Sunday, January 08, 2012

Pam bod ymyraeth Cameron ym mhroses ddemocrataidd yr Alban yn gam gwag

Mae gen i ofn bod ymdrechion David Cameron i fwlio'r weinyddiaeth SNP yn yr Alban i gynnal y refferendwm ar annibyniaeth ar amser sydd yn fanteisiol i'r achos unoliaethol yn un sy'n debygol o wneud mwy o ddrwg nag o les i'r achos hwnnw.

Mae'n debyg bod Cameron yn gywir bod ateb cadarnhaol yn llai tebygol yn 2012 nag ydyw yn 2014 pan mae'r SNP eisiau cynnal y refferendwm.  Ond y broblem iddo ydi bod canfyddiad o fwlio ar ran San Steffan yn debygol o fod yn wrth gynhyrchiol yn yr Alban. 

Yn bwysicach o bosibl byddai gorfodi refferendwm cynnar yn rhoi cyfle i'r SNP droi cefn ar eu haddewid i beidio dychwelyd at fater annibyniaeth am gyfnod gweddol faith os bydd yr ateb yn negyddol.  Byddai'n hawdd i'r blaid wrthod cydnabod refferendwm Cameron, awgrymu i'w cefnogwyr beidio a phleidleisio ynddo a galw eu refferendwm eu hunain ar adeg mwy ffafriol.  Byddai'r canfyddiad bod y refferendwm cyntaf yn ymgais o Loegr i wyrdroi'r broses ddemocrataidd yn yr Alban yn rhoi gwynt yn eu hwyliau bryd hynny.  Hyd yn oed os na fyddai'r ail refferendwm yn derbyn sel bendith San Steffan, na hyd yn oed statws swyddogol, byddai'n nesaf peth i amhosibl cadw'r Alban yn rhan o'r DU petai mwyafrif wedi pleidleisio yn erbyn hynny. 

1 comment:

Dylan said...

Yr unig esboniad sy'n gwneud synnwyr i mi ydi bod Cameron yn cefnogi annibynniaeth i'r Alban. Mae'n haws derbyn hynny na chredu ei fod wir yn teimlo bod yr ymyrraeth yma'n strategaeth effeithiol ar gyfer hyrwyddo'r achos unoliaethol.

Dw i'n tynnu ffigurau o berfeddion fy mhen ôl, ond fy ngreddf ydi tybio bod o leiaf 3% o Albanwyr newydd neidio, heddiw yma, o'r bocs "ddim yn gwybod" at y bocs "ie dros annibynniaeth".