Sunday, February 18, 2024

Diflaniad Rhyfedd y Traddodiad Annibynnol yn y Gymru Gymraeg

 Mae’r bythefnos ddiwethaf wedi bod yn gyfnod da i Blaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ac yn gyfnod sâl i’r brif wrthblaid - y Grwp Annibynnol.  

Cipiodd Sian Williams sedd Cricieth oddi wrth yr Annibynwyr ar ran Plaid Cymru mewn  is etholiad ar Chwefror 8 gyda gogwydd enfawr, a gadawodd John Pughe, Morfa Tywyn y Grwp Annibynnol ac ymuno a Grwp y Blaid yr wythnos diwethaf.  

Mae arwyddocâd arbennig i’r ddau ddigwyddiad.  Bellach mae mwy na 2/3 o gynghorwyr y sir  yn perthyn i Grwp Plaid Cymru - ‘dwi’n eithaf siŵr mai dyma’r tro cyntaf i’r Blaid gael mwyafrif felly ar gyngor - er iddi ddod yn agos at wneud hynny ym Merthyr yn 70au’r ganrif ddiwethaf.  

Mae goblygiadau ymarferol yn ogystal ag ystadegol i hyn.  Mewn llywodraeth leol mae 66% yn ‘super majority’ - mae’n rhoi’r gallu i addasu cyfansoddiad y Cyngor.   

Bu newid sylweddol yn natur gwleidyddiaeth leol yng Ngorllewin Cymru ers i’r awdurdodau lleol sy’n bodoli ar hyn o bryd ddod i fodolaeth ym mlwyddyn olaf y ganrif ddiwethaf. 

Yn fras yr hyn sydd wedi ddigwydd ydi bod y map wedi gwyrddio, a gwyrddio’n sylweddol tros y chwarter canrif diwethaf.  Hynny ydi mae Plaid Cymru wedi cryfhau ac mae pawb arall wedi gwanio.

Bellach mae mwy na hanner yn gyfforddus o seddi y bedair sir Orllewinol  - Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin yn nwylo Plaid Cymru.  

Mae 57% o’r seddi yn y siroedd hyn yn nwylo’r Blaid erbyn heddiw, 32% oedd y ganran yn 1999.  Mae canran Llafur o’r seddi wedi syrthio rhyw gymaint tros y cyfnod  (o 18% i 13%) tra bod y ganran o gynghorwyr Annibynnol wedi syrthio’n sylweddol (o 41% i 26%). 

Mae’r Blaid yn rheoli pob un o’r bedair sir heddiw.  Roedd ymhell, bell o wneud hynny mewn tair ohonynt yn 1999.

Dydi’r Toriaid erioed wedi gwneud unrhyw argraff o gwbl mewn unrhyw un o’r bedair sir, na’r Lib Dems yn unman ag eithrio Ceredigion ac i raddau llai - ac am gyfnod byr yn ardal Bangor - Gwynedd.  Mae hefyd werth nodi bod mwyafrifoedd y Blaid mewn llawer o etholiadau diweddar yn enfawr – ac yn uwch o lawer na sydd wedi bod yn gyffredin yn y gorffennol. 

Y ddau newid mawr felly ydi’r ymchwydd sylweddol iawn  yng nghynrychiolaeth y Blaid a’r cwymp arwyddocaol - ond llai - yng nghynrychiolaeth yr Annibynwyr.  

Mae hyn yn arwyddocaol - ac yn arbennig felly ag ystyried nad oes newid arwyddocaol wedi bod yng nghynrychiolaeth y Blaid na’r Annibynwyr tros Gymru gyfan rhwng 1999 a 2022.  

Yn amlwg ‘dydi’r patrwm ddim yn union yr un peth ym mhob un o’r bedair sir.  I ddod yn ol at Gwynedd am funud, tra bod cynrychiolaeth y Blaid wedi cynyddu tros y cyfnod, mae cynrychiolaeth yr Annibynwyr wedi cynyddu hefyd (o 25% i 33% rhwng 1999 a 2022 - a 30% erbyn heddiw).

Methiant i gymryd mantais o ddadfeiliad llwyr Llafur a’r Lib Dems (ac yn hwyrach Llais Gwynedd) sy’n nodweddu perfformiad yr Annibynwyr yng Ngwynedd.

Mae’r patrwm yn y dair sir arall yn eithaf cyson - cynnydd eithaf cyson yng nghynrychiolaeth y Blaid – ac hynny i raddau helaeth ar draul yr Annibynwyr. Mae’r  patrwm yma yn cael ei adlewyrchu mewn wardiau gorllewinol siroedd eraill sy’n ffinio efo’r bedair sirsydd dan sylw. 

Mae’r rhesymau pam bod y newid sylweddol yma wedi digwydd yn eithaf cymhleth, a byddwn yn edrych ar hynny maes o law.  Ond un peth sy’n werth ei nodi efallai ydi nad oes unrhyw le i feddwl y bydd y gogwydd hir dymor yma yn newid yn y dyfodol agos – ac yn arbennig felly os ydi’r Blaid yn gwneud gwell joban o ddod o hyd i ymgeiswyr mewn wardiau gwledig yn y dyfodol.

No comments: