Saturday, August 29, 2009

Brogarwch vs Cenedlaetholdeb rhan 2

'Dwi am gychwyn trwy ddyfynu rhan o ymateb HRF i fy sylwadau yn ail ran ei ymateb i mi:

Os ydy pobl Bontddu am gadw eu hysgol , iawn gad iddynt dalu, trwy dreth blwyfol, y swm uwchben y cyfartaledd i'w gadw ar agor. Os yw'r gost yn rhy uchel i ganiatáu i hynny digwydd gad i fwrdd yr ysgol penderfynu uno efo'r Bermo, y Ganllwyd, Llanelltud, Dolgellau neu Lesotho er mwyn cyfiawnhau cadw presenoldeb ysgol yn y Llan. Gad i bobl Bontddu, yn hytrach na swyddogion Caernarfon, penderfynu nad yw cadw ysgol y llan yn syniad cynaliadwy!

Cyfeirio mae HRF yma wrth gwrs at y ddadl ysgolion, ac mae'n cynnig ateb i ddwy o'r elfennau sy'n gyrru'r agenda ailstrwythuro ysgolion tros Gymru, sef cost ysgolion llai a'r gwahaniaeth rhwng gwariant y plentyn mewn ysgolion mwy a rhai llai. Er bod y ddwy elfen yma'n ymddangos ar yr olwg gyntaf yn debyg, maent mewn gwirionedd yn wahanol - mae'r naill yn ymwneud ag effeithiolrwydd cyllidol tra bod y llall yn ymwneud a thegwch cymdeithasol.

Mae'n disgrifio ei ateb - sef rhoi'r cynnig i godi treth cyngor uwch mewn ardal os ydi ysgol yn ddrud i'w chynnal - fel un ceidwadol. Mae'r sylw yn hollol gywir - mae'n ateb ceidwadol yn ystyr ariannol / cyllidol y gair hwnnw. 'Dwi'n ystyried y syniad hefyd yn un diddorol iawn - er na fydd o fawr o syndod i neb sy'n darllen y blog hwn yn aml nad ydw i'n cael fy hun ar yr un ochr i bethau nag Alwyn. Mater i lywodraeth San Steffan wrth gwrs fyddai newid deddfwriaeth trethiant - felly ar y lefel honno y byddai mynd i'r afael a mater fel hyn. 'Dwi'n cymryd mai trwy refferendwm lleol y byddai cymuned yn penderfynu os ydynt eisiau ysgol neu beidio.

Gadewch i ni edrych ar ychydig o ffigyrau. Cyn dechrau dyliwn bwysleisio nad ydw i yn defnyddio ffigyrau go iawn yma - does gen i ddim rhai wrth law, a byddai'n amhriodol ymdrin ag ysgolion penodol ar flog sy'n gyhoeddus i bawb.

Cymerer am funud bod ysgol fechan o 23 o blant, a bod y gwariant y pen ar y plant hynny yn £5,200, tra bod gwariant cyfartalog y sir mae'r ysgol ynddi yn £2,700. Ceir gwahaniaeth felly o £2,500 y plentyn rhwng gwariant yr ysgol a'r gwariant cyfartalog. O gyfieithu hyn i wariant tros yr ysgol byddwn yn son am 23 x £2,500 sydd yn £57,500. Felly o gymryd syniad HRF ar ei symlaf, byddai'n rhaid codi cymaint a hynny trwy drethiant lleol ychwanegol yn y gymuned o dan sylw.

Mae'n rhesymol cymryd mai cymuned o tua 400 o bobl fyddai'n cynnal ysgol o'r maint yma. Gallwn gyfieithu hyn i 200 cartref. Felly byddai'n rhaid i'r 200 cartref yna godi £57,500 trwy drethiant lleol ychwanegol. Mae hyn yn swm sylweddol o bres. Byddai'r dreth ychwanegol yn £287.50 y flwyddyn yn ychwanegol i bob cartref yn yr ardal.



Mae hefyd yn rhesymol cymryd y byddai 23 o blant yn dod o tua 15 teulu gwahanol. Byddai tua 200 o deuluoedd yn y pentref. Canran fechan o deuluoedd fyddai efo plentyn yn yr ysgol gynradd. Mae'n ddigon posibl y byddai rhieni a pherthnasau agos y 23 plentyn sydd yn yr ysgol yn ystyried bod talu £300 yn rhesymol am addysg leol i'w plant - ond son am efallai chwarter y tai yn y gymuned ydym ni wedyn. Fyddai'r tri chwarter arall eisiau talu bron i £300 ychwanegol? Efallai, ond fyddwn i ddim yn betio'n rhy drwm ar ganlyniad cadarnhaol refferendwm a dweud y gwir. Byddai modd chwarae o gwmpas efo'r ffigyrau wrth gwrs - disgwyl dim ond hanner y gost ychwanegol i gael ei godi'n lleol ac ati.

Ta waeth am hynny, mi gymerwn am ennyd bod pobl yn pleidleisio'n gadarnhaol mewn refferendwm ac ystyried y goblygiadau.

Yn gyntaf, byddai byw mewn llefydd gwledig yn ddrytach na fyddai byw mewn cymunedau trefol. Mae hyn eisoes yn wir wrth gwrs - mae'r ffaith bod pobl yn gorfod teithio ymhell i ganolfannau cyflogaeth ac at wasanaethau yn golygu bod cost uwch i fyw mewn ardal wledig beth bynnag. Os ydi'r ardal yn un sy'n apelio at bobl 'o'r tu allan' mae'r gost yn uwch eto oherwydd bod tai yn fwy drud nag ydynt mewn canolfannau trefol. Cost uwch byw mewn llefydd gwledig ydi un o'r prif ffactorau pam bod pobl yn symud o gymunedau gwledig i rhai trefol. Byddai trefniant fel hyn yn atgyfnerthu'r broses - y broses yma ydi prif ffynhonnell argyfwng ysgolion bychain yn y lle cyntaf.

Yn ail byddai'n gynsail gwirioneddol beryglys i gefn gwlad. Mae pob gwasanaeth yn ddrytach i'w ddarparu yng nghefn gwlad nag yn unman arall - hel sbwriel, fan llyfrgell, cymorth yn y cartref - pob un dim. Ar hyn o bryd mae'r gost ychwanegol yma'n cael ei rannu rhwng pawb - pobl sy'n byw mewn cymunedau trefol a rhai gwledig fel ei gilydd. Byddai gwneud i gymunedau dalu union gost y gwasanaethau maent yn ei dderbyn unwaith eto'n gwneud ardaloedd gwledig yn anatyniadol i fyw ynddynt a rhai trefol yn fwy atyniadol.

Mae'n eironi am wn i bod pobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig (fel HRF) yn tueddu i fod yn geidwadol, tra bod rhai sy'n byw mewn cymunedau trefol (fel fi) yn tueddu i fod yn llai felly. Byddai gweithredu egwyddorion ceidwadiaeth cyllidol ar sir sydd a chymunedau cymysg (hy rhai trefol a gwledig) fel Gwynedd yn wirioneddol niweidiol i gefn gwlad (ac yn gymharol fanteisiol i gymunedau trefol).

Mae'r syniad yn un diddorol - ond 'dwi'n anghytuno sylfaenol efo fo oherwydd y byddai'n arwain at wneud cefn gwlad yn llai hyfyw o lawer nag yw heddiw.

5 comments:

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n methu dilyn dy resymeg yma Cai. Mae pentrefi cefn gwlad yn colli gwasanaethau trwy ganoli penderfyniadau yng Nghaernarfon ac yr wyt ti yn ceisio dadlau bod hyn yn gwneud y cymunedau yma yn fwy hyfyw nac y buasent pe bai'r gallu datganoledig ganddynt i gadw'r gwasanaethau hynny.

Wrth gwrs pendraw dy ddadl di yw canoli ymhellach. Os ydy o'n annheg i bobl Dolgellau talu gwahanol raddfa o dreth am wasanaethau lleol na phobl Bangor, pa reswm sydd i bobl Ceredigion talu graddfa wahanol i bobl Ynys Môn? Yn wir onid ydy dy ddadl di yn erbyn datganoli i'r cymunedau yn adlewyrchiad o ddadl y sawl sydd yn gwrthwynebu datganoli i Gymru ? Heb ddatganoli i Gaerdydd oni fyddai'r hyn sydd yn cael ei wario ar bethau megis ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn fwy cyfartal?

Anonymous said...

Ella bod yna 'milage' i'r syniad gwreiddiol o godi treth ychwanegol - dim ots gen i dalu mwy i gadw ysgol y pentref yma.
Ond, cyn i mi dderbyn y bil hoffwn dynnu'r canlynol o dreth y cyngor:
Cost llyfrgell
Glanhau lonydd
Clirio gwteri
Tarmacio palmentydd
Parciau chwarae
Golau stryd
Plismona
Orielau
Sinemau
Grantiau busnes
Warden parcio
Warden baw ci
Warden sbwriel
Warden Cwn a phob warden arall
Toiledau cyhoeddus
Costau teithio i ganolfan hamdden, canolfan ailgylchu a phost.
a chanran mawr o arian gwasanaethau cymdeithasol.

Dwi'n meddwl y byddai hynna'n weddol deg!

Drwy ychwanegu'r byrdwn uchod i drethdalwyr y trefi yn lle sybsideiddio addysg y pentrefi a vice versa.
Beryg iawn y byddai pawb yn ol i ble mae nhw nawr beth bynnag!

menaiblog said...
This comment has been removed by the author.
menaiblog said...

HRF - Na, na - ti'n mynd ymhell y tu hwnt i fy nadl yma.

Son ydw i am drefniant oddi mewn i siroedd. Ar lefel sirol mae ysgolion (a llawer o wasanaethau eraill) yn cael eu cyllido. Dydi'r lefel Gymru gyfan (na Phrydain gyfan) ddim yn berthnasol ar gyfer y ddadl arbennig yma.

Fedran ni ddim cymryd arnom bod ysgolion yn cael eu cyllido yn uniongyrchol o Gaerdydd heb agor pob math o broblemau eraill.

menaiblog said...

Anhysbys - Mi ddyweda i wrthot ti be.

Mi gytuna i efo pob dim ond y warden parcio. Mi geith rheiny free transfer i gefn gwlad.

O ddifri mae gen ti bwynt dwi'n cytuno efo fo i raddau helaeth (er bod ambell i fanylyn yn dy restr yn ddiffygiol).

Mae'n deg i dalu mwy y pen am addysg yn Aberdaron nag ym Maesincla os ydym yn edrych ar wariant yn ei gyfanrwydd.