Monday, February 12, 2024

Martin Shipton a’r ‘Bygythiad’ i Ddemocratiaeth Cymreig

 ‘Dwi wedi bod yn poeni braidd am gyfeiriad Nation.Cymru yn ddiweddar - a ‘dydi’r truth niwrotog yma gan Martin Shipton a ymddangosodd ddoe ddim wedi lleddfu llawer ar fy ngofidiau a dweud y gwir.  

 

Mae’r darn - sydd ar sawl golwg yn eithaf unhinged - yn rhoi’r argraff bod democratiaeth Gymreig dan warchae.

 

Mae’r canfyddiad hwnnw yn gwbl anghywir, ac mae Martin Shipton yn euog o gau resymu eithaf dybryd i ddod i’r casgliad y daeth iddo.  Mae’r gau resymu yn cael ei yrru gan dri methiant rhesymu:  

 

1). Gor ddweud - a gor ddweud eithaf dybryd ar hynny.  

2). Gor symleiddio.  

3). Methiant i ystyried cyd destun ehangach yr hyn mae’n gwyno amdano. 

 

Mi wnawn ni ddechrau efo’r sderics am restrau caeedig.   

 

Bydd y nifer o Aelodau Senedd Cymru yn cynyddu o etholiadau 2026 ymlaen a bydd y drefn o ethol aelodau yn newid i ddull cyfrannol sydd a rhestrau caeedig.

 

Y prif beth i’w ddeall am restrau caeedig ydi bod yr etholwr yn pleidleisio i blaid yn hytrach nag unigolyn.  

 

A’r hyn sydd i’w ddeall am ddull cyfrannol o bleidleisio ydi bod perthynas agos rhwng y nifer o bleidleisiau mae plaid yn ei sicrhau a’r nifer o seddi mae’n eu hennill.

 

Mae’r newidiadau hyn am ddod i fodolaeth yn sgil y cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.  Ymddengys bod Martin Shipton wedi ei gythruddo gan y drefn newydd.

 

Cyn cychwyn ar hon efallai y dyliwn nodi dau beth:   

 

1) Mae’r gyfundrefn sydd ohoni i ethol Aelodau Senedd Cymru eisoes yn rhannol gaeedig. Mae 20 o’r 60 aelod wedi eu hethol o restrau caedig.  


2). ‘Dwi ddim yn hoff o restrau caeedig yn bersonol, ac nid dyna ddewis y Blaid chwaith. STV ydi dewis y Blaid - a fy hoff ddull i o ethol cynrychiolwyr etholedig - dull pleidleisio sy’n hynod agored - ond pan mae’n dod i negodi mae yna ddwy ochr a dydi hi ddim yn bosibl i’r ddwy ochr gael pob dim mae nhw ei eisiau.  

 

Pan mae Martin Shipton yn dweud nad oes cyfle mewn system gaeedig i bleidleisio i unigolyn, mae’n  wir - ond ‘dydi hynny ddim yn cyfiawnhau’r nadu  bod y gyfundrefn bleidleisio newydd yn fygythiad i ddemocratiaeth. 

 

Mae cyfundrefn bleidleisio sy’n defnyddio rhestrau caeedig yn gyffredin yn rhyngwladol.  Os ydi fy nghyfri fi yn gywir mae 42 gwlad ar hyd a lled y Byd yn defnyddio systemau cwbl gaedig.  

 

‘Dwi ddim yn meddwl bod neb yn ei lawn bwyll yn awgrymu nad ydi Sbaen, Portiwgal, De Affrica neu Lithuania yn endidau democrataidd oherwydd eu bod yn gwneud defnydd o system bleidleisio gaeedig.  

 

‘Dydi dull pleidleisio caeedig ddim yn berffaith o bell ffordd, mae o’n ddull sub optimal chwedl y Sais - ond mae’n llawer tecach a mwy cyfrannol na’r gyfundrefn ‘cyntaf i’r felin’ sy’n cael ei harfer yn y rhan fwyaf o etholiadau yn y DU - cyfundrefn sy’n rhoi grym llwyr i bleidiau sy’n sicrhau lleiafrif – a weithiau lleiafrif gweddol fach - o bleidleisiau.

 

Cafodd Martin Shipton  hefyd ei hun mewn cryn stad oherwydd i Blaid Cymru sefydlu trefn o ddewis enwebai i fynd i Dy’r Arglwyddi yn ei henw sydd yn blaenori merched tros ddynion.  

 

Rwan mae Martin Shipton yn gywir pan mae’n dweud i Carmen Smith gael yr enwebiad cyntaf, er i Elfyn Llwyd gael mwy o bleidleisiau na hi.  

 

Ond mae yna lawer o agweddau ar y stori nad ydi’r erthygl yn trafferthu mynd i’r afael a nhw - na hyd yn oed gyfeirio atynt.  A ‘dydi’r erthygl ddim yn chwilio am gyd destun chwaith.

 

‘Dydi o ddim yn glir o’r erthygl bod y drefn yn bodoli cyn i’r etholiad gael ei gynnal.  Yr argraff a roir ydi bod yr etholiad yn cyn ddyddio’r system.

 

‘Does  dim sôn yn yr erthygl chwaith bod Carmen bron yn unigryw ymysg yr 800 o Arglwyddi sy’n eistedd yn y Ty oherwydd ei bod wedi gorfod wynebu etholiad  - er mae’n debyg bod yr Esgobion sydd yn eistedd yn y Ty wedi gorfod cael eu hethol yn Esgobion ar rhyw bwynt yn eu gyrfaoedd.

 

Mae’r rhan fwyaf o bobl yno oherwydd pwy ydi eu rhieni, neu oherwydd eu bod wedi rhoi llwyth o bres i bleidiau gwleidyddol, neu eu bod yn ffrindiau i rhyw brif weinidog neu’i gilydd, neu wedi rhoi gwasanaeth di gwestiwn i rhyw blaid neu’i gilydd, neu eu bod gyda statws uchel mewn un enwad crefyddol penodol. 

 

Yn wir mae’n bosibl dadlau mai Ty’r Arglwyddi ydi’r unig ddeddfwrfa yn y Byd lle mae’n bosibl prynu mynediad iddi.  

 

‘Dydi’r erthygl ddim chwaith yn trafferthu tynnu sylw at y ffaith bod trefniadau i sicrhau cydbwysedd o ran rhyw ymgeiswyr yn arfer digon cyffredin - yn arbennig felly gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.  Yn wir mae’n gyffredin i ymgeisyddiaeth ar gyfer etholaeth  benodol fod yn agored i ddynas yn unig - neu yn wir - i ddyn yn unig.  

 

‘Rwan, mae gan Martin Shipton hawl i wrthwynebu trefniadau gan bleidiau i sicrhau bod eu cynrychiolaeth etholedig yn ymdebygu i’r boblogaeth yn gyffredinol.  Ond os mai dyna ei farn, dylai fod yn onest am hynny a gwneud ymdrech i gyfiawnhau’r farn.

 

Neu mae’n bosibl ei fod o blaid yr egwyddor o sicrhau cydbwysedd ymysg ymgeisyddion yn gyffredinol, ond yn erbyn gwneud hynny yng nghyd destun enwebai i Dy’r Arglwyddi.  Mae ganddo hawl i’r farn honno hefyd - ond dylai egluro pam fod Ty’r Arglwyddi yn eithriad.  

 

Yr hyn na ddylai ei wneud ydi gwneud honiadau gwallgof bod trefn i sicrhau cydbwysedd cynrychiolaeth yn ymdebygu i drefniadau gan un benaethiaid tramor fel Mugabe a Lukashenko  i roi eu teuluoedd, eu plant llwyn a pherth a’u ffrindiau mewn safleoedd grymus.  

 

Mae llygredd hunanol o’r fath yn llawer mwy tebyg i sut mae llywodraeth y DU yn dewis pobl i fynd i Dy’r Arglwyddi na sut mae’r Blaid yn gwneud hynny.  Ond ‘dydi Martin Shipton heb drafferthu i chwilio am unrhyw fath o gyd destun ehangach o gwbl.  

 

Neu efallai bod Martin Shipton yn credu bod Mugabe a Lukashenko yn credu mewn cydbwysedd rhyw o ran cynrychiolwyr etholedig.  Pwy a wyr?

 

Ac yn olaf mae Martin Shipton yn poeni’n ofnadwy am sut mae Llafur Cymru yn dewis ei arweinydd.  

 

Yn bersonol ‘dwi’n gweld y drefn yn un ryfedd (mae hi’n llawer llai cynhwysol nag un Plaid Cymru er enghraifft), ond ‘dwi hefyd yn derbyn nad ydi’r drefn yn fusnes i fi.

 

Mae’r ffordd mae’r pleidiau unoliaethol yn dewis eu harweinwyr yn rhyfedd.  Er enghraifft, mae Prif Weinidog presennol y DU wedi ei ddewis yn ddi wrthwynebiad, ar ôl colli’r etholiad blaenorol ymysg aelodau ei blaid.  


Mae’r ddwy blaid unoliaethol fawr yn rhoi llawer, llawer mwy o rym i Aelodau Seneddol  ddewis arweinydd nag aelodau cyffredin.  Ond yn amlwg, ‘does ‘na ddim cyfeiriad at hynny yn erthygl Martin Shipton chwaith.  

 

Ni ddylai Martin Shipton fod wedi ‘sgwennu  ei erthygl hysterig, un llygeidiog - neu yn sicr ddim ar y ffurf ac yn y ffordd mae hi wedi ymddangos.  

 

Ond wedi dweud hynny mae yna rhywbeth am yr erthygl sy’n nodweddu gwleidyddiaeth a newyddiadura gwleidyddol yn yr oes sydd ohoni - hysterig, cwbl ddi nuance, niwrotig,  pegynol, goddrychol, di gyd destun ac wedi ei ‘sgwennu i gam arwain a gwylltio yn hytrach nag i hysbysu ac addysgu.

No comments: