ddim yn anghytuno efo'r dadansoddiad ar un lefel, ond mi'r ydw i'n cael problem efo rhannau sylweddol ohoni ar lefel arall. Nid yn y Gymru Gymraeg yn unig mae'r sector cyhoeddus wedi tyfu wrth gwrs, mae wedi tyfu ar draws y wlad ac mewn nifer fawr o ardaloedd di Gymraeg, yn arbennig felly ar yr hen faes glo. Canlyniad patrwm ehangach tros y DU ydi hyn yn rhannol, ond mae hefyd yn ganlyniad i wendid y sector preifat yn yr ardaloedd dan sylw.

Mae yna resymau strwythurol da tros y gwendid yma - does yna ddim llawer o gymhelliad yn y sefyllfa sydd ohoni i fuddsoddi yn y sector cynhyrchu (er enghraifft) mewn ardaloedd sydd ymhell oddi wrth y marchnadoedd mawr? Pam cynhyrchu gwely neu deledu ym Merthyr neu ym Mhwllheli pan y gallwch wneud hynny ym Mirmingham?

Ac eto, os safwch wrth yr A55 yn fuan wedi i long fferi ddadlwytho mi welwch lori ar ol lori yn symud nwyddau sydd wedi eu cynhyrchu ymhell, bell oddi wrth farchnadoedd mawr Ewrop tuag at yr union farchnadoedd hynny. Pan maent yn mynd trwy Ogledd Cymru maent yn mynd trwy ddiffeithwch o safbwynt cynhyrchu. Mae'r rheswm am hynny yn weddol syml - mae llywodraeth Iwerddon yn rhoi cymhelliant trethiannol cryf i gwmniau leoli yn y Weriniaeth. Dydi hynny ddim yn digwydd yng Nghymru. Mae treth cofforaethol yn llawer is yn Nulyn nag ydyw yng Nghaergybi.

Y ffordd orau i ddelio efo'r anghyfartaledd yma fyddai i Gymru gael y grym i bennu ei threthi ei hun trwy fod yn annibynnol. Efallai nad ydi Guto yn teimlo y gall gefnogi hynny, ond hwyrach y gallai ddefnyddio ei ddylanwad i wireddu'r ail beth gorau o'r safbwynt yma - cael treth gorfforaethol sy'n amrywio yn ol amodau lleol yn y DU.

7 comments:

Anonymous said...

Dywedodd Guto Bebb : "Pam na all yr hyn sydd wedi digwydd yn Slofenia a’r Wladwriaeth Tsiec ddim bod yn ateb i’n anghenion ninnau yma yng Nghymru?"

Beth sydd wedi digwydd yn y gwledydd annibynnol rhain felly?

menaiblog said...

Dyna'r cwestiwn y dylai GB fod yn ei ofyn iddo'i hun.

Anonymous said...

Os wyt ti wedi sylwi.....mae Dylan Jones Evans yn euog o wneud yr un fath o beth....yn clodfori'r Ffindir i'r cymylau yn barhaus. Mae'r Ffindir yn wlad annibynol. Mi wnes i ofyn hyn iddo ar ei flog rywbryd....beth oedd ei ffrindiau Ffinaidd yn meddwl o Gymru fel rhan o'r DU a'i wrthwynebiad yntau a'i blaid i annibyniaeth yma. No chafodd fy sylw ei gyhoeddi. :-)

menaiblog said...

Wel, na - efallai na ddylid disgwyl ateb gan fod y cwestiwn yn mynd i galon yr hyn ydi'r Toriaid Cymreig. Maent o blaid gwneud hyn a'r llall i godi'r economi yng Nghymru, ond fedran nhw ddim hyd yn oed gael eu hunain i ystyried gadael i Gymru gael y grym i fynd i'r afael a'i phroblemau.

Mae Cymru dlawd oddi mewn i'r DU yn fwy derbyniol iddynt na Chymru annibynnol gyfoethog.

Anonymous said...

Gwynfor mewn araith yn 1966:

Ganrif yn ôl gellir cymharu gadernid y Gymraeg yng Nghymru a'r Ddaneg yn Nenmarc. Ond erbyn heddiw mae'r Ddaneg yn iaith pawb yn Nenmarc, yn iaith ei holl fywyd hi, ei phrifysgolion hi a'i ysgolion oll, ei phapurau newydd , llysoedd y gyfraith, y llywodraeth, ei theledu, operâu, theatr genedlaethol. Ond am Gymru druan edrychwch ar adfeilion y Gymraeg mewn llawer tref a sir.

http://www.youtube.com/watch?v=nOFC2moJAus

Anonymous said...

n

Anonymous said...

araith wych Guto! Da iawn chdi.