Monday, August 02, 2010

Rhyfel Afghanistan

Mae delweddau rhyfel wedi eu saniteiddio fel yr un isod o gyrff milwyr Prydeinig yn dychwelyd adref o Afghanistan wedi dod yn bethau digon cyffredin ar y teledu ac ar y cyfryngau print yn ddiweddar yn anffodus.


Er bod canfyddiad ar gychwyn y rhyfel y gellid ei ennill mae'r ystadegau sydd ar gael yn dangos mai'r gwrthwyneb sydd yn wir. Gwaeth ac nid gwell ydi pethau 'rwan nag oeddynt ar y cychwyn. Cymerer er enghraifft y ffigyrau ar gyfer aelodau o'r lluoedd diogelwch sydd wedi colli o leiaf un fraich neu goes.

Date Afghanistan Iraq
All 2006 7 6
Q1-2007

Q2-2007 5
Q3-2007

Q4-2007

All 2007 12 10
Q1-2008 6
Q2-2008

Q3-2008

Q4-2008 15
All 2008 30
Q1-2009



Neu'r nesaf sydd yn dangos anafiadau drwg a difrifol.



Anafiadau drwg Anafiadau drwg a ystyrir yn ddifrifol
Cyfanswm 419 216
2001 0 0
2002 1 1
2003 1 0
2004 6 3
2005 2 2
2006 31 18
2007 63 23
2008 65 27
2009 157 82


Marwolaethau a geir yn y trydydd:

YEAR Iraq Afghanistan
2001
0
2002
3
2003 53 0
2004 22 1
2005 23 1
2006 29 39
2007 47 42
2008 4 51
2009 1 108
2010 0 82



TOTALS 179 327

Yr hyn na fyddwn yn glywed amdano mor aml (oherwydd fel, y gwelwyd yn ddiweddar, mae'r wybodaeth yn cael ei guddio oddi wrthym) ydi'r niferoedd cynyddol o sifiliaid sy'n cael eu lladd yn y llanast. Gweler yma am fanylion. - miloedd ar filoedd yn ol pob tebyg - 33 ar Chwefror 21 eleni gan awyrennau rhyfel NATO, 1o o sifiliaid gan gynnwys 8 myfyriwr gan filwyr Americanaidd ddiwrnod 'Dolig y llynedd, rhwng 70 a 90 o sifiliaid oedd yn ceisio dwyn olew o loriau olew a gafodd eu difa gan awyrennau awyr yr UDA, efallai (ceir peth anghytuno yma) 147 o sifiliaid gan gynnwys o leiaf 97 o blant ym Mis Mai yn llynedd gan B1-B Americanaidd, dwy wraig feichiog, geneth yn ei harddegau, plismon a'i frawd gan filwyr Americanaidd ynghynt eleni ac ati, ac ati ad nauseum. Lleddir llawer iawn yn ychwanegol gan fomiau'r Taliban wrth iddynt ymosod ar luoedd y Gorllewin - fel yn yr achos dychrynllyd yma heddiw.

Er ein bod ni yn cael ein gwarchod rhag hyn oll, 'dydi pobl De Afghanistan ddim, a 'dydi'rdelweddau sy'n diffinio'r rhyfel i'n gwrthwynebwyr ddim yn rhai dymunol - maent yn ddelweddau sydd yn cyfrannu at broses seicolegol anymunol sy'n anfon pobl allan i'r llwch a'r gwynt efo ffrwydrolion wedi eu clymu o gwmpas eu canol er mwyn llofruddio eraill a nhw eu hunain.



Yr hyn y gallwn ei ddweud gyda sicrwydd ydi bod y polisi o ryfela yn Afghanistan yn dangos ffydd rhyfeddol mewn gallu lefelau anferth o drais i ateb problemau gwleidyddol yn y wlad honno. Ffydd nad oes yna unrhyw dystiolaeth hanesyddol i'w gefnogi. Mae'r llwybr hwn wedi ei ddilyn gan yr Undeb Sofietaidd yn ogystal a chan Brydain (wrth gwrs) ar sawl achlysur.

Llun enwog gan Elizabeth Butler ydi'r isod (1842) o ddyn o'r enw William Brydon yn dychwelyd o Afghanistan ar ddiwedd y rhyfel Eingl Afghanistan cyntaf. Fo oedd yr unig un i ddychwelyd o 16,000 a anfonwyd i ymosod ar y wlad. Cafwyd dau ryfel Eingl Afghanistanaidd arall, nad oedd mor waedlyd (i Brydain o leiaf) ond a achosodd lawer iawn mwy o drafferth byr a hir dymor nag oedd neb wedi dychmygu ar y pryd - trafferthion oedd yn waeth na'r rhai a'n hanfonodd i ryfel i'w datrys.


Yn rhyfedd iawn mi gollodd yr Undeb Sofietaidd yn y ganrif ddiwethaf tua'r un faint o filwyr a Phrydain yn y rhyfel Eingl Afghanistan cyntaf, ac mi gafodd tua 10,000 eu gwneud yn barhaol anabl. Gadael heb ennill oedd eu hanes nhw - fel y bydd ein hanes ni maes o law. Yn amlwg roedd colledion pobl Afghanistan a sifiliaid yn arbennig, yn llawer iawn, iawn uwch. Fel yna mae hi wedi bod erioed.

A'r tro nesaf y byddwch yn clywed am filwr yn cael ei ladd ('dydych chi ddim yn debygol o glywed am sifiliaid brodorol oni bai eich bod yn mentro i Wikileaks), gofynwch i chi'ch hun y cwestiwn hwn - pa dystiolaeth hanesyddol sydd gan y sawl sy'n ein rheoli bod trais eithafol yn cynhyrchu deillianau cadarnhaol yn Afghanistan, ac os nad oes tystiolaeth o'r fath, pam ydym yn caniatau iddynt ryfela ar sail eu ffantasiau gwirion?

18 comments:

Anonymous said...

Beth yw'r ateb felly? Tynnu allan ar unwaith, golchi ein dwylo o'r holl sefyllfa a gadael i rhyfel sifil barhau ym mhell i ffwrdd o lygaid y wasg Gorllewinol? Dim ots bod yr Afghans yn parhau i ymladd ac i farw jyst bod ein hogiau ni yn iawn? Wrth gwrs mae rhaid cael ateb gwleidyddol ond mae hyn yn anodd pan mae'r Taleban wedi gwrthod unrhyw wahoddiad hyd yma i hyd yn oed eistedd lawr a trafod gyda Llywodraeth Afghanistan. Falle yn wir ni ddylai milwyr NATO fod yna beth bynnag ond mi fyddai tynnu allan nawr heb unrhyw fath o gynllun heddwch mewn lle yn fradychiad llwyr o bobl Afghanistan.

Cai Larsen said...

Y brif broblem efo hyn ydi mai presenoldeb milwyr gorllewinol yn yr ardal ydi'r prif ffactor sy'n achosi ansefydlogrwydd gwleidyddol (ac o ganlyniad ansefydlogrwydd o safbwynt diogelwch wrth gwrs)- nid presenoldeb y Taliban.

Mae cyflwyno niferoedd sylweddol o filwyr Gorllewinol i'r ardal wedi ansefydlogi dwy wlad - Pacistan ydi'r llall wrth gwrs. Os ydi grym llywodraeth ganolog Pacistan i reoli'r wlad yn chwalu'n llwyr, mi fydd yna gryn dipyn mwy o dywallt gwaed mae gen i ofn.

Anonymous said...

Dansoddiad diddorol ac yn sicr dwi'n cytuno fyddai Pakistan niwclear heb lywodraeth ganolog sefydlog yn broblem nid yn unig i'r ardal ond i'r byd i gyd.
Beth sy'n ddiddorol, ond yn aml ddim yn cael ei drafod yn y wasg na gan y pleidiau gwleidyddol, yw'r "endgame" tebygol. Os mae milwyr NATO yn tynnu allan yn gyflym ac heb "fuddugoliaeth" neu cynllun heddwch mewn lle mae'n deybgol fydd y Taliban yn ail-gymeryd pwer yn taleithiau y de gan fod byddin Afhghanistan ei hun yn rhy wan i ddal rhain. Y cwestiwn wedyn fydd pa mor bell i'r gogledd, a pa mor gyflym, fydd y Taliban yn gallu gwthio, e.e. a fyddant yn gallu mynd yr holl ffordd ac ail gipio Kabul? Yn sicr fe fydd yna barhad o'r rhyfel sifil gwaedllyd a hir. A fyddai'r Taliban yn cefnogi y camps hyfforddi Al Qaeda yn y rhannau o Afghanistan maent yn rheoli fel o'r blaen? Os felly, beth ddylai ymateb gwledydd eraill i fod (nid yn unig gwledydd y Gorllewin ond India hefyd).
Mae'n hawdd i ddadlau na ddylai milwyr NATO fod yn Afghanistan ond yn fwy anodd i drafod goblygiadau uniongyrchol a hir dymor y polisi o dynnu'r milwyr allan. Mae'n dda fod blogiau yng Nghymru yn trafod y fath bynciau.

Cai Larsen said...

Llwythol ydi gwleidyddiaeth y wlad yn sylfaenol - pan mae'r wlad wedi cael ei gadael i'w dyfeisiadau ei hun yn y gorffennol mae pethau wedi sortio eu hunain allan heb y math o gyflafan sy'n mynd rhagddi ar hyn o bryd.

Dydi'r ddadl Al Qaeda ddim yn un mor gryf a hynny bellach - mae'n debyg bod gan y corff hwnnw bresenoldeb mewn nifer o wledydd sydd a strwythurau llywodraethol gwan - Sudan a Yemen er enghraifft. 'Dydan ni ddim yn ceisio delio efo'r trwy ymosod ar y gwledydd hynny. Mae'n werth nodi bod ganddynt bellach bresenoldeb yn Irac - rhywbeth nad oedd yn wir cyn y rhyfel yno.

Anonymous said...

Hey there, You've done a fantastic job. I'll certainly digg it and personally suggest to my
friends. I am confident they'll be benefited from this site.

my blog: hardwood flooring

Anonymous said...

I tend not to create many comments, however i
did some searching and wound up here "Rhyfel Afghanistan".

And I actually do have a few questions for you if it's allright. Is it only me or does it look as if like some of the comments come across as if they are left by brain dead visitors? :-P And, if you are writing on other online social sites, I'd like to follow anything fresh you have to post.

Would you list of every one of your social sites like your twitter feed, Facebook page or linkedin profile?


hardwood flooring

Feel free to visit my web site; hardwood floor

Anonymous said...

It's awesome for me to have a web page, which is beneficial designed for my knowledge. thanks admin

Feel free to visit my site ... hardwood floors

Anonymous said...

Please let me know if you're looking for a article author for your weblog. You have some really good articles and I think I would be a good asset. If you ever want to take some of the load off, I'd
really like to write some material for your blog in exchange for
a link back to mine. Please shoot me an e-mail if interested.
Thanks!

Check out my webpage ... hard wood floor

Anonymous said...

A fascinating discussion is worth comment. I think that you ought to
publish more on this issue, it might not be a taboo subject but typically people do
not discuss such subjects. To the next! All the
best!!

My web page ... hardwood floors

Anonymous said...

Fantastic goods from you, man. I have bear in
mind your stuff previous to and you're simply extremely great. I actually like what you've got here, really like what you're stating and the way in which by which you say it. You're
making it entertaining and you continue to take care
of to stay it smart. I can't wait to read far more from you. This is really a terrific website.

my web site; affordable hardwood flooring
My website > hardwood flooring

Anonymous said...

Hello, all is going well here and ofcourse every one is sharing data, that's genuinely good, keep up writing.

Here is my blog post hardwood flooring

Anonymous said...

Excellent post. I was checking constantly this blog and I am impressed!
Very useful info specifically the last part :) I care for such information much.
I was looking for this certain information for a long time.
Thank you and good luck.

My web page :: hardwood flooring

Anonymous said...

My partner and I stumbled over here by a different web address and thought I might check things out.
I like what I see so now i'm following you. Look forward to exploring your web page yet again.

Feel free to visit my web blog - hardwood floors

Anonymous said...

Hi friends, how is everything, and what you would like to say concerning this post, in my view
its genuinely amazing in favor of me.

Feel free to surf to my blog post ... house cleaning phoenix
Also see my webpage - cleaning service phoenix

Anonymous said...

Quality content is the crucial to be a focus
for the viewers to pay a visit the web site, that's what this website is providing.

Also visit my web page - housekeeping agency

Anonymous said...

buy valium diazepam valium for separation anxiety in dogs - order valium online with no prescription

Anonymous said...

This web site really has all the information I needed concerning
this subject and didn't know who to ask.

Review my web blog - cycle hair growth cycle

Anonymous said...

Its like you read my mind! You seem to know so much
about this, like you wrote the book in it or something. I think that you can do with some pics to drive the message home a
little bit, but instead of that, this is fantastic blog. An
excellent read. I'll certainly be back.

My blog: nail fungus zetaclear
Also see my page > zetaclear reviews