Friday, August 12, 2011

Arweinyddiaeth Plaid Cymru

Er mai un ymgeisydd sydd wedi taflu un o'i gapiau i mewn i'r talwrn hyd yn hyn, ymddengys bod yr ornest i sicrhau arweinyddiaeth Plaid Cymru eisoes yn mynd rhagddi  Felly waeth i mi roi fy mewath i mewn ar y cychwyn.

Yr hyn sydd bwysicaf i'w ystyried cyn dewis arweinydd i unrhyw blaid ydi i ba raddau mae'r sawl a ddewisir yn cynnig datrusiad i broblemau cyfredol y blaid honno.  Rwan 'dwi ddim yn gwybod beth fydd canlyniad adolygiad mewnol y Blaid, ond i mi mae'r problemau sylfaenol yn deillio o fethiant i arenwi a sefydlu lleoliad gwleidyddol clir a gwahanol yn y tirwedd ol ddatganoli y cawn ein hunain ynddo.  Arweiniodd hyn at broblemau eilradd - diffyg naratif etholiadol clir a diffyg hyder ymddangosiadol gan ein llefarwyr cyhoeddus yn ein polisiau gwaelodol.  Mae hyn yn ei dro wedi arwain at etholiadau diweddar lle mae'r llefarwyr cyhoeddus hynny wedi cynhyrchu naratifau anghyson, ac ar brydiau gwrthwynebus i'w gilydd.

Yr hyn mae'r Blaid ei angen yn fwy na dim arall ydi arweinydd a all fynd i'r afael a'r problemau hynny.  Golyga hynny greu diwylliant o ddisgyblaeth a threfn yn fwy na dim arall - disgyblaeth a threfn wrth ail leoli'r Blaid yn wleidyddol a disgyblaeth a threfn wrth sicrhau bod y Blaid yn gorfforiaethol yn dod i ddeall ei lleoliad a gweithredu yn unol a'r lleoliad hwnnw.  Mae llefarwyr cyhoeddus y Blaid hefyd angen ymarfer mwy o hunan ddisgyblaeth a sicrhau bod yr hyn maent yn ei ddweud yn gyhoeddus yn cydymffurfio a'n naratifau sylfaenol.  Fel yr awgrymais uchod, un o nodweddion yr ychydig etholiadau diwethaf ydi bod gormod o bobl yn ymddangos ar y cyfryngau ac yn dilyn eu trywydd eu hunain - mae hyn yn ddealladwy pan nad ydi'r naratif canolog yn glir, ond mae'n bwysig nad ydi hen arferion yn parhau yn y gyfundrefn newydd.  Mae'n bosibl hefyd y bydd angen ail strwythuro trefniadol er mwyn hyrwyddo'r newidiadau ehangach.

Felly - yn fy marn bach i - yr hyn rydym ei angen ydi arweinydd sy'n deall problemau'r Blaid, sy'n deall mai ei brif gyfrifoldeb ydi mynd i'r afael a'r rheiny, sy'n deall ei fod yn rhan o dim a sydd yn ennyn parch gan wleidyddion proffesiynol y Blaid, ei hactifyddion, ei haelodau a'i chefnogwyr.

Mae yna adegau pan mae plaid wleidyddol angen arweinydd ag iddo broffeil cyhoeddus uchel.  Nid adeg felly ydi hi i'r Blaid ar hyn o bryd.  Nid dyma'r amser am yr unigolyddol, y diddorol, y lliwgar na'r ecsotig.  Mae'n adeg am rhywun sydd a'r gallu a'r anian i osod cyfeiriad cyson,  disgybledig a rhesymegol i'r Blaid tra'n sylweddoli ei fod  yn un cydadran mewn endid sy'n fwy ac yn bwysicach na fo ei hun.

16 comments:

Anonymous said...

Clywch Clywch!

Anonymous said...

Os mai dyma (yn dy farn di) mae'r blaid ei angen- ai arweinydd byr dymor fydd yr unigolyn yma? hynny yw tan 2014- pan fydd cymeriad mwy 'lliwgar' yn dod ymlaen?

Os felly; fe allafi cytuno a chi. Ond i etholiad 2015 rhaid cael arweinydd lliwgar fel Salmond; oherwydd onid IWJ yda chin ddisgrifio uchod?

Cai Larsen said...

Mae'r dyfodol yn amlwg yn y dyfodol, ac mae'n bosibl y bydd anghenion y Blaid circa 2017 yn wahanol. Son am anghenion rwan ydw i.

Alwyn ap Huw said...

Damnia mai'r gwron anhysbys eisoes wedi gwneud y sylw yr oeddwn i am wneud, sef bod dy ddisgrifiad o'r arweinydd delfrydol yn ddisgrifiad teg o Ieuan Wyn Jones. Mae Ieuan Wyn wedi bod yn drefnydd clodwiw ar y Blaid yn ystod ei gyfnod fel arweinydd, ac yn ddi-os bydd angen rhywun i barhau a'r gwaith trefnu yna pan fydd Wyn yn sefyll o'r neilltu.

Wrth edrych ymlaen at fis Mai nesaf , er enghraifft, bydd angen drefnydd da i sicrhau nad yw 'r sefyllfa hurt yn codi eto lle mae gan y BNP mwy o ymgeiswyr mewn ambell i sir na sydd gan y Blaid, yn wir i geisio sicrhau bod o leiaf hanner y seddi ym mhob sir yn cynnig ymgeisydd Plaid Cymru - bydd y fath yna o drefniadaeth yn hanfodol i lwyddiant hir dymor y Blaid, ond yr ond mawr yw "a'i dyna swyddogaeth yr Arweinydd?"

Onid swydd y Prif Weithredwr yw trefniadaeth? Swydd yr arweinydd yw ysbrydoli, ac mae pawb yn gwybod pwy all ysbrydoli, sut mae cael o'n arweinydd heb ymddangos yn dan din yw broblem!

Cai Larsen said...

Roedd gan IWJ ei gryfderau, ac fel mae dau ohonoch yn awgrymu roedd gallu trefniadol ymysg y rheiny.

Yr hyn oedd ar goll oedd overview o ble'r oedd y Blaid ar dirwedd gwleidyddol Cymru yn dilyn 1997, ymwybyddiaeth o ble y dylai fod a naratif i gyd fynd a'r sefyllfa newydd. Petai hynny yno byddai'r cyfnod diweddar wedi bod yn fwy llwyddiannus o safbwynt etholiadol.

Mae'n ddigon posibl y bydd y sefyllfa yn wahanol wedi 2016 ac y bydd anghenion y Blaid yn wahanol - ond mater i amser arall ydi hynny.

Anonymous said...

Mae angen rhuwin sydd yn dda ar teledu,yn enwedig yn y iaith fain.Er ei gryfderau eraill roedd IWJ yn hopless ar teledu.Mi glywais yn y croen fel petai,llawer tro ac yn meddwl ei fod yn ysbrydoli mond i'w weld ar teledu yn ddiweddarach ac yn siomedig ynddo.

Mae hi'n od iddo fod mor wael ar y box bach ond gyda ni mewn oes pan mai hwnnw yw'r unig gyfrwng sy'n cyfri,mae'n rhaid i'r arweinydd nesa allu wneud hynny fwy na dim.Simon Thomas ,i mi.

Anonymous said...

Oes unrhyw bosibilrwydd y byddai aelodau'r Blaid yn barod i ystyried dysgwr neu Arweinydd sydd dim yn siarad Cymraeg e.e. Jocelyn Davies neu Leanne Wood?

manonel said...

Heb fynd i'r afael â materion fel yr Iaith ac annibyniaeth i Gymru a gosod polisïau cadarn ar faterion eraill (wishy-washy oedd negeseuon y maniffesto 2011, rhaid dweud), ni fydd yr un arweinydd yn llwyddo. Mae ysbrydoli a chynnwys yr aelodaeth yn hanfodol hefyd, a hwnnw'n aelodaeth dra wahanol i 10 mlynedd yn ôl. Rwan ydi’r amser am lywodraethu, yn ironig iawn. Dros beth mae’r Blaid yn sefyll ac ar ba sail? Angen ymchwil cadarn tu ôl i bob polisi a datganiad, a phawb yn canu’r un don. Heb hyn, ‘sdim pwynt. Dwi ddim yn cytuno efo ‘gwyneb’ fel arweinydd, beth bynnag ei g/chefndir na thalentau ieithyddol. ‘Doedd Salmond ddim yn grêt ar y teledu pan gychwynnodd o, mae pethe eraill- fel hyder, gweledigaeth, y gallu i ennill parch wrth wneud penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd ayb - yn llawer pwysicach. Dim ennill fôts sydd isio rwan, ond creu symudiad go iawn a datblygu plaid gref.

Un o Eryri said...

Un camgymeriad ti'n wneud yn dy ddadansoddiad yw son am naratif y Blaid dro ar ol tro. Fe glywsom hyn amser yr etholiad hefyd gan amryw o aelodau amlwg yn y Blaid. I mi ystyr Naratif yw Stori. Nid yw stori yn rhwybeth i Blaid Wleidyddol fod yn rhoi i'r cyhoedd. Ni ddylid rhoi y bai ar hyn ar IWJ ychwaith. Mae angen i'r arweinydd nesaf fod yn berson i ysbrydoli ein cefnogwyr presennol yn bendant, ond hefyd yr angen iddo ef/hi allu denu hen gefnogwyr yn ol, ond yn bwysicach na dim rhaid iddo ef/hi allu denu cefnogwyr newydd yn eu miloedd. Os na lwyddith/llwyddith i wneud hynny, ni allwn ddisgwyl gwell canlyniadau mewn etholiadau, ond nid yw hynny hyd yn oed yn dweud na allwn ddylanwadu ar yr hyn sydd yn digwydd mewn llywodraeth yma yng Nghymru, yn Brydain, yn Ewrop ac yn rhyngwladol. Nid trwy enill etholiadau yw'r uniig ffordd o symud ein hachos ymlaen. Perswadio pobl eraill i dderbyn ein agenda yw'r nod bod hynny yn unigolion, neu yn Bleidiau Gwleidyddol

Alwyn ap Huw said...
This comment has been removed by the author.
Alwyn ap Huw said...

Efo pob parch Un o Eryri rwy'n credu eich bod yn camddeall y term "naratif" yn y cyd-destun gwleidyddol. Mae polisïau plaid yn dweud be mae'n cefnogi, mae naratif plaid yn egluro pam ei fod yn cefnogi'r fath polisïau.

Er enghraifft rwy'n siŵr bod Cenedlaetholwyr ac "Unoliaethwyr" ill dau am gefnogi polisïau sydd am wella economi Cymru, yr hyn sydd am eu gwahanu yw eu "naratif", eu rhesymau dros gefnogi 'r fath bolisïau. Bydd yr Unoliaethwr am weld economi Cymru yn llwyddo er mwyn profi bod Cymru yn cael bendith o'r undeb ac yn cyfrannu ei siâr deg i'r Deyrnas Cyfunol; bydd Cenedlaetholwr am i Gymru llwyddo yn economaidd er mwyn profi bod modd i Gymru sefyll ei gornel yn gadarn fel Cenedl annibynnol. Yn hynny o beth mae cael naratif cadarn cyn bwysiced a chael polisïau cadarn a dyma fu un o wendidau Plaid Cymru yn niweddar. Mae'r Blaid wedi awgrymu ambell i bolisi da mewn etholiadau diweddar - gliniaduron i bob plentyn ysgol, pensiwn teg, rheolydd pris tanwydd, cronfa adeiladu gyhoeddus ac ati - pob un yn bolisïau clodwiw o'u cyflwyno ar lefel Prydeinig neu ar lefel Cymreig.

Yr hyn sydd wedi bod yn wan yng nghyflwyniad rhai o bolisïau Plaid Cymru yw egluro be sydd gan addysg dechnolegol gynhwysfawr i'n plant, gofal gwych i'n henoed, pris tanwydd teg a chronfa is adeiladaeth i wneud efo 'r achos Cenedlaethol a gan hynny dydy'r Achos Cenedlaethol ddim yn llwyddo gymaint ag y gallai o gyflwyno polisïau clodwiw gan Blaid Cymru. Dyma pam bod angen cyplysu polisïau da a naratif da.

Mae pawb yng Nghymru yn cefnogi addysg dechnolegol gynhwysfawr i'n plant, gofal gwych i'n henoed, pris tanwydd teg a chronfa is adeiladaeth i Gymru (y polisi) - Yr unig ffordd o'u cael yw trwy gefnogi annibyniaeth i Gymru / ehangu datganoli / pleidleisio i Blaid Cymru, gan nad oes gan y DU flewj o ddiddordeb o'u rhoi inni (y naratif)!

Cai Larsen said...

Mae HRF yn gwbl gywir - mae'n rhaid wrth stori i werthu unrhyw beth - boed yn gar neu'n blaid.

Un o Eryri said...

Nid yw Stori yn golygu dim i unrhyw berson call. Stori yw rhywbeth i'w gymeryd yn ysgafn. Y peth pwysig yw polisiau cadarn

Cai Larsen said...

Gweler - http://solutionfocusedpolitics.wordpress.com/2010/10/30/building-a-successful-political-narrative/

Dydi pobl ddim yn deall nag yn cofio polisiau ynddynt eu hunain - maent yn cofio stori. Cofier y gall polisi ddod yn rhan o naratif llwyddiannus.

Alwyn ap Huw said...

Ond mae polisïau cadarn mewn anialwch syniadaeth yn golygu dim i lawer o bobl gall chwaith.

Os nad oes gennyf blant na pherthnasau hŷn ac os nad ydwyf yn gyrru, be di'r ots gennyf am bolisïau unrhyw blaid ar addysg, neu ofal henoed , neu bris petrol neu isadeiledd ffyrdd?

Mae'n rhaid i blaid ceisio denu fy nghefnogaeth trwy gynnig naratif neu stori sy'n egluro paham bod y polisïau yma yn berthnasol imi : maent o les i'r genedl; byddant o fendith i'r dosbarth gweithiol; maent yn bolisïau llesol i fusnes; dyma'r fath bolisïau dylid eu cefnogi gan berson gwar rhyddfrydol a democrataidd; dyma'r polisïau bydd o fudd i'r amgylchedd ac ati

Heb y stori mae'r polisïau, er gwaethaf eu cadernid, yn gwbl amherthnasol imi.

Cai Larsen said...

Cweit Alwyn - ti'n ei roi'n llawer gwell na fi a dweud y gwir.

Hefyd wrth gwrs mae'n rhan o'n natur - rydan ni'n ymateb i stori mewn ffordd nad ydym yn ymateb i wybodaeth sy'n anghysylltiedig a'i gilydd.