Wednesday, August 26, 2009

Mr el-Megrahi a Lt William Calley (neu fideos gwleidyddol 4)


Fel y gwyddoch 'dwi wedi bod i ffwrdd am gyfnod - ond roedd stori rhyddhau
Abdelbaset Ali al-Megrahi a'r ymateb hysteraidd a'r sgorio pwyntiau gwleidyddol idiotaidd gan y pleidiau unoliaethol a'u cefnogwyr a gododd yn sgil hynny yn stori hyd yn oed yn Bosnia.

'Rwan dydi rhyddhau carcharorion sydd wedi cyflawni gweithredoedd erchyll gan wleidyddion ddim yn arbennig o anarferol - yn wir 'dydi o ddim yn anarferol o gwbl.

'Dwi'n siwr bod darllenwyr blogmenai yn cofio Jack Straw (a'r llysoedd) yn rhyddhau dyn oedd wedi lladd llawer mwy o bobl na phawb arall yr ydym yn son amdanynt yn y blog hwn efo'i gilydd. Llun o'r cyfaill hwnnw, ei wraig ac aelod o blaid Mrs Annabelle Goldie a aeth ati i ymgyrchu gydag arddeliad a brwdfrydedd o blaid ei ryddhau a geir isod.



Enghraifft arall oedd rhyddhau 428 o garcharorion yng Ngogledd Iwerddon (gan gynnwys 143 oedd wedi eu carcharu am oes) ar ddiwedd y ddegawd diwethaf fel rhan o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith. Roedd y rhain yn cynnwys dynion megis
Bik McFarlane oedd yn gyfrifol am lofruddio 5 o bobl yn Bayardo Bar ar y Shankill - gan gynnwys tair dynes oedd yn cerdded heibio'r bar - mae'n debyg i Mr McFarlane eu saethu'n stribedi efo machinegun, neu Johnny Adair, gwr bonheddig a oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo'r UFF yng Ngogledd Belfast yn ystod cyfnod pan drochwyd strydoedd cul yr Ardoyne gyda gwaed Pabyddion.

Mae yna ddwsinau o achosion anwleidyddol - er enghraifft rhyddhau Anthony Jeffs oedd wedi lladd heddwas yn ol yn y nawdegau cynnar gan lywodraeth geidwadol.

Mae llawer o'r sterics ynglyn a'r achos yma yn deillio o'r ffaith bod dimensiwn Eingl Americanaidd i'r stori - mae America yn flin iawn am y sefyllfa. Mae gan America hanes hir o ryddhau carcharorion sydd wedi llofruddio wrth gwrs - ond mae'n help mawr os ydi'r carcharor wedi bod yn ddigon gofalus i lofruddio pobl nad ydynt yn Americanwyr. Roedd llywodraeth America yn gefnogol iawn i ryddhau carcharorion Gogledd Iwerddon er enghraifft.

Esiampl (ymysg llawer) o oddefgarwch America tuag at rhai carcharorion ydi achos milwr o'r enw William Calley. Calley oedd arweinydd ymysodiad gan fyddin America ar bentref My Lai yn Fiet Nam ar Fawrth 16, 1968, pan laddwyd rhwng 347 i 504 o drigolion y pentref ('does yna neb yn hollol siwr). Roedd llawer o'r meirwon wedi eu arteithio, eu treisio, wedi eu cam drin yn rhywiol neu wedi cael rhannau o'u cyrff wedi eu torri i ffwrdd cyn eu lladd. Gwrthododd tri o'r milwyr Americanaidd gymryd rhan yn y gyflafan a gwnaethant eu gorau i atal y drychineb. Am eu dewrder cawsant eu condemni yn senedd America, cawsant eu boddi mewn llythyrau bygythiol gwenwynig a gadawyd darnau o anifeiliaid wrth eu drysau.



Cyhuddwyd 26 o swyddogion byddin yr UDA mewn cysylltiad a'r digwyddiad yn 1971. Un yn unig a gafwyd yn euog - William Calley prif swyddog yr uned oedd yn gyfrifol am y gyflafan - cafodd ei ddedfrydu i fywyd o lafur caled yn y carchar. Esgorodd hyn ar gyfnod o hysteria cenedlaethol - nid anhebyg i'r hyn a ddigwyddodd pan ryddhawyd el Megrahi yn America - ond hysteria yn erbyn carcharu, nid hysteria yn erbyn rhyddhau a gafwyd ar yr achlysur hwnnw wrth gwrs.



Gofynodd Jimmy Carter (oedd i ddod yn arlywydd yn ddiweddarach) i bawb ddreifio gyda'u goleuadau ymlaen fel protest. Roedd y baneri yn chwifio ar hanner mast yn Indiana. Aeth George Wallace i weld Calley yn y carchar. Yn ol polau piniwn, roedd 79% o Americanwyr yn erbyn y ddedfryd. Gofynodd nifer o senedd dai taleithiol yr UDA i'r llys fod yn drugarog - er nad oedd gweithrediad cyfraith milwrol yn ddim oll o'u busnes.

Ddiwrnod wedi'r ddedfryd gorchmynodd yr arlywydd (Nixon) y dylai Calley gael ei garcharu o dan amodau House Arrest yn Fort Beling. Yn y diwedd tair blynedd a hanner o ddedfryd a gafodd Calley - y cwbl ohono ag eithrio diwrnod wedi eu dreulio yn ei gartref yn Fort Beling. Daeth y gan bach isod - The Ballad of Lt Calley - yn boblogaidd am gyfnod.

Mwynhewch.



Mae enghreifftiau eraill o ryddhau cynnar yn America- rhai yn ddiweddar iawn. 521 diwrnod o ddedfryd o 4-6 blynedd a dreuliodd Lynndie England - un o arteithwyr Abu Grahib. Dim ond dau aelod arall o'r sawl a arteithiodd (ac oedd hefyd yn gyfrifol am dreisio a llofruddio) carcharorion a gafodd garchar o ganlyniad i'r digwyddiadau hynny - un am fis neu ddau yn unig.

Mae'n un o ffeithiau bywyd bod mewn llywodraeth bod problemau fel yr un oedd yn wynebu llywodraeth yr Alban yn codi o bryd i'w gilydd - cafodd Jack Staw ei hun mewn sefyllfa digon tebyg fel y gwelsom yn gynharach. Mae dadleuon cryf o'r ddwy ochr yn achos Al Megrahi - ond yn ymarferol cyfyng iawn oedd dewis llywodraeth yr Alban - fel mae
blog Saesneg Alwyn yn nodi.

Gall rhywun ddeall ymateb perthnasau'r sawl a laddwyd (er nad ydi'r rheiny yn unfrydol wrth gwrs) ond mae'r ymateb hysteraidd i benderfyniad llywodraeth yr Alban gan wleidyddon unoliaethol yn sinicaidd ar y gorau.

Mae'r safonau dwbl yn America, lle ceir diwylliant o wrthwynebiad i garcharu Americanwyr am ladd neu gam drin tramorwyr, tra'n daer o blaid lluchio'r goriad pan mae tramorwyr yn lladd neu'n cam drin Americanwyr yn waeth na hynny. Duw yn unig a wyr pam bod rhai pobl yr ochr yma i For yr Iwerydd yn is ymwybodol yn rhannu'r gred bod bywydau Americanaidd yn fwy gwerthfawr na bywydau pobl eraill.

14 comments:

Anonymous said...

Oes angen Enigma i ddadansoddi'r cod Mr Menai????

Cai Larsen said...

Ydi o'n well rwan?

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dwi wedi son am yr achos yma ar fy mlog i, ac er mod i'n cyfeirio at 270 lladdwyd gan y llofrydd o Lybia, dwi'n rhoi pwyslais ar fywydau yr 11 Albanwyr lladdwyd yn Lockerbie.
Be fyddai agwedd rhai o'r pobl sydd yn siarad o blaid rhyddhau y llofrydd pe bai'r awyren yn cludo Cymry neu pe bai'r awyren wedi dymchwel i'r ddear dwedwn i yn Abertawe,Aberystwyth neu Y Felinheli? Onid gwahnol fyddai'r safbwynt "dewr" a "moesol" wedyn?

Cai Larsen said...

Ti'n gofyn ar dy flog os y byddai Mr Macaskill wedi rhyddhau al-Megrahi petai aelodau o'i deulu wedi eu lladd yn y digwyddiad. Mae hyn yr un peth yn y bon nag ydi gofyn os y byddai agwedd pobl yr un peth petai'r meirwon yn Gymry.

Hynny yw ti'n holi os y byddai agwedd pobl yr un peth petai ganddynt ymrwymiad emosiynol i'r sefyllfa.

'Dydan ni ddim yn caniatau i farnwyr, twrneiod, rheithgor ac ati mewn achos llys i fod a pherthnasedd pesonol i'r achos hwnnw.

Y rheswm am hynny ydi oherwydd nad ydi bod yn emosiynol ymrwymedig i sefyllfa yn amgylchiadau da i gymryd penderfyniadau cyfreithiol - neu led gyfreithiol.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Y pwynt oeddwn i yn geisio gwneud yn fan hynny oedd wrth i wleidyddion neud penderfyniadau y dylent ystyried y pobl mae'r penderfyniad yn effeithio arnynt.
Ymddengys fod pob ystyriaeth wedi rhoi i effaith y penderfyniad ar y llofrydd a'i deulu ond yn yr un modd ymddengys na roddwyd DIM ystyriaeth i deuluoedd y rhai llofryddwyd.
Dwi ddim yn deallt sut mae unrhyw un yn gallu amddiffyn y penderfyniad yma fel un cyfiawn a theg. Unwaith eto newid y lleoliad a'r unigolion o'r Alban ac Albanwyr i Gymru a Chymry..byddet ti yn amddiffyn penderfyniad o'r fath...swn i ddim ac fedrai ddim cwcio bach a cefnogi y penderfyniad yma, sydd i bob ystyr yn gwneud i'r Alban edrych yn wan ac yn cefnogi terfysgwyr rhyngwladol.

Cai Larsen said...

Felly pan ryddhawd Pinochet gan Brydain roedd yn gwneud i lywodraeth y DU ymddangos yn wan ac yn gefnogol i ffasgaeth?

Pan benderfynodd llywodraeth y DU ryddhau carcharorion Gwyddelig roeddynt yn ymddangos yn wan ac yn gefnogol i derfysgaeth?

Pan bennderfynodd llywodraeth y DU beidio ag erlyn Anthony Blunt roeddynt yn wan ac yn gefnogol i Gomiwnyddiaeth?

Pan ryddhaodd llywodraeth De Affria Mark Thatcher roeddynt yn ymddangos yn wan ac yn gefnogol i ymdrechion milwyr ffortiwn i oresgyn gwledydd eraill?

Pan benderfynodd llysoedd America i beidio a charcharu Oliver North roeddynt yn gwneud i America ymddangos yn wan ac yn gefnogol i ddelio mewn cyffuriau a chefnogi terfysgaeth a llywodraeth Iran?

Pan gafodd Nixon yr holl gyhuddiadau yn ei erbyn wedi eu diddymu roedd hynny'n gwneud i America ymddangos yn wan a chefnogol i lygredd llywodraethol?

Pan groesawyd Lee Clegg yn ol i fyddin Prydain roedd hynny'n gwneud i'r DU ymddangos yn wan ac yn gefnogol i lofruddio pobl sydd yn dwyn ceir?

Pan benderfynodd Widgery mai'r sawl a saethwydd ar Ionawr 30 1972 oedd yn gyfrifol am eu tynged eu hunain roedd hynny'n gwneud i Brydain, ymddangos yn wan ac yn gefnogol i saethu protestwyr mewn gwaed oer?

Pan benderfynodd y llywodraeth amddiffyn Maxine Carr a rhoi enw newydd iddi roeddynt yn gwneud i Brydain ymddangos yn wan ac yn gefnogol i lofruddio plant?

Pan benderfynodd llywodraeth Prydain ryddhau Biggs roeddynt yn ymddangos yn wan ac yn gefnogol i ddwyn o drenau a llofruddio gweithwyr trenau?

Pan ollyngwyd y cyhuddiadau yn erbyn cyfarwyddwyr Matrix Churchill ar gais Alan Clark roedd hynny'n gwneud i Brydain ymddangos yn wan ac yn gefnogol i Saddam Hussein?

Ac ati, ac ati, ac ati ad nauseum.

Pathetig Gwilym, pathetig.

Anonymous said...

Be sydd yn pathetic am be mae'r boi yn ei ddeud? Derbyn nad ydi o'n cytuno efo chdi...di'r ffaith dy fo ti'n rhestru llwyth o engreifftiau eraill ddim yn golygu fod rheini yn iawn chwaith...jyst bod nhw yn gosod cynsail sail sydd wedi arwain at benderfyniad sal arall.
Paid a troi dadl deg yn bersonol.

Cai Larsen said...

'Dwi ddim yn ei droi fo'n bersonol - ond mae'r rhesymeg yn dreuenus o anaeddfed.

Nid mater o gynsail ydi o - pan mae pobl yn llywodraethu mae penderfyniadau - amhoblogaidd ac anodd yn gorfod cael eu gwneud weithiau - 'dwi wedi rhestru efallai ddeg esiampl o filoedd.

Ond eto - er gwaethaf cyd destun o benderfyniadau felly yn cael eu gwneud ar rhyw bwynt neu'i gilydd gan pob llywodraeth, pan mae llywodraeth genedlaetholgar yn cael eu hunain yn y sefyllfa arbennig yna mae'n arwydd o wendid a chydymdeimlad efo terfysgaeth.

Adlewyrchiad o mindset yr unoliaethwr os bu un erioed.

Anonymous said...

akjyo jpaqc ダウン レディース モンクレール サイズ ダウンジャケット メーカー ugjqb dlgdvs Blogger: BlogMenai.com - Post a Comment zhqaicy bottes ugg pas cher france ugg sarenza bottes ugg chine suxbgln eebbo bottes ugg pas cher net ugg paris bottes ugg d�griff� odnuvlpk bottes ugg sarenza ugg paris bottes ugg soldes org qkifuigv

Anonymous said...

Does your blog havе a contact рagе?
I'm having a tough time locating it but, I'ԁ
lіkе to ѕhoot уοu an e-mail.
I've got some recommendations for your blog you might be interested in hearing. Either way, great site and I look forward to seeing it develop over time.
Feel free to surf my site :: hollandenetwork.com

Anonymous said...

Thiѕ articlе will asѕiѕt the internet useгs
for setting up new blog оr evеn a blog from
stаrt to enԁ.

Feеl free to surf to my weblog; pulsed light

Anonymous said...

Thanκs deѕіgned for ѕharing suсh a рleaѕant opinion, artiсle is nicе,
thatѕ why i haѵе reаd it entiгely

My web site; Discover More Here
My site > visit the following website page

Anonymous said...

buy valium uk buy valium no prescription uk - side effects taking valium

Anonymous said...

Hi there Dear, аre you truly visіting this wеbsіte daily, іf so afterward уou
will wіthout dοubt get gоod knowledge.


Also visit my blog post: V2 Cigs reviews