Wednesday, January 11, 2012

Argymhellion y Comisiwn Ffiniau - rhan 1

CMae hi'n brysur iawn arna i ar hyn o bryd, felly wna i ddim ymateb yn fanwl i'r newidiadau posibl yn y ffiniau etholaethol a gyhoeddwyd ddoe - er y byddaf yn dychwelyd at y mater sawl gwaith maes o law. Mae yna gryn dipyn o grenshan ffigyrau i'w wneud cyn hynny.   Un neu ddau o sylwadau brysiog serch hynny:

Yn gyntaf 'dwi'n croesawu'r newidiadau - mae Cymru wedi ei gor gynrychioli yn San Steffan a 'does yna ddim dadl tros barhau a hynny - yn arbennig felly ag ystyried ein bod i gyd wedi ein cynrychioli yn y Cynulliad beth bynnag. 

Yn ail fyddwn i ddim yn cymryd mymryn o sylw o'r 'pledio arbennig' y byddwn yn sicr o'i glywed tros yr wythnosau nesaf. Mae'r elfen o degwch o ran niferoedd sy'n cael ei greu yn siwr o greu unedau anhylaw - 'does yna ddim ffordd o osgoi hynny. Nonsens ydi'r ddadl bod rhai o etholaethau Cymru yn fawr iawn.  'Dydyn nhw ond yn fawr wrth ymyl rhai Lloegr - gwlad sydd efo dwysedd poblogaeth gyda'r uchaf yn y Byd.  Dau seneddwr sydd gan Alaska - mae arwynebedd y dalaith yn 663,268 milltir sgwar.  Mae hyn tua 83 gwaith arwynebedd Cymru gyfan.  Fyddwn i ddim yn poeni llawer am Ynys Mon chwaith - dydi hi ddim yn ynys yn yr un ystyr a Shetland neu'r Isle of Wight - gellir croesi iddi mewn ychydig funudau ar hyd pontydd ar yr A5 a'r A55.  Yn wir mae Bangor yn cymryd ei le'n naturiol efo Ynys Mon - yn y ddinas honno mae llawer o drigolion yr ynys yn siopa a gweithio.

Yn drydydd - ag edrych yn frysiog ar bethau - gallai'r newidiadau fod yn llawer, llawer gwaeth i Blaid Cymru.  Creir etholaeth cwbl ddiogel wedi ei chanoli ar Wynedd, ac un arall lle mae'r Blaid yn ffefryn clir yng Nghaerfyrddin.  Mae yna gyfle da o gipio'r etholaeth Ynys Mon / Glannau'r Fenai, a 'dydi'r newidiadau yng Ngheredigion heb fod yn arbennig o niweidiol.  Mae Llanelli'n fwy o dalcen caled bellach fodd bynnag.

9 comments:

Cymro i'r Carn said...

Byddwn i'n dadlau bod Caerfyrddin os unrhyw beth yn ddiogelach na Gwynedd i blaid Cymru nawr, maent wedi cynnwys 10 ward ychwanegol at Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gan golli un ward, mae'r 10 ward maent wedi ychwnaegu i gyd yn wardiau lle mae cynghorydd Plaid Cymru yn ei gynrychioli, yn wir dylai mwyfarif Jonathan Edwards godi'n aruthrol yn awr.

Hwnco Mynco said...

Diddorol nodi hefyd fod Castell Newydd Emlyn yn symud i Geredigion a Gogledd Penfro fydd yn fanteisiol iawn i Blaid Cymru.

Welshguy said...

Peidiwch a chymryd bod Caerfyrddin o reidrwydd mor ddiogel. Yn ôl y canlyniadau "notional" byddai Llafur A'R Toriaid o fewn rhyw 1,000 pleidlais yr un o gipio'r sedd.

Gweler yma:
http://ukpollingreport.co.uk/blog/archives/4627?utm_source=feedburner&utm_medium=feed&utm_campaign=Feed%3A+PollingReport+%28UK+Polling+Report%29

Hogyn o Rachub said...

Dwi hefyd yn cytuno am Gaerfyrddin - prin fod nifer y cynghorwyr mewn ardal yn adolygu cryfder plaid mewn etholiadau cenedlaethol.

Wn i ddim chwaith am Geredigion/Gogledd Penfro. Rhaid cofio mae 'na lawer o gymunedau di-Gymraeg yma (fydd hon ddim yn sedd â mwyafrif Cymraeg ei hiaith cofiwch) a dydi'r Blaid heb wneud yn dda yn etholaeth Gog Penfro dros y blynyddoedd diwethaf.

Mi gymrith lot o waith caled i Blaid Cymru sicrhau Caerfyrddin, ond hefyd herio yng Ngheredigion a Môn-Menai.

Anonymous said...

@Cymro i'r Carn
Fedrai hanner gweld beth yw dy ddadl, serch hynny, nid yw'r ffaith bod y Blaid yn gryf yn y wardiau hynny ar lefel cyngor sir yn golygu drosglwyddith hynna'n bleidleisiau adeg Etholiad Cyffredinol. Er enghraifft, mae'r Blaid efo dros 20 o seddi yng Ngheredigion (un yn brin o fwyafrif) ond mae'r AS LibDem, Mark Williams, efo 8,000 o fwyafrif. Yn wir, efallai ei fod yn beth da mai Gog Penfro sydd wedi ei glymu efo Ceredigion ac nid rhannau o Bowys, ond a fydd modd canfod 8,000 o bleidleisiau yn y tir newydd hwnnw? Go brin dybiwn - nid adeg yr Etholiad nesaf pryn bynnag.

Dylai fod dwy etholaeth cadarnaf y Blaid greu un etholaeth cadarnach fyth, ac allai ddim gweld sut allai unrhyw un o'r pleidiau eraill gipio Gwynedd.

Welshguy said...

I raddau, dwi'n teimlo'n fwy optimistaidd am Geredigion nag am Gaerfyrddin. A chymaint o doriaid a llafur yng Nghaerfyrddin gall unrhyw ogwydd sylweddol o un i'r llall wneud i'r Blaid golli'r sedd hyd yn oed os yw ei phleidlais yn cadw i fynny neu'n cynyddu hyd yn oed. Dyle fod Ceredigion o fewn cyraedd y Blaid os yw'r Rhyddfrydwyr yn colli lot o'i cefnogaeth, fel y mae'r polau'n awgrymu. Mae yna lawer o fyfyrwyr yng Ngheredigion, siwr o fod fe bleidleisiodd llawer ohonyn nhw dros y Rhyddfrydwyr yn 2010.

Anonymous said...

Elfyn Llwyd yn sedd Gwynedd ac Arfon.

Hywel Williams....chwilio am waith?

Anonymous said...

O ran Plaid Cymru yng Ngwynedd, rwy'n rhagweld Dafydd Elis Thomas yn colli ras yr arweinyddiaeth, (ac o gofio y bydd bron iawn â chyrraedd oed yr addewid adeg etholiadau nesaf y Cynulliad), sgwn i a fydd D-ET yn 'ymddeol' yn ol i Dy'r Arglwyddi? Mae Elfyn Llwyd hefyd wedi dweud y byddai ef yn hoffi cyfnod yn y Cynulliad. Felly sgwn i ai Hywel Williams fydd yn mynd am sedd 'Gwynedd' yn San Steffan, ac Elfyn Llwyd yn mynd am sedd Dwyfor Meirionydd yn y Cynulliad?

Oni bai bod trefn etholiadol y Cynulliad yn newid wrth gwrs.

Iwan Rhys

Welshguy said...

Etholwyd Hywel Williams yn gyntaf i gynrychioli sedd Caernarfon; mae'r sedd hwnnw bellach bron i gyd o fewn Gwynedd felly byddai'n digon naturiol i naill ai Hywel Williams neu Elfyn Llwyd sefyll yno. Pe bai Elfyn yn mynd am y bechingalw heddlu yno, byddai hynny'n rhyddhau'r sedd wedyn.