Mae’r drafodaeth (ddiddorol iawn) sydd wedi codi yn sgil fy mlogiad diwethaf ynglyn a’r tyndra a geir rhwng gwleidyddiaeth rhanbarthol a chenedlaetholdeb yn peri cryn syndod i mi – er fy mod yn hapus i fod wedi ysgogi trafodaeth mor ddiddorol. Byddaf yn ymateb i ddau flogiad HRF yn ogystal ag i ddau flogiad Hogyn o Rachub a Dyfrig wedi i mi ddod adref – a chael mynediad fforddiadwy i’r We.
‘Dwi’n ymwybodol bod ‘sgwennu am wyliau ar flog mentro efelychu’r person boring hwnnw sy’n mynnu dod draw ar ol mynd ar ei wyliau i ddangos ei luniau. Fy mwriad wrth gyflwyno’r sylwadu isod ydi ceisio canolbwyntio ar yr hyn sy’n berthnasol i’r blog gwleidyddol hwn. Os oes yna rhywun ddigon trist i fod eisiau darllen am wyliau rhywun arall, mae gen i flog (‘dwi’n ei gadw ar fy nghyfer i fy hun) ar yr union bwnc yma.
Beth bynnag, yn ol at Bosnia Herzegovina. Efallai bod prif ddinas y wlad yma yn lle addas iawn i drafod y ddeuoliaeth ryfedd sydd rhwng brogarwch a chenedlaetholdeb. Rhag bod neb yn camddeall, ‘dwi ddim yn gwneud cymhariaeth uniongyrchol gyda Chymru yma – mae’r hyn sy’n gwahanu’r Bosniaid yn llawer mwy sylfaenol na’r hyn sy’n ein gwahanu ni, ac mae gwreiddiau`r gwahaniaethau hynny wedi ei blanu’n dwfn yn y pridd lle mae’r hyn sydd wedi hollti Ewrop am ganrifoedd lawer. Mae’r hyn sy’n ein gwahanu ni’n haws mynd i’r afael a fo, diolch byth. Cyffredinol iawn ydi unrhyw gymhariaeth y gellir ei gwneud yma.
Prif enwogrwydd Sarajevo mae’n debyg ydi i’r weithred a gychwynodd y Rhyfel Byd Cyntaf ddigwydd yma, sef llofruddiaeth yr Arch Ddug Franz Ferdinand ym 1914. Ail ymddangosodd y ddinas yn y newyddion rhyngwladol ym 1992 pan oedd yr hen wladwriaeth Iwgoslafaidd yn datgymalu, gydag un gwladwriaeth Iwgoslafia yn troi’n nifer – Serbia, Croatia a Bosnia Herzegovina a effeithwyd yn bennaf gan y rhyfel. Roedd yr effaith ar Bosnia Herzegovina yn bell gyrhaeddol ac yn ddirdynnol – lladdwyd tua 100,000 o boblogaeth o tua 4,000,000, a chafwyd symudiadau poblogaeth anferth. Term a fathwyd yn ystod y cyfnod yma yn Bosnia Herzegovina ydi ‘puro ethnig’.
Ymysodwyd ar Sarajevo gan fyddin Bosniaid Serbia a byddin Iwgoslafia ym 1992. Gwarchau’r ddinas – pan gafodd ei hamgylchynu a’i bomio am 1,400 diwrnod oedd yr hiraf yn hanes modern Ewrop. ‘Dwi’n eistedd wrth deipio hyn ar fryn tua 1km o ganol yr hen dref.
Mae tua hanner y llwybr i lawr i’r dref wedi ei amgylchu gan fynwent sy’n cynnwys cannoedd ar gannoedd o feddi gwyn – pob un ohonynt ar gyfer pobl a laddwyd rhwng 1992 a 1995, pob un ohonynt o ganlyniad i warchau’r Serbiaid. Ceir adeiladau wedi eu difa gan fomio a hoel bwleti ar waliau adeiladau hyd heddiw, er bod y lle wedi ei drwsio yn llawer gwell nag ail ddinas y Weriniaeth – Mostar er enghraifft -
Mae hefyd yn gyffredin i weld rhestr o’r sawl a laddwyd yn y cyffuniau ar adeiladau.
Canlyniad y rhyfel yma ydi Bosnia Herzegovina fel ag y mae heddiw – gwlad sydd efallai’n fwy rhanedig a dysfunctional nag unrhyw wlad arall yn y Byd. Ceir tri grwp ethnig yn y wlad, Bosniaks sy’n Fwslemiaid, Croatiaid sy’n Babyddion, a Serbiaid sy’n dilyn yr Eglwys Uniongred. Mae’r tri grwp yn honni eu bod yn siarad ieithoedd gwahanol – er bod y bobl sy’n deall y pethau yma yn dadlau eu bod oll yn siarad Serbo Croat gydag acenion gwahanol.
Mae enw’r wlad yn gyfuniad o ddau ranbarth daearyddol - Bosnia a Herzegovina.
Mae’r wlad yn cynnwys dwy wladwriaeth – Republika Srpska ar gyfer y Serbiaid a Ffederasiwn y Mwslemiaid a’r Croatiaid. Rhennir y Ffederasiwn i ddeg canton – pob un ohonynt gyda llawer iawn mwy o rym na’n Cynulliad ni. Nid oes rhaid nodi am wn i bod y wlad wedi ei ‘bendithio’ efo digon o bleidiau gwleidyddol – rhai ethnig, rhai cenedlaethol a rhai lleol. Mae ganddynt fwy na 50 ohonynt. Un o’r amryw o broblemau pan ffurfwyd y wlad oedd dod o hyd i faner. Gan nad oedd trigolion Bosnia Herzegovina yn gallu cytuno ar faner, roedd rhaid i’r Undeb Ewropiaidd lunio un ar eu rhan. Baner Croatia sydd i’w gweld yng ngorllewin y wlad, mor gwario’r kuna Croatiaidd neu’r Ewro na’r mark Bosniaidd yn rhai o’r lleoedd hyn. Yn amlwg baner a phres Serbia sydd i’w gweld yn Republika Srpska.
‘Rwan mae’n amlwg bod y wlad yma’n llanast llwyr fel gwladwriaeth, (er ei bod yn goblyn o le da a rhad i ddod ar wyliau) ar lefel gwleidyddol – y cwestiwn diddorol ydi pam?
Mae’n debyg mai gwraidd y broblem ydi nad oes yna fawr o gytundeb ynglyn a hunaniaeth cenedlaethol – nag yn wir ynglyn a’r cwestiwn os oes yna angen am wladwriaeth o gwbl. Fel Cymru ‘does gan Bosnia Herzegovina ddim llawer o hanes diweddar o fod yn wlad annibynnol – er ei bod wedi bod yn wlad felly am ganrifoedd yn y Canol Oesoedd – ond roedd pawb yn dilyn yr un crefydd bryd hynny – Eglwys Annibynnol Bosnia. Ers hynny bu’r wlad o dan fawd gwahanol ymerodraethau mawr – sefyllfa a roddodd hunaniaeth sylfaenol wahanol i gydrannau gwahanol o’r boblogaeth. – hunaniaethau oedd yn croesi hen fault lines gwleidyddol Ewropiaidd.
Mae’r gwledydd cyfagos yn symlach yn gymdeithasegol o lawer – Croatiaid ydi mwyafrif llethol trigolion Croatia a Serbiaid ydi mwyafrif llethol trigolion Serbia. Mae’r ddwy wlad yn ffyrnig genedlaetholgar – ac mae llawer o drigolion Bosnia Herzegovina yn uniaethu mwy efo’r cymdogion hyn nag ydynt efo’u gwlad eu hunain. Ar y llaw arall crefydd sy’n cadw’r Bosaks at ei gilydd – ac fel cymdeithas dydyn nhw ddim yn cymryd Mwslemiaeth cymaint o ddifri a’r rhan fwyaf o gymdeithasau Mwslemaidd (er mae’n drawiadol mai’r ifanc ac nid y canol oed a’r hen sy’n tueddu i wisgo’n draddodiadol Fwslemaidd yn y dinasoedd o leiaf – ond rhywbeth ar gyfer blogiad arall ydi hynny).
Felly ‘dydi Bosnia Herzegovina ddim yn gweithio fel gwladwriaeth oherwydd diffyg ffocws cenedlaethol, diffyg consensws ynglyn a’r angen am wladwriaeth a gwahaniaethau sylfaenol rhwng cydrannau’r gymdeithas. Mae hyn yn ein hatgoffa o Gymru i raddau – mae ein cymdeithas ni wedi ei rannu – gweler y model tri Chymru er enghraifft ac mae’r ffaith bod y pleidiau unoliaethol yn tra arglwyddiaethu yng Nghymru yn brawf nad oes unrhyw beth yn ymylu at gonsensws am yr angen am wladwriaeth. Ond dyna lle mae’r tebygrwydd yn gorffen – ‘dydi’r gwahaniaethau rhyngom ni ddim yn arbennig o dwfn.
Yr unig wers sydd gennym fel mudiad cenedlaethol i’w ddysgu o brofiad Bosnia ydi y dylid gwleidydda trwy ganolbwyntio ar yr hyn sy’n gyffredin rhyngom yn hytrach na’r hyn sy’n ein gwahanu. Mae Bosnia Herzegovina wedi methu hyd yn hyn fel gwlad oherwydd bod ei gwleidyddion a’i phobl wedi ffocysu yn llwyr ar yr hyn sy’n eu gwahanu. Y ffordd ymlaen i ni fel gwlad ydi gwneud y gwrthwyneb - gwneud y mwyaf o`r pethau hynny sy`n ein uno.
No comments:
Post a Comment