tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post3805030145587084170..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Mwy o swyddi yn cael eu colli yng NghaernarfonCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger5125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-27743026321969736212012-05-24T20:08:14.240+01:002012-05-24T20:08:14.240+01:00ydi cai larsen yn od? o, yndiydi cai larsen yn od? o, yndiAnonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-77445102904470527342012-02-02T23:29:45.484+00:002012-02-02T23:29:45.484+00:00Roedd y diweddar Gwilym Euros, Llais G isio dileu ...Roedd y diweddar Gwilym Euros, Llais G isio dileu 1,000 o swyddi.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-65207028751908852792012-02-02T17:46:41.788+00:002012-02-02T17:46:41.788+00:00Ar ol ail-ddarllen "Caerdydd, Caerdydd" ...Ar ol ail-ddarllen "Caerdydd, Caerdydd" (fe wnes ymateb sawl gwaith) a rhifyn heddiw o Golwg rwyf wedi anfon y llythyr isod i Golwg (ar gyfer colofn lythyrau wythnos nesaf y cylchgrawn):
Annwyl Olygydd,
Caniatewch i mi gwblhau brawddeg gan JCB yr wythnos ddiwethaf: "31 diwrnod o wyliau, oriau hyblyg a chyflogau bras hefo'r posibilrwydd o leoli'r swydd yng Nghaerdydd!". A oes angen dweud mwy? Wel oes...
Mae'r pot mel Cymraeg yng Nghaerdydd wedi tyfu'n rhy fawr yn y brifddinas yn ystod y 30+ mlynedd ddiwethaf. Rhaid taenu'r mel yn decach o amgylch Cymru gyfan. Mae gan e.e. S4C a theledu Cymraeg, ein Prifwyl a BYIG record anfoddhaol o leoli gormod o swyddi sy'n talu'n dda yng Nghaerdydd. A yw digon o aelodau Plaid Cymru (y blaid sy'n honni ei bod hi'n malio fwyaf yng nghylch y byd Cymraeg) yn fodlon ymateb? A beth yn union ydi'r lol CymruX yma (adran ieuenctid PC)? Mae hwn hefyd yn ry Caerdydd-centric!
Nid Cymdeithas yr Iaith sydd berchen y gwir pob tro, ond efallai mai'r mudiad yma ydi'r callaf:os yw'r Gymraeg i fyw rhaid i bopeth newid gan gynnwys (yn fy marn i)llai o lol Caerdydd-centric ! Diolch yn fawr iawn am newyddiaduriaeth ddisglair Barry Thomas a mymryn o synnwyr cyffredin gan Alun Ffred Jones (AC Arfon) ar dudalen 4 yr wythnos ddiwethaf. Ac os yw'r caswir yn brifo aelodau eraill o Blaid Cymru yna sori, ond rhaid i chi ddod at eich coed! Hyfryd fyddai gweld pris tocynnau tren rhwng y gogledd a Chaerdydd yn gostwng-afrealistig, ond dyma sy'n deg. Ond nid oes gen i ddiddordeb mewn tren grefi!
MartinAnonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-17276153401627348662012-02-02T05:33:17.389+00:002012-02-02T05:33:17.389+00:00Ydy Seimon Glyn wedi cadarnhau ffigurau ei arweiny...Ydy Seimon Glyn wedi cadarnhau ffigurau ei arweinydd - a'i fwriad i gyflogi "arbenigwr" allanol i dorri swyddi Gwynedd?

Efallai dylai'r aelodau meinciau cefn herio'r aelod cabinet SG ar hyn?Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-67314111149954398912012-02-01T22:03:33.422+00:002012-02-01T22:03:33.422+00:00Cytuno - byddai cynlluniau Llais Gwynedd i ddiswyd...Cytuno - byddai cynlluniau Llais Gwynedd i ddiswyddo 700 o weithwyr cyngor yn ergyd farwol i economi Caernarfon a sawl ardal arall o Wynedd.

Hyd yn hyn tydi'r cyfryngau heb herio Owain Williams, Loise Hughes ar criw ynglyn ag effaith y polisi Thatcheraidd yma ar economi, iaith ac ysgolion gwledig y sir - yn enwedig o gofio mai Seimon Glyn yw Arweinydd Portffolio Adnoddau Dynol Gwynedd!!

Gan fod dyfodol cymunedau Cymraeg Gwynedd yn dibynu ar y swyddi yma, mae angen i'r undebau llafur sy'n cynrychioli staff y cyngor ynghyd a grwpiau gwleidyddol cymhedrol Gwynedd a grwpiau cymunedol megis Cymuned a Chymdeithas yr Iaith ymuno a'r Blaid i gondemnio'r polisi gwallgo yma.Anonymousnoreply@blogger.com