Sunday, May 24, 2009

Ydi hi'n bosibl dibynnu ar y polau Ewropeaidd

Yn ol y Guardian ddoe maent wedi comisiynu pol piniwn gan ICM ar gyfer etholiadau Ewrop. Dyma'r canlyniadau:



Ar yr olwg gyntaf byddai'r rhain yn ganlyniadau gwael iawn i'r ddwy brif blaid. Ond 'dydyn nhw ddim - mae etholiadau Ewrop yn bethau tra gwahanol i rai San Steffan. Dyma oedd canlyniadau etholiadau Ewrop 2005:

Toriaid 27%
Llafur 23%
Lib Dems 15%
UKIP 16%
Gwyrddion 6%
SNP/PC 2%
BNP 5%
Eraill 5%.

Felly os ydi pol y Guardian yn gywir bydd y pleidiau mawr Prydeinig yn cryfhau a bydd pleidlais y pleidiau llai yn syrthio'n sylweddol, a bydd y BNP yn cael eu chwalu. Bydd Llafur yn gwneud yn well nag y gwnaethant gwta flwyddyn cyn eu buddugoliaeth gyfforddus yn etholiadau San Steffan yn 2005.

Mi fedra i gredu'r ffigyrau am y Blaid Werdd, SNP / Plaid Cymru a'r Toriaid i raddau. Mae'r gweddill yn nonsens llwyr. Bydd Llafur yn polio ymhell o dan 20% - efallai y byddant cyn ised a 15%. Bydd y Toriad rhwng 25% a 30% a bydd y ddwy blaid adain dde rhyngddynt yn cael pleidlais uwch nag un y Toriaid. Bydd UKIP yn dal eu tir neu'n cynyddu eu pleidlais,a bydd y pleidlais y BNP rhwng 7% a 10%. Byddant yn ennill nifer o seddi.

1 comment:

Anonymous said...

Mae'n anodd iawn credu y bydd pleidlais Llafur yn uwch na 2005 fel mae pol piniwn y Guardian yn awgrymu. Mae'r sefyllfa wleidyddol wedi gwaethygu'n arw i'r Sosialwyr er 2005 ac yn hyn o beth fe fydd yn ddiddorol gweld a ydy'r Blaid Geidwadol neu'r pleidiau llai yn elwa o hyn.