Monday, August 08, 2011

Pwy ydi cynulleidfa S4C?

Mae yna drafodaeth fach digon diddorol draw ar flog Syniadau.  Honiad gan Huw Jones bod S4C yn wynebu her arbennig oherwydd bod y nifer o Gymry Cymraeg yn syrthio o tua 3,000 pob blwyddyn. ydi cefndir y blogiad.  Roeddwn yn rhyw gytuno efo MH (y boi sy'n cadw'r blog) bod y canfyddiad bod cwymp o gymaint a hynny yn ymddangos yn rhyfedd - yn arbennig ag ystyried bod cyfrifiad 2001 yn awgrymu cynnydd sylweddol yn y niferoedd sy'n siarad yr iaith -  508,000 neu 18.7% oedd ffigyrau 1991, tra mai 582,000 neu 20.8% oedd yn siarad Cymraeg erbyn 2001.  Mae hyn yn gynnydd o 7,400 y flwyddyn ar gyfartaledd.



Rwan mae MH yn anghytuno efo honiad Huw Jones ac yn cynhyrchu ei ffigyrau ei hun - rhai sy'n awgrymu mai'r gwir sefyllfa ydi bod tua 10,000 o gynnydd blynyddol yn y nifer o siaradwyr Cymraeg.  Wnai i ddim mynd i fanylu ynglyn a'r fethodoleg a arweiniodd at y  ffigyrau mae  Huw yn eu dyfynu, na'r un a arweiniodd at ffigyrau MH - mae'r blogiad ar Syniadau yn gwneud hynny yn llawer cliriach nag y gallwn i. Yr hyn sydd yn fwy diddorol ydi'r rheswm am y gwahaniaeth - mae'r naill ddehongliad yn diffinio Cymry Cymraeg fel pobl y gellir eu disgrifio fel rhai rhugl eu Cymraeg, tra bod y llall yn edrych ar bethau o safbwynt rhifau absoliwt - hynny yw y rhugl a'r rhai nad ydynt mor rhugl.

O safbwynt y dasg heriol mae Huw Jones yn eu hwynebu ar hyn o bryd - cynyddu nifer gwylwyr S4C - mae'r ddadl yn un bwysig.  Os ydi S4C yn diffinio'r Cymry Gymraeg yn nhermau siaradwyr naturiol a rhugl - pobl fel fi - yna mae problem ag iddi oblygiadau pell gyrhaeddol.  Mae'r proffeil demograffig a chymdeithasegol y Cymry Cymraeg wedi newid yn sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf.  Rydym bellach - fel grwp - yn fwy trefol, yn ieuengach ac yn llai rhugl ein Cymraeg nag oeddym ychydig ddegawdau yn ol.  Mae'n bwysig bod S4C yn cydnabod y newid yma, ac yn cynllunio ei dyfodol - a'i pholisi rhaglennu - yng ngoleuni'r sefyllfa sydd ohoni.


Mae S4C mewn sefyllfa ryfedd - mae dwy gynulleidfa ar gael iddi - yr un draddodiadol sy'n edwino, ac un gyfoes - sef yr un draddodiadol + yr un newydd - sy'n cynyddu'n weddol gyflym o ran niferoedd.  Mae'n bwysig i ddyfodol y Sianel, ac yn wir i ddyfodol y Gymraeg bod y sawl sy'n gyfrifol am bolisi rhaglennu S4C yn ymwybodol o natur y gynulleidfa sydd ar gael iddynt. 

6 comments:

Anonymous said...

Rydym bellach - fel grwp - yn fwy trefol, yn ieuengach ac yn llai rhugl ein Cymraeg nag oeddym ychydig ddegawdau yn ôl

Dwi'n anghytuno'n fawr gyda'r fath honiadau. Mae pobl wastad yn hawlio bod y Cymry Cymraeg ifanc yn llai rhugl ond dyma'r genhedlaeth sydd wedi derbyn eu haddysg yn Gymraeg yn gallu trafod pynciau trwy gyfrwng yr iaith na fyddai pobl megis fy nhad-cu i'n gallu. Yn y bôn byddwn i'n mynd mor bell a dweud bod Cymraeg y genhedlaeth ifanc heddiw yn Gymraeg glan a groyw yn enwedig o fewn y Fro, neu y siroedd sy'n cyfateb.

Yr hyn dwi'n amharod i dderbyn yw'r fath honiadau achos y fath ddatganiadau sydd yn peri i hyder nifer fawr i ddisgyn ac yna nid ydynt yn defnyddio'u hiaith mor aml am iddynt fod yn ofyn camdreiglo neu ddefnyddio gair Saesneg fan hyn a fan draw.

Rhywbeth sydd wedi digwydd ers oes y Normaniaid, dwi'n bersonol o'r farn bod na aelodau hyn o'n cymdeithas sydd yn uchel eu cloch gan hawlio bod eu Cymraeg nhw'n iawn, ond wrth wneud hyn maent yn uniongyrchol lladd ar hyder y siaradwyr newydd ac ys marw fydd yr iaith os nad yn ofalus.

Cai Larsen said...

Mi fyddai'n ddiddorol petaet yn cynhyrchu data i gefnogi dy farn.

O'r 20 ward sydd ag 80%+ yn siarad Cymraeg ynddynt mae 19 yn drefol, ol ddiwydiannol neu fwrdeisdrefol o ran natur.

Os edrychi di ar ffigyrau Syniadau mae yna 8.8% o blant ysgolion uwchradd yn siarad Cymraeg adref tra bod 6.9% yn siarad yr iaith yn rhugl, ond nad ydynt yn ei siarad adref - mae hynny'n gyfanswm o 15.7% sy'n siarad y Gymraeg yn rhugl. Ceir ymhell tros i ddwywaith cymaint nad ydynt yn ei siarad yn rhugl - 37.4%. Ar un olwg dyma Gymry Cymraeg y dyfodol - er y bydd rhywfaint o'r 37.4% wedi symud i'r categori 'rhugl'.

Rwan dydi hi ddim yn ymddangos i mi yn strategaeth dda o ran cynyddu'r nifer sy'n gwylio'r Sianel i gymryd mai'r unig gynulleidfa botensial ydi'r 15.7%. Mae hynny'n ymddangos i mi fel synnwyr cyffredin rhywsut.

Anonymous said...

Dwi'n cytuno ag hynny ac ar ran bod angen apleio at bawb, beth dwi'n anghytuno gyda yw'r ystadegau sydd yn pennu pobl yn 'siaradwyr Cymraeg' sy ddim yn rhugl.

Mae pobl o hyd yn dysgu iaith a pha bynnag iaith yw hynny ac felly y bobl hyn sydd fwyaf hyderus am eu bod wedi treulio oes yn siarad yr iaith, y bobl ifanc yn fwy ansicr am nad ydynt wedi datblygu i'w llawn botensial eto.

Hefyd pwysig yw nodi mae'r rhieni sydd yn selio os yw eu plant yn rhugl bellach sydd braidd yn anodd ei fonitro. Sut mae mesur rhuglder mewn iaith? Mae gan bawb syniadau gwahanol.

Dwi'n ystyried fy hun yn rhugl fy Almaeneg ond fedra i ddim sôn am bethau megis technoleg yn Almaeneg am nad wyf wedi cael y cyfle. Dwi dal yn defnyddio'r iaith honno ac yn ystyried fy hun yn rhugl.

Mae pawb a syniad gwahanol ar eu rhuglder ac felly gwastraff amser yw ceisio mesur hynny. Eraill wedyn heb hyder i ddweud eu bod hyn rhugl er gwaetha'r ffaith eu bod yn siarad Cymraeg o safon uchel iawn.

Sut mae mesur rhuglder?

Cai Larsen said...

Dyna pam bod defnyddio honiad o ruglder fel modd o wahaniaethu rhwng un Cymro Cymraeg ac un arall yn broblematig.

Anonymous said...

Rwyf newydd droi drosodd i weld beth sydd ymlaen ar S4C heno, ac mae'r arlwy yn dweud cyfrolau ynglyn a beth sydd o'i le ar ein sianel:

8 - 8.30 Pobl y Cwm - rhaglen ddiflas am Frigadwn Cymraeg sydd wedi bod yn dirywio ers degawdau. Roedd nain yn arfer cwyno fod PyC yn crap ers i Harry Parry adael. Roedd nain, a fu farw yn ganol y 90au, yn iawn bryd hynny ac mae hi'n parhau i fod yn iawn heddiw.

Ffaith - bydd mwy o Gymru Cymraeg yn gwylio Holby City na Pobl y Cwm.

8.30 - 9.30 Sioe Mon. Dyma ni Preim Teim ar S4C! Rhaglen sydd o ddim diddordeb i unrhyw un i'r de o Borthmadog ac sydd yn cael ei ddarlledu ychydig wythnosau yn unig ar ol wall to wall blydi Royal Welsh.

9.35 - 10.05 Pethe Hwyrach - y sefydliad diwylliannol a'u dilynwyr (llond dyrnaid o gyfranwyr a chynulleidfa o ychydig gannoedd) yn trafod Eisteddfod Wrecsam - gwyl a gafodd sylw di-bendraw wsos diwethaf.

Gofod - hmm. mae'n bosib y bydd hwn yn OK, ond crap llwyr fel arfer. Ffaith - bydd mwy o gynulleidfa draddodiadol S4C yn gwylio Gofod gan ei fod yn Gymraeg ac yn cynnwys eitem am fand Deiniolen yn mynd i'r Eisteddfod (y blydi Steddfod eto) nag o Gymru Cymraeg o dan 25.

10.40 - 11.40 Cofio Edward H Dafis - ripit o ripit ar gyfer y gynulleidfa draddodiadol in waiting 50 - 65 oed. Atgofion boring am Bafiliwn Corwen ayyb ayyb dwi'n cymryd

11.40 Pobl y Ffin - o'r diwedd rhaglen a allai fod o ddiddordeb ond mi fydda i'n chwrnu'n braf erbyn hynny.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae'r ferch yn y bath yn mwynhau Stwnsh Sadwrn ar Clic ar yr Ipad. Diolch byth am Clic - bwlshit ffiltar ac achubiaeth y sianel!

Cai Larsen said...

Mae yna wirionedd yn hyn oll mae gen i ofn anhysb