Mae datganiad diweddar arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards i'r Daily Post yn ddiddorol i'r graddau ei fod yn rhoi cip i ni ar y tirwedd y bydd etholiadau Cyngor Gwynedd eleni yn cael eu hymladd.
Yn 2008 ar un olwg roedd dau etholiad yn digwydd yng Ngwynedd, neu o leiaf roedd yna ddau gyd destun gwahanol i'r etholiad. Roedd yr hen gynllun ail strwythuro ysgolion yn dominyddu'r cyfryngau lleol tra bod llif cryf yn erbyn Llafur tros Gymru. Adlewyrchwyd y ddau batrwm yng Ngwynedd gyda Llais Gwynedd yn ennill tir yn ardaloedd gwledig y gorllewin a'r de, ond hefyd gyda Phlaid Cymru yn perfformio'n gryf ar draul Llafur yn y rhannau mwy trefol yn y gogledd a'r dwyrain.
Mi fydd yr etholiad yma'n wahanol - 'does yna ddim cynllun ail strwythuro cynhwysfawr sydd wedi dominyddu'r newyddion am fisoedd. Mae rhannau o'r sir yn agored i'r gogwydd cenedlaethol tuag at Lafur - ond 'does yna ddim arwydd wedi bod o'r gogwydd hwnnw yng Ngwynedd - cafodd Llafur gweir yn etholiadau'r Cynulliad yng Ngwynedd y llynedd, a chawsant gweir hefyd yn y ddau is etholiad cyngor maent wedi sefyll ynddynt.
Yr hyn ddylai fod yn bwysig yn yr hinsawdd sydd ohoni ydi llywodraethiant cyfrifol a chyson mewn amgylchiadau cyllidol anodd iawn. Adlewyrchiad o hyn a geir yn natganiad Dyfed. Yr her o safbwynt y Blaid fydd ceisio ymladd yr etholiad ar y tirwedd yma, a'r her i Lais Gwynedd yn benodol fydd ceisio dod o hyd i dir arall credadwy i ymladd yr etholiad arno.

No comments:
Post a Comment