Friday, May 22, 2009
Morrisons y Mrs a charchar Caernarfon
Mae gan y Mrs acw berthynas ryfedd efo Morrisons. Mae'n debyg gen i mai hi ydi prif gwsmer Morrisons Caernarfon, mae'n ymweld a'r lle rhyw ben pob dydd. Y rheswm am hyn ydi am ein bod yn byw gyferbyn a'r lle ac mae'n ei drin fel rhyw fath o siop gornel. Does ganddi ddim mynediad i gar yn ystod y dydd, felly croesi'r ffordd gyda bag llaw ydi'r peth hawsaf.
Fodd bynnag mae'r lle yn dan ar ei chroen, a'r prif reswm am hynny ydi Seisnigrwydd y lle. Un o Gaerdydd ydi Lynne, a 'doedd ganddi ddim llawer o Gymraeg nes iddi ddysgu pan oedd yn ei harddegau hwyr, ac mae arddeliad y sawl a gafodd droedigaeth yn aml yn fwy tanbaid nag un neb arall. Gan ei bod yn mynychu'r lle mor aml mae'n 'nabod pawb sy'n gweithio ar y tils, ac mae'n gwybod pa iaith maent yn ei siarad. Dyma sampl am ychydig ddyddiau diweddar o iaith y sawl oedd yn gweithio ar y tils (Saesneg yn gyntaf - Cymraeg yn ail):
2 0
7 2
7 1
6 2
8 2
'Dydi hyn ddim yn anarferol - tebyg ydi'r gymysgedd pob dydd, pob wythnos.
Mae'r ffigyrau hyn yn debyg i'r hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl petai'r siop yn cyflogi pobl o Gymru ben baladr - ond dydi hi ddim - cyflogi pobl o gylch Caernarfon mae hi. 'Does yna ddim un stryd yng Nghaernarfon gyda llai na 50% yn siarad Cymraeg, ychydig iawn sydd yna gyda llai na 70% yn siarad yr iaith honno, ac mae efallai hanner strydoedd y stadau dosbarth gweithiol mawr - y llefydd y byddai dyn yn disgwyl fyddai'n cyflenwi gweithwyr til Morrisons - efo mwy na 90% yn siarad Cymraeg. 'Dydi proffeil ieithyddol y pentrefi sy'n amgylchu'r dref ddim yn gwahanol iawn i hyn (ag eithrio'r Felinheli, sydd mymryn yn llai Cymreig).
'Rwan, ar yr olwg gyntaf mae'r gwahaniaeth rhwng y ganran o'r sawl a gyflogir gan Morrisons sy'n siarad Cymraeg a'r hyn y gellid ei ddisgwyl yn syfrdanol, ac yn awgrymu bod rhagfarn gwrth Gymreig wedi ei wreiddio'n dwfn ym mhrosesau cyflogi'r arch farchnad. Mae'r ffaith bod canran uchel o'r bobl sy'n gwneud yr un gwaith yn Tesco (sydd wedi ei leoli ar yr ochr arall i'r dref) yn cadarnhau'r argraff yma. Mae'r rhan fwyaf o'u staff nhw yn siarad Cymraeg.
Mae yna ychydig mwy i'r stori wrth gwrs. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau preifat yng Nghaernarfon yn cyflogi rhywfaint mwy o bobl ddi Gymraeg nag y byddai rheolau tebygolrwydd syml yn eu hawgrymu. Mae yna reswm da am hyn. Oherwydd nad yw'n hawdd cael unrhyw swydd yn yr ardal yn y sector gyhoeddus heb fod a gwybodaeth o'r Gymraeg, ychydig iawn o'r di Gymraeg sy'n cael eu cyflogi yn y sector honno. O ganlyniad mae'r pwll o bobl sy'n chwilio am waith yn y sector breifat yn gwahanol o ran proffeil ieithyddol i un yr ardal yn ei chyfanrwydd.
Serch hynny mae llwyddo i gyflogi 75% o bobl di Gymraeg mewn ardal lle mae efallai 85% yn siarad y Gymraeg yn gryn gamp. Mae'n amlwg bod rhesymau eraill ar waith.
'Dwi'n siwr bod yna amrediad o resymau am y sefyllfa, rhai'n gymhleth, rhai'n syml - ond mae'r rheswm canolog yn sobor o syml. Mae rheolwyr adnoddau dynol (fel mae swyddogion personel yn cael eu galw y dyddiau hyn) mewn sefydliadau mawr bron yn ddi eithriad yn Saeson dosbarth canol. Pan maent yn cyfweld hogan o Gefn Hendre neu 'Sgubor Goch maent yn debygol o gael trafferth hyd yn oed deall y fersiwn o'r Saesneg a siaredir ganddi. Er bod pobl y dref yn siarad Saesneg yn rhwydd (roedd Gaernarfon yn ddwyieithog ymhell, bell cyn i'r rhan fwyaf o bobl cefn gwlad ddysgu Cymraeg) mae'r dafodiaeth yn y ddwy iaith yn cael ei siarad yn gyflym iawn ac mae dylanwad y Gymraeg yn drwm iawn ar y Saesneg (a'r Saesneg ar y Gymraeg o ran hynny). O ganlyniad mae mewnfudwraig o Cheshire yn swnio fel petai ganddi sgiliau cyfathrebu llawer gwell na'r hogan o Lon Arfon i'r sawl sy'n penderfynu pwy sy'n cael y swydd. Y gwrthwyneb sy'n wir o safbwynt mwyafrif cwsmeriaid y siop wrth gwrs.
Daw hyn a ni at Tesco. Yn ddi amau mae eu rheolwr adnoddau dynol nhw yn ddi Gymraeg, ond mae'r rhan fwyaf o'r staff yn Gymry. Pam?
Ychydig flynyddoedd yn ol roeddwn yn chwarae sboncen yn rheolaidd yn erbyn y dyn oedd yn rheoli Tesco Caernarfon bryd hynny - Sais rhonc. Mi soniodd un diwrnod mor falch oedd ei fod wedi llwyddo sicrhau bod yr holl weithwyr til ag eithrio un yn siarad Cymraeg. Roeddwn wedi fy synnu gan y sylw a dywedais wrtho nad oeddwn yn ymwybodol fod y Gymraeg yn bwysig iddo. Ei ateb oedd - It isn't important to me, I couldn't care less - but I reckon that the customers wants to speak Welsh as they check out - & it's my job to give them what they want.
Dyma ydi cryfder mawr Tesco wrth gwrs - eu bod yn gallu meithrin diwylliant o ymateb yn hyblyg i anghenion a delfrydau eu cwsmeriaid. Dyma'r rheswm creiddiol pam bod y cwmni yn un mor rhyfeddol o lwyddiannus. Mae'n debyg bod strwythurau cyflogi Tesco a Morrisons yn debyg - ond bod diwylliant rheolaethol Tesco yn gallu cywiro gwall sy'n amlwg o safbwynt masnachol tra nad yw Morrisons yn llwyddo i wneud hynny.
Daw hyn a ni yn ei dro at y carchar arfaethiedig. 'Dwi'n hollol argyhoeddiedig y gallai'r carchar fod yn gydadran allweddol i economi llwyddiannus yn y Gogledd Orllewin - ond bydd yn gyflogwr mawr - ac mae'n bwysig o safbwynt y Gymraeg yn ei phrif gadarnle nad ydi'n gyflogwr tebyg i Morrisons o safbwynt ieithyddol. Fydd yna ddim diwylliant Tescoaidd o ymateb i negeseuon y farchnad - dydi barn y cwsmer ddim ymysg prif flaenoriaethau clinc. Felly mae'n bwysig bod strwythurau cyflogaeth mewn lle sy'n sicrhau bod y gweithly yn adlewyrchu natur ieithyddol yr ardal. 'Dydw i ddim yn siwr bod hynny wedi digwydd yn y datblygiad cyfreithiol arall newydd yng Nghaernarfon - yr adeiladau Llys y Goron newydd ar hen safle Ysgol Segontium. Mae'n hanfodol bod strwythur cyflogaeth yn cael ei ystyried yn fanwl cyn, yn ystod ac wedi'r broses ymgynghori.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
2 comments:
Byddai mwy o sai i'r blog hwn, pe byddai ymchwil wedi ei wneud i broffil y rhai sy'n ymgeisio am swyddi yn y llefydd a enwir, yn hytrach na dyfalu a doethinebu di-dystiolaeth.
Diddorol hefyd mai 'hogan' yw'r cymeriad dychmygol sy'n cael ei chyfweld am swydd ar y tils. Lle i genod yn unig (a'r "Mrs" yn eu plith, wrth gwrs) yw archfarchnadoedd. Diawcs, dwi'n filch nad ydw i'n byw ym myd Mr Menai!
Post a Comment