Saturday, January 21, 2012

Cynlluniau Llais Gwynedd ar gyfer gweithwyr sector cyhoeddus yng Ngwynedd

Mae'r blog hwn wedi nodi ar sawl achlysur i 2011 fod yn flwyddyn wirioneddol erchyll i'r meicro grwp gwleidyddol o Wynedd - Llais Gwynedd.

Pan fydd y rhan fwyaf ohonom - yn unigol neu'n gorfforaethol - yn cael blwyddyn giami, byddwn (os ydym yn ddoeth) yn ymateb trwy ddysgu gwers neu ddwy o'r profiad, gweithredu ar y gwersi hynny a symud ymlaen. Nid felly Llais Gwynedd. Eu hymateb nhw ydi ceisio sicrhau bod rhywun arall yn cael blwyddyn erchyll yn 2012, neu a bod yn fanwl gywir bod 600 o deuluoedd yng Ngwynedd yn cael blwyddyn hynod anodd. Son ydw i wrth gwrs am eu cynlluniau cynhyrfus i sacio 600 o weithwyr Cyngor Gwynedd.

Rwan, mae sawl peth i'w ddweud am hyn. Yn gyntaf, mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi mynd trwy broses o raglennu toriadau am gyfnod o bedair blynedd. Mae rhywbeth yn wyrdroedig braidd am ganmol toriadau, ond mae'r broses wedi mynd rhagddi mewn modd cyfrifol, cynhwysol a threfnus. Canlyniad hynny ydi rhaglen fanwl sydd am sicrhau y bydd y toriadau anorfod yn digwydd mewn cyd fframwaith sydd wedi ei reoli a'i gynllunio. At ei gilydd mae aelodau Llais Gwynedd wedi chwarae rhan adeiladol yn hyn oll. Ar y pwynt yma efallai ei bod werth nodi i swyddi gael eu dileu ar gychwyn y broses rhai blynyddoedd yn ol pan aeth swydd cyfarwyddwr corfforaethol a phenaethiaid gwasanaeth.

Ag etholiadau ar y gorwel, fodd bynnag ymddengys bod Llais Gwynedd wedi penderfynu mai eu strategaeth orau ydi apelio at holl ddarllenwyr Daily Mail y sir. Bydd y sawl ohonoch sy'n dod ar draws y cyhoeddiad adain dde o bryd i'w gilydd yn ymwybodol mai un o'i amrywiol obsesiynau ydi 'biwrocratiaid'. Ym myd bach y Mail mae'r rheiny yn bobl hynod ddrwg a diwerth y dylid eu sacio mewn niferoedd mor fawr phosibl, cyn gynted a phosibl. Felly - os ydw i'n deall pethau yn iawn, mae'r rhaglen strythuredig wedi ei gollwng, ac mae Llais Gwynedd wedi neidio ar wagen bopiwlistaidd - os niwrotig - y Mail.

Mae'n bosibl wrth gwrs bod yna swyddi na ellir eu cyfiawnhau yn y cyngor - mae hynny'n wir am pob endid corfforaethol mawr, ond mae'n rhyfeddol o hawdd edrych ar swydd rhywun arall o hirbell ac amau ei gwerth. Fel 'dwi'n 'sgwennu y pwt yma 'dwi'n edrych ar farbwr mewn siop dorri gwallt tros y ffordd - mae o wedi treulio tri chwarter awr yn eistedd yn ei siop wag yn edrych ar y teledu. Ond 'dydi hynny ddim yr un peth a dod i gasgliadau gwrthrychol ynglyn ag effeithlionrwydd darpariaeth cyngor, a lle a phwrpas swyddi unigol o fewn y ddarpariaeth yna.

Gan fod Llais Gwynedd mor fanwl ynglyn a faint o swyddi maent am eu dileu, byddai dyn yn cymryd eu bod wedi gwneud ymchwil go fanwl i effeithlionrwydd Cyngor Gwynedd, a lle swyddi unigol o fewn y ddarpariaeth. Mae ganddynt gyfle i ddod a'u cynlluniau ger bron y Cyngor yn mis Mawrth a chyflwyno unrhyw waith ymchwil maent wedi ei wneud bryd hynny. Gallant wedyn egluro pa swyddi fydd yn cael eu dileu a pham, a gwneud cynnig yn unol a hynny. Ond fydd hynny ddim yn digwydd wrth gwrs - dydi popiwlistiaeth hysteraidd y tabloids adain dde Seisnig ag ymchwil gwrthrychol ddim yn cyd fyw yn rhwydd iawn.

Ac wrth gwrs mi fyddai yna gost sylweddol i Gyngor Gwynedd ac i'r economi ehangach o sacio'r 600. Mae 600 o swyddi yn nifer anferth yng nghyd destun Gwynedd. Byddai dod o hyd i'r arian diswyddo yn glec o £14m i'r sir. Byddai £16m a mwy yn cael ei dynnu allan o'r economi yn flynyddol. A bod yn blwyfol am funud, byddai hyn yn farwol i'r sector breifat yn nhref Caernarfon a'r pentrefi o'i chwmpas - ardal boblog sydd yn Gymreiciach o ran iaith na'r unman arall yng Nghymru. Byddai llai - llawer llai - yn cael ei wario ym mhob siop, tafarn, ty bwyta ac yn wir siop sglodion yn yr ardal. Mae'r un peth yn wir i raddau llai am ganolfannau gweinyddol eraill y sir, sydd wedi eu lleoli yn rhai o'r prif drefi. Mae unrhyw ymysodiad ar y sector cyhoeddus hefyd yn ymysodiad ar y sector preifat mewn ardal lle mae canran uchel o'r boblogaeth yn ddibynol ar wariant cyhoeddus am eu bywoliaeth.

Mae gweithwyr sector cyhoeddus o dan warchae yng nghyd destun y Deyrnas Unedig - ystyriaethau syniadaethol clymblaid adain dde yn Llundain dy'n rhannol gyfrifol am hynny. Mae Llais Gwynedd eisiau cefnogi'r agenda honno yn lleol, tra bod y Blaid Lafur yn llugoer o ran eu cefnogaeth i'r undebau. Dim ond un plaid yng Nghymru sydd wedi bod yn ddi amwys o ran ei chefnogaeth i weithwyr sector cyhoeddus a'u teuluoedd, a Phlaid Cymru ydi'r blaid honno. Mae'n bwysig i'r Blaid wneud hynny yn gwbl glir yn ystod y misoedd nesaf.

18 comments:

Anonymous said...

Rhyw ddeuoliaeth eisiau achub swyddi mewn ysgolion ond am ddileu swyddi eraill

Anonymous said...

Anodd cyfiawnhau swyddi dim ond i gadw swyddi.

menaiblog said...

Pwy sydd yn dadlau tros hynny?

Os ydi LlG o ddifri eisiau dileu 600 o swyddi, mae'n rhaid eu bod nhw wedi mynd trwy rhyw fath o ymarferiad i gyrraedd y ffigwr hwnnw - hy mae'n rhaid eu bod nhw wedi dod i'r casgliad bod yna cymaint a hynny o swyddi na ellir eu cyfiawnhau. Os ydi hynny wedi digwydd mi ddylent arenwi'r 600 swydd sydd ganddynt mewn golwg.

Anonymous said...

Hawdd yw cyhoeddi bwriad i gael gwared ar nifer o swyddi hyd nes i'r swyddogion hynny droi'n bobl o gig a gwaed, pobl hefo teuluoedd a morgeisi ac ati.Pa swyddi yn union sydd dan sylw? Pa wasanaethau fydd yn cael eu torri? Gwyliwch rhag gwleidyddiaeth dabloid.

Un o Eryri said...

Os buasai unrhyw gwmni preifat yn Gwynedd yn dweud eu bod am gael gwared a 600 o weithwyr gyda'r mwyafrif llethol yn Gymry Cymraeg beth fuasai'r ymateb? Beth am fynd a hyn un cam ymhellach, cael gwared a Llywodraeth Leol? Dyna i bob pwrpas fuasai'n digwydd wrth gael gwared a 600 o swyddi. Beth am waith arall i'r 600 o Gymry fuasai'n colli ei gwaith? Eu hanfon i Lloegr i weithio yno? Ergyd farwol i'r Iaith Gymraeg yn bendant. Mae ambell i berson call yn Llais Gwirion. Sefwch i fyny nawr yn erbyn y polisiau asgell dde hurt sydd yn cael eich arddel gan eich arweinwyr, ac ymddiswyddwch nawr, neu bydd pobl yn ystyried eich bod chi yn cytuno a hwy, ac hefyd mor wirion a nhw.

Anonymous said...

Dadleuon digon od yma.
Os ydi swydd o werth i redeg y cyngor neu wasanaeth yn effeithiol, cadwch hi.
Os nad ydi'r swydd o fudd, does dim ei hangen.

Fedra i ddim gweld dadl dros gadw swydd a thalu cyflog am fod rhywun yn gallu siarad cymraeg neu fod ganddo deulu.

menaiblog said...

Hyd y gwela i 'dydi LlG heb ddangos bod unrhyw swydd yn ddiwerth. Mae dweud bod rhywbeth yn wir, a dangos bod rhywbeth yn wir yn ddau fater hollol wahanol.

Anonymous said...

“Lle ar wyneb y ddaear mae’r bobol yma’n mynd i gael gwaith a chynhaliaeth wedyn?” meddai Dyfed Edwards.

Y frawddeg yma sy'n swnio fel bod y cyngor yn sybsideiddio swyddi.
Dylai fod wedi dweud bod pob swydd yn hanfodol yn hytrach nag awgrymu na fedrir gael gwared o swydd rhag ofn i rywun fethu cynnal ei hun.

Anonymous said...

Beth yw barn yr undebau llafur tybed? Mae Owain "Job Snatcher" Williams yn arddel polisi swyddi yng Ngwynedd sydd yn ei leoli yn bell i'r dde o Maggie Thatcher y Milk Snatcher!

Anonymous said...

@Anon 10:16
Ond mae hwnnw hefyd yn ddadl sydd yn rhaid iddynt ei hateb. Phe byddai'r Cyngor yn cael gwared o 600 o swyddi, byddai maint y taliad iddynt yn ddychrynllyd o uchel, a faint byddai'r Cyngor yn gorfod eu 'sybsideiddio' pan fyddant yn ddi-waith? Beth fyddai canlyniad 600 o deuluoedd heb incwm cyson mewn sir mor wledig?

Y gwir amdani, dyma enghraifft o griw bach o gynghorwyr Llais Gwynedd yn meddwl am bolisi ar frys wedi iddynt gofio bod etholiad rownd y gornel - maent wedi troi eu cefn ar bolisi ysgolion ar ôl cyflwyno'r cynnig i gau Ysgol Machreth yn nalgylch Dolgellau, felly mai'n gwbwl amlwg eu bod yn chwilio am 'battle-front' newydd.

Anonymous said...

Oes na unrhyw un wedi gofyn wrth Portffolio Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd os yw ffigyrau Owain Wms yn stacio fynny?

Fo mae'n siwr fyddai'n gwybod os y byddai sacio 700 o Gymru Cymraeg yn arbed arian neu costio £14miliwn+ i drethdalwyr y Sir mewn costau diswyddo ayyb.

Anonymous said...

Oherwydd yr ansicrwydd a'r effaith ar foral y staff, dwi'n cymryd y bydd aelodau Bwrdd y Cyngor yn galw ar yr Arweinydd Portffolio Adnoddau Dynol i wneud datganiad brys am ei fwriadau yn eu cyfarfod nesa.

Anonymous said...

Mae'n amser i chi gyd wynebu ffeithiau (perthyn i blaid cymru nid llais gwynedd ydw i cyn i neb ddweud!). Rhaid torri gwariant cyhoeddus. Mi fentra i fod na fwy na 600 o swyddi ellid eu dileu mewn cyngor fel gwynedd yn weddol hawdd. Beth am y person hwnnw sy'n cofnodi tywydd a pryd y gwelwyd y gog oedd ar radio cymru e.e.?

Yn wir, rhaid adrefnu ar lefel uwch ag cael gwared ar y cyngor i gyd. Dylid cael un cyngor i gonwy, mon a gwynedd nid tri. mae'n debyg fod 600 o swyddi yn llai na 10% o gyfanswm gweithwyr y cyngor - gall bawb weithio 10% yn fwy effeithiol yn hawdd iawn.

Yn wir, i fod yn effeithiol iawn a gyrru ymlaen mewn perfformiad, mi fyswn yn dadla dylid troi 10% bob blwyddyn gan gael gwared ar y rhai sy'n perfformio yn wael - wrth gwrs fydda cyngor neu ysgol ddim yn gwneud dim byd or fath - job for life ar ol dad gael un cyn hynnu a taid cyn hynnu!

Rwan, be ddyla y cyngor ddadla, ag yn wir blog fel hwn ydi sut i greu swyddi go iawn, swyddi sector breifat yma. Yn anffodus, ers Dayfydd Wigley, toes neb yn flaenllaw yn y blaid sydd i weld yn deall byd busnes....pobl y sector gyhoeddus sydd yn codi i'r top - bosib achos fod ganddyn nhw gymaint o amser sbar ar ol gorffen hanner awr di pedwar!

Mae adran yn y cyngor i ddatblygu busnes, wel dyna un adran a ellir i dileu yn syth o fy mhrofiad i. Dyma adran ddyle fod ar flaen y gad, ond yn anffodus mae yn llawn o bobl sydd erioed di gweithio yn unlle ond y cyngor, ddim syniad am fyd busnes go iawn.

Cyd aelodau a gweithwyr y cyngor, mae'r byd go iawn, anodd, lle toes dim cyflog gan y treth dalwr a dim siawns 100% o gael elw i dalu cyfolg ddiwedd y mis yn u go wahanol i'r un yr ydych wedi arfer ag o.

Efallai fyddai'r cyngor yn well gyda rheolwyr o fyd busnes go iawn sydd yn gwybod sut i godi effeithlonrwydd yn hytrach na "dyn sydd wedi byw y sector cyhoeddus" a'i is gyfarwyddwyr tebyg, un sydd rhy brysur yn hwrio rownd gaernarfon!

Tud Cymru, deffra!

Anonymous said...

O ran proffil cyflog dwi'n credu bod addysg am resymau dilys bid siwr yn uwch nag adrannau eraill. Gallai felly fod yn anodd i LG wireddu ei cynlluniau heb dori yn y maes maent yn ymdrechu i'w hamddiffyn.

Anonymous said...

Anon 8.32

Onid yw Arweinydd Gwynedd Dyfed Edwards eisoes wedi galw am ad-drefnu llywodraeth leol fel ffordd o arbed arian a pharhau i gynnal gwasanaethau? Yr unig arweinydd yng Nghymru i wneud hynny ond bu distawrwydd llethol gan bawb arall.

Mae staff a swyddogion da a gwael ym mhob sefydliad mawr boed yn sector cyhoeddus neu breifat. Yr hyn sydd yn bwysig yw bod gan y sefydliad hwnnw gyfundrefn effeithiol i ddelio gyda hynny

Anonymous said...

@ anon 6.59 gan anon 8.32

Problem cyngor ag ysgolion ydi na all neb golli eu gwaith ar gefn perfformiad. Bydda hynnu ddim yn "mynd lawr yn dda".

Dyfed - mmm mwy o asgwrn cefn mewn rech!

Son am arweinydd staff o ni hefyd nid y cynghorwyr.

Anonymous said...

Gyda llaw, gellir gofyn pa mor fachog ydi polisiau Llais Gwynedd i'w gefngowyr hyd yn oed. Methodd y blaid a denu digon o ddarpar ymgesiwyr i dalu am y bwffe mewn cyfarfod croeso yn Nefyn yr wythnos diwetha.. 'megis seren wib', chwedl RWP.

Anonymous said...

Aftеr I initіally commenteԁ I appeаr to have clicked on thе
-Νotіfу me when new comments
are аdԁеd- chеckboх and from nοw on еach tіmе a commеnt is added I get four еmails with the exact ѕame
comment. Ӏs there a mеаns you can remove mе from thаt service?

Appreсiate іt!

my web blοg; eca stack for sale