Friday, August 12, 2011

Roger Lewis a'r 'monkey language'

Wna i ddim cymryd rhan yn y ffrae sy'n siwr o godi ynglyn a sylwadau gwrth Gymreig Roger Lewis yn y Daily Mail heddiw

Mae Cymru a'r Gymraeg yn ddefnyddiol i'r sawl sydd a thueddiadau hiliol gael gwared o'u rhwystredigaethau o bryd i'w gilydd.  Byddai ymysodiadau cyhoeddus ar Fwslemiaid, pobl o gefndir Affro Caribiaidd, Iddewon neu hyd yn oed Wyddelod ag oblygiadau digon anymunol i'r sawl sy'n ddigon gwirion i wneud yr ymosodiadau.  Prin y gallai Roger alw Arabaidd yn monkey language, felly mae'n defnyddio'r term am iaith arall.  Felly mae hi mae gen i ofn, a wna i ddim cwyno. 

Yr hyn sydd o syndod i mi fodd bynnag ynglyn a phobl fel Roger ydi eu hanwybodaeth am eu hiaith eu hunain.  Mae'n ymddangos bod y ffaith i'r Gymraeg gael benthyg enwau Saesneg yn rhyw fath o feirniadaeth ysgytwol ar holl hygrededd yr iaith yng ngolwg Roger.  Ond mae llawer, llawer llai o eiriau benthyg yn y Gymraeg na sydd yn y Saesneg. 

Yn ol astudiaeth gan Thomas Finkenstaedt and Dieter Wolff (1973) mae 28.3% o eiriau Saesneg yn dod o'r Ffrangeg, 28.2% o'r Lladin, 25% o amrywiaeth o ieithoedd Germanaidd (gan gynnwys Hen Saesneg), 5% o'r Groegaidd, 4% o gefndir ansicr, 3% o enwau priod a 1% o ieithoedd eraill.

Fedra i ddim yn fy myw ddeall pam y byddai rhywun eisiau defnyddio tudalen adolygiadau y Mail i wneud sioe o'i anwybodaeth ei hun.

2 comments:

C D said...

Mae beth ddwedodd y ffwl yn tori rheolau hiliaeth siawns.

Un o Eryri said...

Diffiniad cywir o'r iaith Saesneg yw "a Bastard Language" yn yr ystyr nad oes gan yr iaith Dad. Wedi benthyg geiriau o bob man gan ryw h**** o Fam mae'n siwr. Yn anffodus hefyd mae hyn wedi bod o gymorth mawr i'w gwneud hi y iaith gryfaf yn y byd