Saturday, May 30, 2009

Etholiadau Ewrop

'Dwi wedi bod yn ddigon ffol i geisio darogan etholiadau Ewrop yn gynnar - ac wedi gwneud hynny cyn i'r llanast treuliau gymryd yr agenda trosodd. Gellir gweld fy ymdrechion yma, yma ac yma. Bydd rhaid i mi geisio rhoi trefn ar bethau unwaith eto mae'n debyg.

Mi ddechreuais o'r blaen gyda'r Iwerddon. 'Dydi'r busnes treuliau heb effeithio ar y Weriniaeth wrth gwrs - a 'dydi pobl ddim yn poeni llawer am bethau felly yn y Gogledd. Fel hyn roeddwn yn gweld pethau ar y pryd:

FF - 2 (4 ar hyn o bryd)
FG - 4 (5)
Llafur - 2 (1)
SF - 2 (2)
DUP - 1 (1)
UUP - 1 (1)
Annibynnol - 2 (2)
Libertas - 1 (0)

'Dwi heb ewid fy meddwl rhyw lawer. 'Dwi'n meddwl bellach mai FF fydd yn cael y trydydd sedd yn North West ac nid Libertas. 'Dwi'n dal i feddwl y bydd Mary Lou McDonald yn cyflawni rhywbeth sy'n ymylu at fod yn wyrth gwleidyddol ac yn amddifadu FF o sedd yn Nulyn. 'Dwi hefyd yn eithaf siwr bellach mai SF fydd ar ben y pol yn y Gogledd ac na fydd yr SDLP yn ennill y drydydd sedd. Mae posibilrwydd mai'r ethafol TUV fydd yn mynd a hi (maent yn cynnal ymgyrch dda) - ond 'dwi'n aros efo'r UUP ar hyn o bryd. Felly 'dwi'n ei gweld hi fel hyn:

FF - 3 (4 ar hyn o bryd)
FG - 4 (5)
Llafur - 2 (1)
SF - 2 (2)
DUP - 1 (1)
UUP - 1 (1)
Annibynnol - 2 (2)

Mae pob dim wedi newid yn Lloegr fodd bynnag. Fel hyn yr oeddwn yn gweld pethau ar y cychwyn:

Toriaid - 24
Llafur - 10
UKIP - 7
Lib Dems - 12
BNP - 3
Y Blaid Werdd - 3

Tros yr wythnosau diwethaf mae UKIP wedi cryfhau eu sefyllfa, mae'r Toriaid yn wanach, ac mae Llafur mewn trwbl gwirioneddol. Dydi'r polau ddim yn awgrymu y bydd y BNP yn ennill seddau - ond fel 'dwi wedi egluro eisoes, dydw i ddim yn eu credu nhw. Felly fel hyn 'dwi'n gweld pethau 'rwan.

Toriaid - 20
Llafur - 9
UKIP - 12
Lib Dems - 11
BNP - 3
Y Blaid Werdd - 4

'Dydi Llafur ddim yn cwympo llawer oherwydd fy mod wedi eu gosod yn agos at 1 sedd y rhanbarth eisoes - mae'n anodd cael llai na hynny - hyd yn oed os ydi'r bleidlais yn syrthio'n sylweddol.

Yn yr Alban 'roeddwn yn ei gweld hi fel hyn o'r blaen:

SNP 2 (2 o'r blaen)
Llafur 1 (2 o'r blaen)
Toriaid 2 (2 o'r blaen)
Lib Dems 1 (1 o'r blaen)

'Dwi'n meddwl y bydd y ffradach wedi niweidio'r Toriaid ac mai fel hyn y bydd pethau bellach:

SNP 3
Llafur 1
Toriaid 1
Lib Dems 1

Wnes i ddim darogan canlyniad Cymru ond mae yna ddau flogiwr sydd wedi - HRF a Hogyn o Rachub.

Barn HRF ydi y bydd UKIP yn ennill sedd:

PC 1
Llafur 1
Toriaid 1
UKIP 1

Mae HoR yn awgrymu y gallai Plaid Cymru gipio dwy - er ei fod yn cyfaddef ei bod yn anodd iawn darogan y tro hwn.

Mae rhesymu'r ddau flogiwr yn ddigon cadarn chware teg. Da iawn bois.

Mae'n debyg bod rhaid i mi geisio rhoi tro arni.

Y canrannau o'r blaen oedd:

Llafur 32.5%
Toriaid 19.4%
Plaid Cymru 17.4%
UKIP 10.5%
Lib Dems 10.5%

O dan y system a ddefnyddir yn etholiadau Ewrop, i un blaid gael dwy sedd mae'n rhaid iddi ennill ddwywaith pleidlais y bedwaredd blaid. 'Dwi'n rhagweld y bydd canran Llafur yn syrthio mwy na 10% yng Nghymru. Efallai fy mod yn anghywir - 'dydi'r polau ddim yn darogan bod y gwymp am fod cymaint a hynny - ond 'dwi'n credu y bydd y gwymp yng Nghymru'n fwy na'r un Brydeinig.

'Dwi ddim yn gweld cynydd sylweddol ym mhleidlais UKIP - roedd yr etholiad diwethaf yn dda iddynt. Efallai y byddant ar tua 12%. Bydd y Lib Dems yn aros lle y maent. 'Dwi'n gweld y rhan fwyaf o'r 10% + y bydd Llafur yn ei golli yn hollti rhwng Plaid Cymru a'r Toriaid - ond bydd y rhan fwyaf ohono'n mynd i'r Blaid. Mae dau prif reswm am hyn - yn gyntaf mae'r Toriaid wedi eu niweidio gan yr helynt treuliau tra bod y Blaid yn eithaf clir o'r holl strach. Yn ail mae'r ffaith bod y Blaid mewn clymblaid efo Llafur yng Nghaerdydd yn i gwneud yn haws i bleidleiswyr Llafur fwrw pleidlais brotest i'r Blaid - dydi'r cam ddim mor fawr na phetai'r bleidlais brotest yn mynd i'r Toriaid neu UKIP.

Mae yna un peth bach arall hefyd. Yn 1999 cafodd y Blaid bron i 30% o'r bleidlais. Byddai dod o fewn 4% i hynny'n deygol o sicrhau'r ail sedd. Felly 'dwi'n ei galw hi yn:

Plaid Cymru 2
Toriaid 1
Llafur 1

'Dwi hefyd yn credu y gallai Llafur ddod yn drydydd.

2 comments:

MH said...

Dwedodd un blog arall yr un un peth am ganlyniadau Cymru a'r Alban bythefnos yn ol, sef Syniadau.

PC i ennill dwy sedd (a'r SNP i ennill tair) yma.

Ond, fel ddwedais i yma, bydd rhaid help cefnogwyr y Blaid Werdd i wneud yn hollol siwr o'r bedwerydd sedd yng Nghymru.

Hogyn o Rachub said...

Mae Vaughan Roderick hefyd yn awgrymu efallai mai Plaid Cymru sydd yn y sefyllfa gryfaf o ran cipio'r ail sedd. Waeth bynnag faint sy'n troi allan i bleidleisio fyddai hwnnw'n ganlyniad anhygoel pa bai'n digwydd.