Nid blog gwyliau ydi Blogmenai wrth gwrs, ond gan fy mod wedi bod yn Athen a bod y ddinas honno wedi bod yn y newyddion am resymau gwleidyddol, mae'n debyg y dyliwn 'sgwennu rhyw bwt am y lle - yn arbennig a minnau wedi addo cadw golwg ar bethau i chi.
Yn sylfaenol yr hyn sydd wedi digwydd ydi bod pawb - fwy neu lai - wedi bod yn ymgyfoethogi am gyfnod o flynyddoedd, ond ei bod wedi dod yn amlwg mai simsan eithriadol oedd sail y cyfoeth hwnnw a bod y broses ymgyfoethogi wedi troi 180 gradd a mynd yn ol yn gyflym iawn.
Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn drawiadol iawn - degau o filoedd o fusnesau teuluol yn methu, dirwasgiad parhaol (crebachodd yr economi 7% yn y tri mis i Rhagfyr y llynedd), 180,000 o swyddi sector cyhoeddus yn cael eu torri (cyfystyr ag 800,000 ym Mhrydain), toriadau twfn ac eang i'r wladwriaeth les a thoriadau o 22% yn yr isafswm cyflog.
Ar un olwg, cymharol fach oedd yr effaith amlwg. Roedd y bariau a chaffis o dan eu sang ar Ddydd Iau Tew, doedd yna ddim mwy o bobl yn cysgu ar y stryd neu'n cardota nag a geir mewn dinasoedd mawr eraill, roedd y marchnadoedd cig, ffrwythau a physgod yn lloerig o brysur.
Ond roedd yna hefyd arwyddion o'r hyn sydd wedi digwydd - roedd stryd hir o dai bwyta gyda phob un yn wag ag eithrio un oedd yn llawn at yr ymylon. Awgryma hyn bod pobl yn ofalus iawn lle'r oeddynt yn bwyta. Ceid sel a sel sylweddol ym mron i pob siop yng nghanol y ddinas, ciwiau sylweddol o bobl wrth lefydd dosbarthu bwyd am ddim, prisiau gwestai rhyfeddol o rhad a gwahaniaethau syfrdanol rhwng pris diod yn y canol (lle mae'r farchnad yn un dwristaidd) ac ychydig o'r canol (lle mae'r farchnad yn lleol).
Roedd yna hefyd arwyddion o, ahem, ddigwyddiadau diweddar - presenoldeb heddlu sylweddol ar y sgwariau cyhoeddus yng nghanol y ddinas - yn arbennig o gwmpas y senedd, man wrthdystiadau yma ac acw, graffiti yn cefnogi pleidiau'r Dde a Chwith eithafol ar y waliau, llawer o'r banciau a'r peiriannau pres wedi eu niweidio neu'i difa.

Pob siop efo sel

Y cerflun i gofio'r rhai a fu farw yn ymladd yr unbeniaeth milwrol yn 1973 wedi ei anharddu - gan rhywun o'r Dde eithafol o bosibl
Graffiti a ballu
Roedd yna hefyd arwyddion o, ahem, ddigwyddiadau diweddar - presenoldeb heddlu sylweddol ar y sgwariau cyhoeddus yng nghanol y ddinas - yn arbennig o gwmpas y senedd, man wrthdystiadau yma ac acw, graffiti yn cefnogi pleidiau'r Dde a Chwith eithafol ar y waliau, llawer o'r banciau a'r peiriannau pres wedi eu niweidio neu'i difa.
ATMs a banciau wedi cael amser caled
No comments:
Post a Comment