Tuesday, May 05, 2009
Mytholeg y Dde Eingl Americanaidd
Gadawodd un o'n cyfeillion Ceidwadol (mae'n debyg gen i) y neges ganlynol mewn ymateb i fy nghyfraniad ar y Farwnes Thatcher. Mae'r cyfraniad yn un diddorol, a 'dwi yn ei ddyfynu'n llawn:
wrth gwrs, petai chwith basiffistaidd Plaid Cymru wedi cael eu ffordd yna fase Prydain wedi gadael i'r Falkland Islands gael eu gorsgyn gan Galtieri - ffasgwyr Yr Ariannin!
Tra roedd cenedlaetholwyr asgell chwith y Blaid yn son am yr angen i siarad a chymodi, fyddai Galtieri wedi tynhau eu rym ar yr ynysoedd. Thatcher ddaeth a democratiaeth i'r Ariannin gan guro Galtieri a'i ffasgwyr.
Thatche a Reagan wnaeth yn fwy na neb (ag eithro'r Pab 'adweithiol' a Solidarnosc) i ddymchwel yr Undeb Sofietaidd gan ddod a democratiaeth i Ddwyrain Ewrop a rhyddid i wledydd Bychain fel Latvia ac Estonia. Tra fod chwith Plaid Cymru'n mawrygu gwastraff amser hunangyfiawn 'Merched Greenham' a chredu fod cynnal gwylnos dros heddwch, wnawn nhw fyth cyfaddef i'w hunain mai Reagan benstiff a Thatcher egwyddorol a orfododd yr USSR i'r bwrdd trafod oherwydd na allen nhw fforddio curo NATO mewn ras arfau.
Felly, mae dwy ochr i'r geniog.
Byddai ychydig o wyleidd-dra gan y Chwith genedlaetholaidd wrth gofio da a drwg Thatcher yn gwneud lot i'w hygrededd.
Cenedlaetholwr a Phleidiwr
Mae'n ddiddorol i'r graddau ei fod yn cwyno am elfennau afresymegol o fytholeg gwleidyddol cenedlaetholdeb Cymreig trwy ddiffinio'r fytholeg honno yn nhermau mytholeg y Dde Eingl Americanaidd.
Mae'r thesis bod Reagan a Thatcher (gyda ychydig o help gan y Pab a Solidarnos' wedi 'curo'r' Undeb Sofietaidd yn un cyffredin - ond hefyd mae'n boenus o ddi niwed.
Efallai bod a wnelo Reagan a Thatcher ag union amseriad cwymp y bloc Sofietaidd, ond yr hyn oedd yn gyfrifol am y cwymp oedd methiant y model economaidd oedd yn cael ei arfer yn y gwledydd hynny. Siawns y byddai'r sawl sy'n arddel economeg y farchnad rydd yn fwy na neb yn gweld hynny'n well na neb.
Roedd John Paul yn erbyn yr Undeb Sofietaidd, ond 'dydi hi ddim yn briodol i hawlio bod yr Eglwys Babyddol o blaid diwylliant marwolaeth y Dde Eingl Americanaidd. Mae beirniadaeth yr Eglwys o'r diwylliant hwnnw yn bwerys - llawer mwy felly na beirniadaeth y traddodiad gwleidyddol sydd wedi ei wreiddio mewn anghydffurfiaeth Gymreig ar sawl ystyr. Ond, wedi dweud hynny, mae agwedd yr Eglwys Babyddol gyfoes, ac un y 'Chwith Cymreig', ol grefyddol at drais gwladwriaethau yn ddigon tebyg i'w gilydd.
Fyddai Galtieri ddim wedi goroesi fwy nag unrhyw un arall o lywodraethau milwrol, adain Dde (ond nid Ffasgaidd wrth gwrs) De America. Roedd hanes yn prysur redeg o'u blaenau hyd yn oed bryd hynny. 'Roedd safbwynt yr Eglwys Babyddol yn ddigon tebyg i un anghydffurfwyr Cymreig yn y mater hwn unwaith eto.
Lle y gallwn gytuno gyda'n cyfranwr Toriaidd ydi bod elfennau o'r wleidyddiaeth mae o'n ei diffinio fel gwleidyddiaeth y 'Chwith Cymreig' (nid dyma'r term y byddwn i yn ei ddefnyddio) yn afresymegol ar adegau - ond mae'r un peth yn wir am pob traddodiad gwleidyddol - neb yn fwy felly na'r Dde Eingl Americanaidd.
Mae symleiddio a chreu mytholeg yn un o nodweddion creu ideoleg gwleidyddol. Mae mytholeg y tu ol i pob ideoleg gwleidyddol - a 'does dim lle i'r cymhlethdodau a greir gan flerwch a chymhlethdod hanes go iawn mewn ideoleg na myth. Peth felly ydi gwleidyddiaeth mae gen i ofn.
Testun i flog arall ychydi hirach yn y dyfodol agos efallai.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
2 comments:
Bydda ddyn yn gallu gwerthfawrogi Mrs T mwy os oedd hi'n gyson yn ei hagwedd. Pa werth clodfori dymchwel ffasgiaeth Galtieri gan un a chroesawodd Pinochet i de a'i alw yn gyfaill mynwesol?
Hwyrach bod y fonesig yn iawn wrth amddiffyn hawliau ymerodraethol Prydain dros ynysoedd de'r Iwerydd yn wyneb ymosodiad gan nytar asgell dde eithafol oedd am ymosod ar diriogaeth Ei Mawrhydi er mwyn ceisio poblogrwydd gwleidyddol.
Ond eto mae'r diffyg cysondeb yn codi.
Mae'n debyg bod Magi wedi rhegi'r Frenhines ac wedi ei bygwth i gymerid pwyll, ar ôl dderbyn cwyn gan y Frenhines bod nytar asgell dde eithafol arall wedi ymosod ar ran o'i thiriogaeth - sef Ragan yn ymosod ynysoedd Granada!
Nid ydwyf yn gefnogol o agwedd pasiffistaidd Plaid Cymru pob tro, ond rhaid clodfori'r Blaid am ei gysondeb dros y degawdau. Agwedd sydd yn gwrthgyferbynnu ag agwedd y pleidiau eraill sydd yn pigo rhyfel, nid er lles y genedl, nid ar sail iawn, ond ar sail mantais bleidiol dybiedig!
Ond beth mae'r Gogledd yn ei feddwl?
Post a Comment