Sunday, August 21, 2011

Sefyll yn y bwlch yn erbyn hiliaeth a senoffobia mewn llenyddiaeth

Roedd yn ddifyr darllen llythyr Rod Richards yn Golwg lle mae'n cwyno i ddarn 'hiliol' o Cyn Oeri'r Gwaed, Islwyn Ffowc Elis gael ei adrodd mewn rhyw gystadleuaeth neu'i gilydd yn yr Eisteddfod eleni.  Mae'n flynyddoedd ers i mi ddarllen y llyfr a fedra i ddim cofio unrhyw gyffyrddiadau hiliol, ond os ydi Rod yn dweud bod y darn yn hiliol, dwi'n siwr ei fod.


'Dydi Rod erioed wedi fy nharo fel rhyw Al Sharpton o berson sy'n chwilio am dystiolaeth o hiliaeth ym mhob twll a chornel er mwyn creu helynt ynglyn a'r dywydiedig hiliaeth.  Ond dyna fo, mae'n dda deall bod Rod bellach yn gwneud defnydd cynhyrchiol o'i amser yn plismona hiliaeth a senoffobia mewn llenyddiaeth.  'Dwi'n siwr bod Rod yr un mor awyddus i blismona hiliaeth a senoffobia mewn llenyddiaeth Saesneg hefyd - er bod hynny'n debygol o fod yn dasg hynod feichus a maith. Beth bynnag, fel arwydd o barch ac ewyllys da 'dwi'n fwy na pharod i'w roi ar ben ffordd ynglyn a lle i ddechrau chwilio.

Merchant of Venice (Shakespeare) - Iddewon
The Jew of Malta (Marlow) - Iddewon
God Save the Queen  (Anhysb) - Albanwyr a thramorwyr yn gyffredinol.
My Neighbours (Caradoc Evans) Cymry.
Adventures of the Wishing Chair (Enid Blyton) - pobl China.
The Adventures of Huckleberry Finn (Mark Twain) - pobl croenddu.
The Battle of Maldon (Anhysb) - Llychlynwyr.
The Horse and his Boy (CS Lewis)  - Arabiaid / Indiaid.
The Lord of the Rings (Tolkien)  - pobl dywyll eu croen.
Oliver Twist (Charles Dickens) - Iddewon - er bod Dickens yn casau bron i bawb nad oeddynt yn Saeson.
Black Mischief (Evelyn Waugh) - trigolion Ethiopia.

2 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Paid anghofio'r Daily Mail! :P

HC said...

Beth am lyfrau
John Buchan : Prester John , Greenmantle,39 steps ayb (pawb ond Saeson trefedigaethol)
W.E. Johns : Pob llyfr Biggles ( Almaenwyr druan ,dan y lach ar bob tudalen).
C.S. Forrester : Neb gwell am fychanu'r Ffrancwyr .
Chwarae teg i Rod am ysbrydoli'r ffasiwn grwsad o blaid goddefgarwch a chydbwysedd llenyddol. O ia - beth am yr hen gomics 'Commando' a 'War ' ?