Reit - mi fydda i’n edrych yn ol unwaith eto cyn dechrau ystyried gwleidyddiaeth mwy cyfredol. Llafur ers 2016 felly.
Y peth gwirioneddol ryfedd efo Llafur - ydi er gwaethaf pawb a phopeth - er gwaethaf yr ymchwydd Corbyn, er gwaethaf buddugoliaeth enfawr y Toriaid yn 2019, er gwaetha’r stormydd gwleidyddol ers trychineb Brexit, ychydig iawn o newid sydd wedi bod yn eu hynt a’u helynt mewn gwirionedd.
Yn 2016 roedd gan y blaid 577 cynghorydd ac roeddan nhw’n rheoli 10 cyngor. Roedd ganddyn nhw 29 Aelod Senedd Cymru wedi eu dychwelyd oddi ar 35% o’r bleidlais a 25 sedd San Steffan wedi eu dychwelyd oddi ar 37% o’r bleidlais.
Erbyn rwan mae ganddyn nhw 526 cynghorydd ac maent yn rheoli 8 cyngor, mae ganddyn nhw 22 sedd yn San Steffan oddi ar 41% o’r bleidlais ac mewn etholiadau Senedd Cymru mae nhw ar 30 sedd oddi ar 36.2% o’r bleidlais.
Yr unig wahaniaeth arwyddocaol mewn gwirionedd ydi’r golled net o dair sedd San Steffan yn ystod y cyfnod - a newidiadau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy’n bennaf gyfrifol am hynny.
Y cwestiwn diddorol o bosibl ydi beth sy’n debygol o ddigwydd yn y dyfodol agos? Gallwn fod yn sicr y bydd etholiad cyffredinol eleni.
Yn hanesyddol mae Llafur yng Nghymru wedi perfformio’n well na’r Blaid Lafur Brydeinig. Ers dechrau’r ganrif mae perfformiad y blaid yng Nghymru wedi bod yn well na’r blaid Brydeinig o rhwng 6.5% a 8.9% ym mhob etholiad.
Petai hyn yn cael ei wireddu eleni gallai Llafur ddisgwyl etholiad da iawn - gan ad-ennill y Gogledd Ddwyrain a phob etholaeth Doriaidd yn y De. Serch hynny mae ychydig o dystiolaeth polio bod y bwlch arferol am fod yn llai y tro hwn.
Ar un olwg fyddai hynny ddim yn syndod - mae’r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn gwneud pethau sydd yn dra amhoblogaidd ar hyn o bryd.
Ond ‘dydi poblogrwydd neu amhoblogrwydd y llywodraeth yng Nghaerdydd erioed wedi cael fawr o effaith ar ganlyniadau etholiadau cyffredinol yn y gorffennol. Bydd yn ddiddorol gweld os fydd y patrwm yn wahanol y tro hwn.
No comments:
Post a Comment