Sunday, February 12, 2012

Pwy ydi rhamantydd emosiynol mewn gwirionedd?

Mae'n ddrwg gen i ddychwelyd at fater cymhleth ac o bosibl cwbl anealladwy Dafydd Elis Thomas ac annibyniaeth, ond fedra i ddim atal fy hun rhag gwneud un sylw arall wedi darllen y blogiad yma ar y blog Syniadau.

Rwan welais i ddim o CF99, ond mae'n ymddangos bod DET wedi dychwelyd at y syniad o DU ffederal mewn Ewrop ffederal ac ati, ac ati. Ar tua'r un pryd roedd yn awgrymu yn Golwg mai rhamantiaeth emosiynol ydi'r ddelfryd o Gymru annibynnol.

Meddyliwch am honna am funud bach. Ymddengys bod Dafydd o'r farn y gall y Blaid berswadio gwladwriaethau mawr megis y DU, yr Almaen a Ffrainc (sydd wedi treulio cyfnodau go lew o'r ganrif ddiwethaf yn lladd trigolion ei gilydd yn eu degau o filiynau er mwyn amddiffyn eu hannibyniaeth)yn fater ymarferol bosibl, tra bod creu gwladwriaeth Gymreig yn anymarferol. Ac ymhellach mae'n ymddangos ei fod yn credu hynny yng nghyd destun cyfnod lle mae nifer fawr o wladwriaethau newydd yn cael eu ffurfio yn Ewrop, ond lle nad oes yna'r un gwladwriaeth wedi ildio ei statws gwladwriaethol er mwyn cael bod yn rhan o endid ffederal.

Wir Dduw - pwy sy'n rhamantu mewn gwirionedd?

10 comments:

Siônnyn said...

Mae agwedd yr Arglwydd Tomos yn hawdd i ddeall pan ystyriwch y ffaith na fydd hawl ganddo gadw ei deitl un waith daw Cymru'n rhydd o Loegr.

"Mr" Elis Thomas unwaith eto? Syniad hololol wrtun iddo!

Anonymous said...

Mae'n debyg y bysa'r hyn mai DET yn ddisgrifio o ran yr angen i ddwyn perswad ar wladwriaethau mawr Ewrop i adnabod bodolaeth wlad fach newydd yn wir o dan unrhyw ddiffiniad o annibyniaeth.

Yr her go iawn ydi esbonio nodweddion annibyniaeth mewn ffordd sy'n ddeniadol i bobl Cymru: economi, cyfraith a threfn, adnoddau craidd.

Mae eisiau mwy na soundbites i ennill meddyliau a chalonau.

maen_tramgwydd said...

Di-enw 12.29

Mae’r syniad o annibyniaeth yn un gymharol syml. Gwlad sofran sydd yn aelod o’r Cenhedloedd Unedig (yr ‘UN’). D’oes dim diffiniad arall hyd y gwela i. Os oes, mynegwch, os y gallwch.

Mae’n debyg fod o leiaf dros hanner cant o wledydd sofran wedi dod i fodolaeth ers 1945, ac maent i gyd wedi ei derbyn i mewn i gyflawn aelodaeth y CU.

Os bydd pobl yr Alban (neu Cymru) yn dewis y statws yma mewn refferendwm ddemocrataidd, bydd dyletswydd cryf ar aelodau eraill y CU ei hadnabod fel un ohonynt. Ni fydd unrhyw broblem ynghlyn a’r peth.

“Yr her go iawn ydi esbonio nodweddion annibyniaeth mewn ffordd sy'n ddeniadol i bobl Cymru: economi, cyfraith a threfn, adnoddau craidd.”

Yn y gorffennol mae amharodrwydd y Blaid i ddiffino’r term ‘annibyniaeth’ (neu i ymdrin yn onest efo’r cysyniad) er ei bod yn un syml iawn yn y bôn , wedi bod yn esgus i beido a hyd yn oed rhoi cynnig ar y dasg sylweddol o‘i throsi i ffurf dderbyniol i’n cyd-ddinasyddion.

Yn fy marn i mae’n hen amser i ni ddechreu’n ddifrifol ar y gwaith. Yn gyntaf mae’n rhaid cael arweinydd sydd yn credu yn gryf ynddo.

Ar ôl gwrando ar nifer o ddatganiadau Dafydd Elis-Thomas ar y pwnc dros y blynyddoedd, dwi’n credu nad yw o blaid annibyniaeth i Gymru yn y pen draw, beth bynnag mae o’n ei ddweud yn awr. I fod yn onest, d’oes gen i ddim syniad beth yn hollol mae o yn ei gefnogi. Felly, fel cenedlaetholwr fedra i ddim pleidleiso drosto i fod yn arweinydd y Blaid.

Dwi ddim yn meddwl y gall Dafydd ennill meddyliau a chalonnau pobl Cymru chwaith.

Un o Eryri said...

Os wyt yn son am ramantydd emosiynol dylet edrych yn fwy gofalus ar Leanne Wood mae gennyf ofn. Bum yn Bae Colwyn ddoe mewn cyfarfod gyda'r tri ymgeisydd. Pan ofynais gwestiwn i Leanne ar ysoglion 21ain ganrif, cefais ateb rhamantaidd cwbl wallgof mae gennyf ofn. Yr ateb oedd ei bod yn credu y dylsai pob cymuned a phentre gael siop, tafarn a ysgol ynddynt. Nawr efallai ei fod yn anodd cyfiawnhau i'r Cyngor dalu am Ysgol mewn pentref bychain, ond duw a wyr os oedd yn disgwyl i'r Awdurdod Lleol dalu am gael siop a thafarn yn y pentref hefyd. Mae gennyf ofn mai Leanne sydd gan y gwleidyddiaeth emosiynol a hollol anymarferol. Os buasai Leanne yn cael ei hethol fel arweinydd mae gennyf ofn mai testun sbort buasai'r Blaid am flynyddoedd

Un o Eryri said...

Os wyt yn son am ramantydd emosiynol dylet edrych yn fwy gofalus ar Leanne Wood mae gennyf ofn. Bum yn Bae Colwyn ddoe mewn cyfarfod gyda'r tri ymgeisydd. Pan ofynais gwestiwn i Leanne ar ysoglion 21ain ganrif, cefais ateb rhamantaidd cwbl wallgof mae gennyf ofn. Yr ateb oedd ei bod yn credu y dylsai pob cymuned a phentre gael siop, tafarn a ysgol ynddynt. Nawr efallai ei fod yn anodd cyfiawnhau i'r Cyngor dalu am Ysgol mewn pentref bychain, ond duw a wyr os oedd yn disgwyl i'r Awdurdod Lleol dalu am gael siop a thafarn yn y pentref hefyd. Mae gennyf ofn mai Leanne sydd gan y gwleidyddiaeth emosiynol a hollol anymarferol. Os buasai Leanne yn cael ei hethol fel arweinydd mae gennyf ofn mai testun sbort buasai'r Blaid am flynyddoedd

maen_tramgwydd said...

Un o Eryri

Sut y gall rywun ddod i gasgliad mor feirniadol ar ôl clywed ateb i un cwestiwn ar addysg?

Fe gafodd y tri ymgeisydd ei holi ar nifer o bolisiau creiddiol y Blaid ar y rhaglen 'Sharp End' y noson o'r blaen.

Yn fy nhyb i, rhoddodd Leanne atebion doeth, call ac onest. Credaf mai hi oedd y gorau ohonynt. Er hynny, dwi ddim yn cydweld a hi ar nifer o bethau.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae'r parti wedi llithro'n ôl cryn dipyn. Dwi'n credu mae dyma'r amser i ni fentro a dewis arweinydd sydd a potensial i ledu apel y mudiad cenedlaethol.

Mae DET wedi arwain y Blaid am gyfnod yn y gorffennol, a ni fu yn llwyddianus. Mae o yn debyg o rannu’r Blaid, a buasai hynny yn drychinebus.

Er bod Elin yn alluog, nid oes ganddi y carisma anghenrheidiol i arweiniwr plaid wleidyddol yn y ganrif hon. Gallaf dderbyn ei harweinyddiaeth, ond ofnaf bydd y Blaid ar y goreu yn aros yn yr un lle os caiff ei hethol.

Er eu gwendidau, yn y diwedd mae dyletswydd arnom i ddewis un o'r tri.

Felly, fy newis i yw Leanne. Bydd rhaid i ni aros i weld sut fydd pethau yn gweitho allan ar ôl y bleidlais.

Anonymous said...

Eh?
Ond ar sharpend (ITV- dydd iau) fe nath DET ddweud y bod o eisiau annibybiaeth i Gymru- yr un math a mae'r Alban eisiau.

Dwi ddim yn dalld y boi 'ma!

Un o Eryri said...

Mae'n ddrwg gennyf mae'n_tramgwydd, ond nid beirniadu ar sail ateb i un cwestiwn oeddwn, beirniadu ar ateb i un cwestiwn gennyf i yn Bae Colwyn, beirniadu ar ateb un cwestiwn hollol wahanol gennyf i yn Blaenau Ffestiniog, a beirniadu ar atebion i sawl cwestiwn arall gan bobl gwahanol yn gwahanol lefydd. Hefyd ei beirniadu ar ei diffyg ymarferoldeb llwyr. Mae rhaid cael gwleidyddiaeth ymarferol, ac atebion sydd yn bosibl llywodraethu gyda, neu fel arall 'rydym i gyd yn debyg o fynd lawr y trywydd o'r Lleisiau Gwirion yn Gwynedd. Cwyno ond dim gobaith mul o lywodraethu, ond ar yn amser gwneud drwg i llawer iawn o bethau da sydd sydd yn cael ei wneud

Anonymous said...

Un o Eryri,

"Yr ateb oedd ei bod yn credu y dylsai pob cymuned a phentre gael siop, tafarn a ysgol ynddynt. Nawr efallai ei fod yn anodd cyfiawnhau i'r Cyngor dalu am Ysgol mewn pentref bychain, ond duw a wyr os oedd yn disgwyl i'r Awdurdod Lleol dalu am gael siop a thafarn yn y pentref hefyd."

Wyt ti wedi darllen 'Cynllun Gwyrdd i'r Cymoedd"? Os wyt ti, fe ddylet ddeall yn iawn nad yw Leanne yn credu mai Llywodraeth Leol ddylai fod yn talu am redeg siop a thafarn mewn pentrefi. Hynny ydy'r math o syniadau asgell chwith y mae pobl yn hoff o'u pinio ar Leanne, ond nid dyna sydd ganddi mewn golwg o gwbl. Y syniadau mae hi'n sôn amdanynt yn y Cynllun Gwyrdd, ac yn ei gweledigaeth i'r Blaid a Chymru, yw helpu i greu cymunedau cynaliadwy - mae hynny'n cynnwys hwyluso'r ffordd i bobl ddod at ei gilydd i greu mentrau cydweithredol neu gymdeithasol gan gymryd yr awennau dros siop neu dafarn neu ganolfan neu neuadd yn ein cymunedau sydd dan fygythiad o gau. Nid yr Awdurdod Lleol yn eu hariannu a'u cynnal. Grantiau i gychwyn arni, efallai, boed o'r Awdurdod Lleol, Cronfa'r Loteri Fawr ac ati, ond sicrhau bod y mentrau hynny wedyn yn nwylo'r gymuned ac yn cael eu rhedeg er budd y gymuned, yn cyflogi pobl leol, yn gwerthu cynnyrch lleol ac ati, yn yn hunan-gynhaliaol, heb ddibyniaeth.

A dydi hyn hyn bendant ddim yn 'pie in the sky'. Mae llu o enghreifftiau o dafarndai a siopau ledled Cymru sy'n cael eu rhedeg ar fodel cymunedol/cydweithredol. Yn ardal llithfaen a'r pentrefi o amgylch, mae rhyw 7 cwmni cydweithredol, yn cynnwys tafarn a bwyty, bragdy, criw o 12 sy'n rhoi to ar dai ac ati. Dyna sut mae creu cymunedau cynaliadwy. Creu eich swyddi eich hun yn hytrach na dibynnu ar swyddi cyhoeddus, neu swyddi gan gwmniau mawr o'r tu allan sy'n sugno elw allan o'r economi leol. Dyna ydy gwir annibyniaeth.

Iwan Rhys

Anonymous said...

Mae'r Arg ar Byd ar 4 rwan yn dadlau o blaid melinau gwynt Gareth Winston!

Niwclear oedd bob dim ganddo y diwrnod o'r blaen, melinau gwynt heddiw, o blaid annibyniaeth un munud, annibyniaeth yn nonsens yn y byd ol-fodern ayyb y munud nesaf - chwarae teg mae Dafydd yn benderfynol o ypsetio pawb o bob ochr.