Wednesday, May 20, 2009

Lib Dem Watch - rhan 1

Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol mai'r Lib Dems ydi'r blaid futraf yn y DU, ac mai'r prif reswm am hyn ydi'r gwacter ideolegol sy'n ei nodweddu. Mae pleidiau di ideoleg yn cael eu gorfodi i wleidydda mewn ffordd fudur ac anonest ac i ganolbwyntio ar fanion oherwydd nad oes ganddynt unrhyw beth arall i'w gynnig i'r ddadl wleidyddol. 'Dydi'r Lib Dems eu hunain ddim yn derbyn hyn wrth gwrs - fel y gellir gweld o edrych ar sylwadau Peter Black yma.

Gan bod nifer o etholiadau ar y ffordd (wel dwy beth bynnag) 'dwi'n bwriadu postio ambell i gyfraniad yn edrych ar eu dull gwleidydda. Dyma ddechrau efo pamffled sydd ag enw rhywun o'r enw Alan Butt Philip ar ei ben. Mae'n debyg mai fo ydi eu prif ymgeisydd yn etholiad Ewrop ar Fehefin 4.

Dyma sydd gan Alan i'w ddweud am y Toriaid:

Britain needs to work with other countries to get us out of recession.


But the Conservatives & extreme political parties like UKIP & the BNP want Britain to be isolated from Europe.

They consistently oppose working with other countries to create jobs, tackling crime & climate change.

Often the Conservatives only agree with small fringe parties including UKIP & Sinn Fein.

We can't let the Conservatives isolate Britain too.

'Rwan, mae pawb sy'n darllen y blog yma yn rheolaidd yn gwybod nad ydw i'n or hoff o'r Blaid Geidwadol - ond fyddwn i ddim yn breuddwydio ceisio eu pardduo efo nonsens fel hyn.

Bwriad y sylwadau ydi gwneud i'r Toriaid edrych yn eithafol trwy eu henwi yn yr un frawddeg a phleidiau sydd yng ngolwg llawer yn eithafol. Mae polisi'r Toriaid ar Ewrop yn gwahanol i un UKIP a'r BNP. Diweddu aelodaeth Prydain o'r sefydliad ydi eu polisi nhw. Gwrthwynebu'r intigreiddio pellach fyddai'n deillio o weithredu Cytundeb Lisbon mae'r Toriaid.

Yn rhyfedd iawn mae agwedd Sinn Fein at Lisbon yn y ffordd mae'n effeithio ar Iwerddon yn debyg iawn i un y Toriaid parthed Prydain. Dyna'r unig fater o unrhyw bwys mae'r Toriaid a Sinn Fein yn cytuno ynglyn a nhw. Ym mhob ffordd arall mae'r ddwy blaid cyn belled ag y gallant fod oddi wrth ei gilydd.

Yn wir, yn y gorffennol mae gweinidogion Toriaidd wedi awdurdodi llofruddio gwleidyddion Sinn Fein, ac mae arweinwyr presenol Sinn Fein, pan oeddynt yn cyflawni rol arall, wedi awdurdodi llofruddio gwleidyddion Toriaidd.

Ond dydi hynny fotwm o ots wrth gwrs - y peth pwysig i'r Lib Dems ydi gallu stwffio enw'r ddwy blaid i'r un brawddeg mewn ymdrech i bardduo gwrthwynebwyr gwleidyddol - guilt by association, even where there's no association.

5 comments:

EUCLID said...

Da iawn Blogmenai. Mae dy resymeg yn well na dy rifyddeg.

A wnei di ddadansoddi pamffledi'r lleill yn yr un modd. Ces i un heddiw o'r Blaid Lafur gyda llun Rhodri, anniben yr olwg (eto),yn yfed paned o de yn 'i ardd. Roedd y sylwadau am y pleidiau eraill yn blentynaidd a'r sylwadau am y Blaid Lafur yn amherthnasol i etholiadau Ewrop. Mae rhywbeth fel hyn yn dychryn - er mor bwerus yw'r Blaid Lafur yng Nghymru mae'n amlwg nad oes ganddynt ddim i'w ddweud sy'n adeiladol ac yn berthnasol i'n sefyllfa ni yng Ngymru. Cwymp y cedyrn.

Anonymous said...

Erthygl ddiddorol gyda sylwadau craff am y Lib Dems fan hyn. Enghraiff arall o wacter gwleidyddol sy'n galw am yr hen slogans arferol "Dim ond y Lib Dems all guro (Llafur/Ceidwadwyr/Plaid Cymru dileu fel bo'n briodol) yma! Mae'n rhaid iddynt sylweddoli bod hi'n hawdd lladd ar y gwrthbleidiau, peth arall yw darparu arweinyddiaeth wleidyddol effeithiol e.e. Cyngor Caerdydd!

Cai Larsen said...

Mi wna i ddadansoddi pamffledi'r lleill os oes rhywbeth diddorol ynddynt.

'Dwi'n derbyn bod Llafur yn medru bod yn fudur - yn arbennig felly yng Nghymru - cofier y Welsh Mirror, Natwatch, Aneurin Glyndwr ac ati. Adlewyrchiad o wacter Llafur Newydd ydi hynny wrth gwrs.

Gyda llaw - beth sydd o'i le ar fy rhifyddeg? - roeddwn o dan yr aragraff ei fod yn o lew ar y gwaethaf.

EUCLID said...

Beth sydd o'i le ar fy rhifyddeg?

Wele dy sylw ar flog Vaughan Roderick Lessons History.

Cai Larsen said...

Arglwydd mawr - 'dwi ddim hyd yn oed yn cofio'r post, heb son am fy nghyfraniad.