Ar ol dweud na fyddwn yn crenshan unrhyw ffigyrau am sbel ‘dwi wedi dod o hyd i funud neu ddau ac wedi dechrau pethau trwy edrych ar ardal Caerdydd. Mae’n rhaid i mi ddweud bod yr hyn wnaeth y Comisiwn yn gwbl anisgwyl i mi. Y peth naturiol i’w wneud fyddai rhoi’r ardal o gwmpas Penarth efo Bro Morgannwg, a cherfio tair etholaeth allan o Gaerdydd ei hun. Mynd i’r Gogledd wnaeth y Comisiwn a chymryd lwmp o Ogledd y ddinas a’i osod efo Caerffili, a gadael Penarth efo Caerdydd. Mae’r penderfyniad yma’n debygol o fod yn arwyddocaol.
Mi wnawn ni ddechrau efo’r rhai hawdd.
Bro Morgannwg: Ychydig iawn o newid sydd yma gyda tua 3,500 o etholwyr (Ceidwadol yn bennaf)yn cael eu hychwanegu o Dde Caerdydd / Penarth. Go brin y bydd Mr Cairns yn colli llawer o gwsg.
Gorllewin Caerdydd: Ychydig o newid yma hefyd. 6,000 o etholwyr yn dod i mewn o ardal o Bontypridd sydd a hanes o fotio i’r Blaid mewn etholiadau lleol. Beth bynnag, fydd Kevin Brennan ddim yn poeni llawer iawn chwaith.
Caerffili Gogledd / Caerdydd: Daw ychydig tros hanner etholwyr yr etholaeth newydd o Ogledd Caerdydd tra bod y gweddill yn dod o Dde Caerffili. Mae’r mwyafrif Llafur yng Nghaerffili yn llawer uwch nag un y Toriaid yng Ngogledd Caerdydd, a nhw sy’n debygol o ennill. Ond dydan ni ddim yn son am un o fwyafrifoedd anferth traddodiadol y Cymoedd yma.
Canol Caerdydd / Penarth: Mae’r newid yma yn sylweddol iawn. Mae 28,000 o’r etholwyr yn cael eu symud i’r etholaeth newydd yn Nwyrain Caerdydd, tra bod tua 36,000 yn dod o Dde Caerdydd / Penarth i gymryd eu lle. Daw tua 18,000 o’r rhain o ardal Penarth. Pleidleiswyr Toriaidd ydi’r rhan fwyaf o’r rhain, tra bod mwyafrif y gweddill yn bleidleiswyr Llafur. Mae’r Lib Dems yn wan iawn yn yr ardal. Daw’r gweddill o ardaloedd Grange Town a Butetown yn Ne Caerdydd. Er bod y Lib Dems yn gryfach yma ‘does yna ddim yn agos digon o bleidleiswyr Lib Dem i’w digolledu am y colledion i Ddwyrain Caerdydd. Mi fyddai’r etholaeth yma yn weddol ymylol rhwng y tair plaid unoliaethol o dan amodau etholiad cyffredinol 2010, gyda Llafur yn dod yn gyntaf o drwch blewyn efo'r Lib Dems yn ail.. Yn yr amgylchiadau presenol byddwn yn disgwyl i Lafur ennill gyda’r Toriaid yn dod yn ail.
Dwyrain Caerdydd: Mae hon wedi ei naddu allan o Ogledd Caerdydd (16,000), Canol Caerdydd (29,000) a De Caerdydd (26,000). Mae'n un anodd – mae’r Lib Dems yn gryf iawn yn yr ardaloedd sydd wedi eu tynnu o Ganol Caerdydd, y Toriaid yn gryf yn yr ardaloedd o’r Gogledd a Llafur hwythau yn gryf yn y De. Mae'n debyg (ond ddim yn sicr) mai Llafur fyddai wedi ennill yn 2010 - gyda'r Lib Dems a'r Toriaid yn weddol agos atynt. O dan amgylchiadau presenol byddwn yn disgwyl i Lafur gymryd digon o bleidleisiau’r Lib Dems i roi’r oruwchafiaeth yn haws iddynt, ond mae hon am fod yn etholaeth ymylol iawn yn yr hir dymor.
No comments:
Post a Comment