Wednesday, January 25, 2012

Dweud un peth sy'n golygu rhywbeth arall

Mae arweinyddiaeth y Blaid wedi bod yn amwys (a bod yn garedig) ynglyn ag annibyniaeth ers degawdau. Mae'r amwyster hwnnw wedi esgor ar ieithwedd arbennig sydd wedi ei gynllunio i gyfleu un ystyr i'r sawl sydd o blaid annibyniaeth (lled gydymdeimlad at y syniad) , ac un cwbl wahanol i bawb arall (gwrthwynebiad i'r syniad).  I helpu darllenwyr Blogmenai fynd i'r afael a'r etholiad am yr arweinyddiaeth 'dwi wedi paratoi cyfieithiad bach o rhai o'r ymaddion rydym yn eu clywed yn aml sydd wedi tyfu o'r ieithwedd yma.



Rydw i'n credu yn Ewrop y rhanbarthau. -  'Dydw i ddim yn credu mewn annibyniaeth neu Rydw i'n coelio mewn tylwyth teg ac ysbrydion a phob math o bethau dychmygol eraill.

'Dydi pwer yn yr Undeb Ewropeaidd ddim yn cael ei ymarfer ar lefel rhanbarthol, mae'n cael ei ymarfer ar lefel cenedlaethol a rhyng genedlaethol - felly y bu erioed, felly mae, ac felly y bydd yn y dyfodol.  Dyna pam bod cyn ranbarthau o wledydd Dwyrain Ewrop yn ymuno fel gwledydd ac nid fel rhanbarthau.

'Dwi'n ol genedlaetholwr - 'Dwi ddim yn genedlaetholwr Cymreig , ac felly mae'n dilyn nad ydw i yn credu mewn annibyniaeth i Gymru.

Gweler yma.

Mae'r holl son yma am annibyniaeth yn tynnu sylw oddi wrth yr economi (neu greu swyddi neu beth bynnag) , ac mae hynny'n bwysig, bwysig, bwysig.  - 'Dydw i ddim eisiau siarad am hyn, 'dydw i ddim yn ystyried annibyniaeth i Gymru yn bwysig a 'dydw i ddim eisiau gwneud unrhyw gysylltiad rhwng cyflwr economi Cymru a'i statws cyfansoddiadol.

Dylai statws cyfansoddiadol Cymru fod yng nghanol y ddadl economaidd, a dylai'r economi fod yng nghanol a ddadl ynglyn a  statws cyfansoddiadol Cymru.  Mae'r berthynas rhwng y naill a'r llall yn anatod.

Os ydych chi eisiau arweinydd sy'n siarad am annibyniaeth trwy'r amser peidiwch a phleidleisio i mi.  - Os ydych eisiau arweinydd sydd byth yn son am annibyniaeth, fotiwch i fi.


Amcan tymor hir ydi annibyniaeth i'r Blaid - Mae annibyniaeth yn amcan mor hir dymor i'r Blaid fel nad oes angen i neb sy'n fyw heddiw boeni am y peth - byddwn i gyd wedi hen farw cyn i'r mater dderbyn sylw. 

Os oes yna rhywun efo ymadroddion tebyg, mae croeso i chi eu gadael ar y dudalen sylwadau - ynghyd a chyfieithiad. 

5 comments:

Unknown said...

'Fe fyddai dau fuddigoliaeth ethodiadol yn ddigon i mi alw refferendwm am anibyniaeth'

"- ddim yn siwr iawn of fy hunan, na pham dw i am arwain y Blaid"

Anonymous said...

Mae hwn ym ddefnyddiol iawn - fyddai hefyd yn bosib cael cyfieithiad o sylwadau Elfyn Llwyd am Wylfa B ar Pawb a'i Farn y noson o'r blaen?

Cai Larsen said...

Na sori - 'dydi blogmenai ddim 'yn gwneud' niwclear.

Anonymous said...

"Os na wnawn ni ganolbwyntio ar yr argyfwng sy'n wynebu Cymru heddiw, bydd yr etholwyr yn ymdrin â ni â dirmyg haeddiannol." (RhGT)
=
"Rwy am anwybyddu'r cyswllt annatod sydd rhwng sefyllfa economaidd ein cymuedau a sefyllfa gyfansoddiadol Cymru a'r DU oherwydd mae arna i ofn colli fy sedd."

Iwan Rhys

Ifan Morgan Jones said...

Potensial 'gem yfed' fan hyn? ;)