Sunday, August 30, 2009

Brogarwch vs Cenedlaetholdeb rhan 3

Y trydydd cyfraniad i'r ddadl oedd un Hogyn o Rachub, neu'r Tatw o Rachub fel mae'n rhaid i ni ddod i'w adnabod bellach.

Dydi ei gyfraniad ddim yn un sy'n ymwneud a'r ddeuoliaeth brogarwch / cenedlaetholdeb fel y cyfryw - ond yn hytrach mae'n ymgais digon treiddgar i ddadelfennu'r feddylfryd genedlaetholgar yng Nghymru. Mae'n rhannu'r feddylfryd honno i bedwar categori - Cenedlaetholdeb Diwylliannol / Traddodiadol, Cenedlaetholdeb Ideolegol, Cenedlaetholdeb Economaidd, Cenedlaetholdeb Dinesig/Sifig.

'Does gen i ddim problem efo'r categoreiddio ynddo'i hun - mae o'n ddigon cywir. Mi fyddwn yn nodi fodd bynnag nad ydi hi'n bosibl gosod unigolion mewn categoriau twt - mae pobl ychydig yn fwy cymhleth na hynny. Mi fyddwn i'n gosod fy hun ym mwy nag un o gategoriau HoR - a 'dwi'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf o genedlaetholwyr yn gallu gosod eu hunain mewn mwy nag un hefyd.

Mae HoR a minnau wedi croesi clefyddau ynglyn a Phlaid Cymru yng Nghaerdydd yn y gorffennol. 'Dwi ddim yn derbyn bod y gwahaniaeth rhwng cenedlaetholwyr yng Ngwynedd er enghraifft a Chaerdydd mor amrwd ag y mae HoR yn awgrymu. Un o Gaerdydd ydi'r Mrs - mi fyddwn i'n ei disgrifio fel mwy o genedlaetholwraig diwylliannol / traddodiadol na fi. Ydi cenedlaetholdeb Owen John Thomas mewn difri yn ofnadwy o wahanol i un HoR?

Wedi dweud hynny mi fyddwn yn derbyn bod yna wahaniaethau - ac mae'n anhepgor bod gwahaniaethau - mae hanes a diwylliant y ddau ranbarth yn dra gwahanol. Yr her ydi sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r hyn sydd gennym yn gyffredin - felly mae symud ymlaen. Fel 'dwi wedi nodi yn y gorffennol, bydd darpariaeth addysg Gymraeg yn cael ei drawsnewid er gwell yn y brifddinas - y cynnydd mwyaf mewn darpariaeth ers blynyddoedd lawer. Mi fydd hyn yn digwydd o dan weinyddiaeth sy'n cynnwys cynghorwyr Plaid Cymru. Ydi o ots os mai McKevoy, Ford, Islam, Singh ydi cyfenwau rhai o'u cynghorwyr, a'u bod wedi dod i mewn i'r Mudiad Cenedlaethol ar hyd llwybr gwahanol iawn i un HoR a finnau.

4 comments:

Simon Brooks said...

Dwi'n meddwl fod dy ddadansoddiad yn anghywir, er yn ddiddorol. Wrth i Gymru ddod yn fwy annibynnol/datganoledig fe ddylid disgwyl mwy o ranbartholdeb oddi mewn i'r genedl - nid llai.

Yr unig ddadl ddilys mewn gwirionedd yn erbyn mudiad y Fro Gymraeg oedd y byddai hynny'n "rhannu'r genedl".

Ond mewn Cymru Rydd, pan fyddom yn genedl ymreolus, ni fydd yn bosib "rhannu'r genedl" am y bydd y genedl eisoes wedi'i hachub.

Gan ein bod yn genedl fwy cenedlaethol heddiw nag erioed o'r blaen (datganoli, PC mewn llywodraeth ayyb) ni ddylid synnu ein bod hefyd yn fwy rhanbarthol.

Mae elfen arall o'r dicotomi yma dwi'n anghytuno a hi, sef y gwahaniad honedig yma mae rhai'n ei weld rhwng cenedlaetholdeb ethnig ("drwg") a chenedlaetholdeb sifig ("da"). Ac awgrymir wedyn fod hyrwyddo'r Gymraeg rywsut yn "ethnig", ond bod peidio a gwneud hynny (gan dderbyn felly y status quo sy'n camwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg yng Nghymru heddiw) yn "sifig".

Y cwbl sydd wrth gefn y lladd yma ar "genedlaetholdeb ethnig", pan y'i defnyddir yng nghyd-destun iaith, yw ymdrech i danseilio mudiad hawliau'r Cymry Cymraeg.

Plaid Gwersyllt said...

Dos I blog Nosemonkey Eutopia am drafodaeth debyg ond yn fwy o gymharu Prydeindod a dinasyddiath Ewropeiadd

Cai Larsen said...

Gwersyllt - mi gaf i olwg ar Nosemonkey Utopia maes o law.

Simon - 'dwi ddim yn derbyn ei bod yn rhesymol disgwyl chwalu gwleidyddol oddi mewn i genedl fel mae'n symud tuag at ymreolaeth. Patrwm mwy cyffredin ydi bod undeb gwleidyddol rhwng elfennau cenedlaetholgar cyn ymreolaeth a bod elfen o chwalu wedyn - ond anaml y bydd y chwalu hwnnw yn digwydd ar seiliau rhanbarthol - chwalu ar hyd llinellau ideolegol a geir.

Mae rhanbarthiaeth gwleidyddol yn llesteirio ar dwf cenedlaetholdeb. Mae gennym ni ddwy blaid ranbarthol yng Nghymru, y naill yn y Gogledd Orllewin a'r llall yn y De Ddwyrain. Mae'r ddwy blaid yn denu amrediad eang o bobl. Er enghraifft sylfaenydd y People's Voice oedd Peter Law - dyn oedd yn gefnogol i'r Gymraeg (yn nhermau Gwent o leiaf). Ond mae hefyd yn atyniadol i wrth Gymreigwyr rhonc fel Paul Starling.

Yn yr un modd mae Llais Gwynedd yn apelio at rhai cenedlaetholwyr o argyhoeddiad - ond mae yna rai o'r bobl mwyaf gwrth Gymreig y sir yn gallu ei chefnogi hefyd.

Y rheswm am hyn ydi bod y mudiadau rhanbarthol Cymreig yn ddi ideoleg - ag eithrio'r gred bod eu darn bach nhw o'r wlad yn cael cam.

Yng nghyd destun ideoleg neilltuol Gymreig, byddai datblygu ideoleg genedlaetholgar neu wrth genedlaetholgar yn arwain at golli cydadran o'u cefnogaeth, felly fedra nhw ddim datblygu un. Felly mae nhw'n udo am dragywyddoldeb mewn limbo ideolegol sterilaidd.

'Dwi ddim yn siwr lle 'dwi'n rhoi'r argraff bod cenedlaetholdeb 'ethnig' yn ddrwg tra bod un sifig yn dda. A dweud y gwir 'dwi ddim yn meddwl bod defnyddio'r term ethnig yn arbennig o ddefnyddiol yma - 'dydi'r cysylltiad rhwng yr iaith Gymraeg ag ethnigrwydd arbennig oddi mewn i Gymru ddim yn ddigon agos. Mae dy gyfenw di a fy un i yn awgrymu nad ar dir Cymru mae ein cefndiroedd ethnig ni.

Os mai son wyt ti am genedlaetholdeb sy'n ymwneud yn benodol a hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant mi fyddwn yn nodi hyn. Mae'n bosibl cynnal cenedlaetholdeb felly lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad y Gymraeg fel mamiaith - sy'n golygu Gwynedd yn unig yn yr oes sydd ohoni.

Os wyt ti eisiau adeiladu ar hynny a gwella statws y Gymaeg tros Gymru, mae'n rhaid i ti weithio gydag elfennau cenedlaetholgar eraill ('meddalach' os y mynni) a gweithio oddi mewn i fframwaith ideolegol cyfansawdd.

Mae hyn yn arwain at elfen o gyfaddawd wrth gwrs - ond mae hefyd yn creu cyfleon i wneud gwahaniaeth go iawn - fel yng Nghaerdydd yn ddiweddar - a fel sydd wedi digwydd yn y Cynulliad.

Y dewis arall ydi bod yn 'gywir', ond bod dragwyddol ar ymylon gwleidyddiaeth yn y rhan fwyaf o Gymru, heb fod a fawr o allu i ddylanwadu ar gws pethau.

Hogyn o Rachub said...

I fod yn deg 'doedd y blogiad a wnes i ddim yn rhan o'r ddadl brogarwch v cenedlaetholdeb ond rhywbeth ar wahân, a dwi'n derbyn rhai o dy bwyntiau. O ran PC Caerdydd fydd rhaid i ni gytuno i anghytuno mae arna' i ofn!