Friday, January 13, 2012

Gwerthoedd teuluol

Mae Blogmenai eisoes wedi cael y pleser o ganmol Mohammed Asghar am ei werthoedd teuluol cadarn.  Chwi gofiwch i'r cyfaill wneud safiad cadarn tros werthoedd teuluol trwy adael Plaid Cymru pan wrthododd y blaid honno gyflogi ei ferch Natasha.  Byddwch hefyd yn cofio iddo ddechrau gweithio i gael ei wraig, Firdaus wedi ei henwebu ar gyfer ymgeisyddiaeth Toriaidd ar Gyngor Casnewydd yn fuan wedi marwolaeth y Cynghorydd Les Knight - a gwneud hynny ymhell cyn i rigor mortis ddechrau cerdded corff Les druan.



Beth bynnag, daeth 'chwaneg o dystiolaeth i law heddiw o gadernid gwerthoedd teuluol Oscar pan ddaeth yn amlwg ei fod bellach yn cyflogi'r ferch a'r wraig yn y Cynulliad gydag arian y trethdalwr. 

Fel y byddech yn disgwyl gan blaid sy'n arddel gwerthoedd teuluol (ers ymadawiad Rod Richards fel arweinydd o leiaf) megis y Blaid Geidwadol Gymreig, ni wastraffwyd amser cyn dod i'r adwy i amddiffyn Oscar rhag ymosodiadau gan bobl sydd ddim yn parchu'r uned deuluol yn ddigonol.   Yn ol llefarydd ar eu rhan - Mae e wedi dilyn canllawiau llym y Cynulliad – sydd yn sicrhau bod yn agored ac yn dryloyw – ar bob achlysur. 

Felly dyna hynna yn hollol glir - os oes yna ffordd o gwmpas hen reolau llym, gwrth deulu y Cynulliad mae Oscar am ddod o hyd iddi, ac mae'r Toriaid Cymreig am gydsynio a hynny a sefyll y tu ol i'w dyn a'i deulu bach pan mae'r cachu a'r ffan diarhebol yn yn dod i gysylltiad mynwesol.

8 comments:

Anonymous said...

A pwy a wnaeth ganiatau i'r ffwl yma gael mynediad i'r cynulliad yn y lle cyntaf - Plaid Cymru . Alla i ddim meddwl ei fod wedi cuddio ei natur ryw lawer wrth geisio dod yn AC .
Pam ddylai ? Mae'r math yma o ymddygiad yn cael ei edmygu yn ei famwlad.

Cai Larsen said...

Ond mi ddywedodd y Blaid wrtho na fyddai ei ferch yn cael ei chyflogi - ac mi adawodd oherwydd hynny ac ohereydd i Bourne ddweud wrtho na fyddai'n rhaid iddo gael ei ddewis yn ddemocrataidd i gael sefyll tros y Toriaid.

Cafodd ei osod gan y Toriaid yn eu hail safle, cafodd ei ethol yn y Dwyrain, ac mae bellach yn cyflogi ei ferch ar draul y trethdalwr. A ti'n beio Plaid Cymru.

Reiiit.

Anonymous said...

Sori, ond dwin cytuno gyda 9.12am - wyti wirioneddol yn deud i mi mai Oscar oedd yr 2ail ymgeisydd gorau yn y de ddwyrain pan gafodd o ei roi ar list Plaid? A hefyd a wtin deud i mi bod ei ferch un o 4 goreuon y blaid i ddod yn MEP?

Nath y Blaid defnyddio fo, i gael rywun o'i gefndir o i mewn. A dwi'n pwysleisio RYWUN. Ac mae o nawr yn defnyddio'r Cynulliad. Mae Plaid hefo ryw fath o fai yn hyn hefyd - wedi helpu fo a'i ferch gan anghofio aelodau eraill.

Anonymous said...

....a mond eisiau adio bod hwn yn broblem yn Plaid Cymru. Yn lle ffeindio yr ymgeisydd gorau i ryw ardal. Mae HQ yn mynnu taro targedi, ac mae fel petai neith "rywun" neud os mae nhw yn ferch neu o gefndir ethnig - nid dyma sut ddylai dewis ACau gael ei wneud.

Cai Larsen said...

Nid Oscar oedd y gorau - ond fo gafodd ei ddewis i'r Blaid yn unol a'r broses ddemocrataidd arferol. Hynny ydi aelodau wnaeth y dewis.

Chafodd aelodau'r Blaid Doriaidd ddim dewis - jyst pwyllgor hunan bwysig yng Nghaerdydd yn dweud wrth yr aelodaeth yn Ne Ddwyrain Cymru mai Oscar ydi'r dyn iddyn nhw.

Proses lwgr yn esgor ar ymddygiad llwgr. Hen, hen stori.

Anonymous said...

Dal dy dir, Menaiblog - roedd trefn dewis Plaid Cymru yn hollol wahanol i eiddo'r Toriaid. Gellir cwestiynu a oedd dewis MA yn ymgeisydd ar gyfer y Cynulliad yn ddewis doeth ar ran PC, ond mi oedd y broses o'i ddewis yn ddemocrataidd ac agored.

Anonymous said...

pam fod pobl yn mynnu cario ymlaen efo'r syniad dwl yma fod PC wedi dewis Asghar oherwydd ei hil?
Etholwyd ef (cysyniad anodd i rai, rwy'n derbyn) ar ol proses ddemocrataidd mewnol.
Fedr neb yn y Blaid - dim ots pwy - orfodi ymgeisydd ar unrhyw etholaeth, ward, neu ranbarth.
Pam fod hyn mor anodd i ddeall?

Anonymous said...

Wrth gwrs, wrth gwrs - hil ddim byd i wneud a'r busnes dewis ymgeisqwyr yma ! .
Ymddengys iddo droi dros nos o fod yn wr cyfrifol, gonest , gwrth-Brydeinig i fod yn walch ddiegwyddor.
mae'n rhaid fod Pleidwyr yr ardal yn dwpach na'r etholwyr Llafur yn yr ardal, sy'n dweud cyfrolau.