Tuesday, June 27, 2017

Beth bynnag ddywedwch chi am y DUP _ _ _

 _ _ _ maen nhw wedi bod yn gyson trwy'r blynyddoedd.  Mae'n debyg mai yn y blaid yma yn unig mae gwleidyddiaeth Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn parhau i fyw, ac mae'r DUP mewn safle o gryn ddylanwad ar hyn o bryd.


Ond efallai bod yna bwynt ehangach i'w gymryd o'r etholiad cyffredinol diweddar.  Os ydym yn edrych tua'r Alban neu Ogledd Iwerddon y pleidiau mwyaf bellach ydi'r rhai llai 'parchus' a'r rhai sydd heb symud ymhell iawn oddi wrth egwyddorion creiddiol - a hynod amhoblogaidd o safbwynt y cyfryngau prif lif.

Mae Gogledd Iwerddon yn cael ei dominyddu gan blaid unoliaethol sy'n coleddu'r wleidyddiaeth fwyaf rhagfarnllyd ac ansoffisdigedig yn Ewrop a phlaid genedlaetholgar sy'n ddi edifar am ei rhan mewn cyfres o wrthryfeloedd milwrol digon gwaedlyd tros y ganrif ddiwethaf.  Dydi'r blaid sy'n rheoli yn yr Alban ddim mor lliwgar na'rddwy sy'n rhedeg y sioe yng Ngogledd Iwerddon, ond mae honno wedi glynu yn ddigon di ildio at ei hegwyddor creiddiol o ennill annibyniaeth i'r wlad.  

Ac i edrych tua Lloegr (a Chymru o ran hynny), llwyddiant mawr yr etholiad oedd creadur oedd yn cael ei ystyried yn gwbl anaddas i reoli gan y cyfryngau prif lif - a llawer yn ei blaid ei hun - oherwydd 'amharchusrwydd' ei ddaliadau.

Mae'n siwr bod yna wers yn rhywle yn hyn oll.

1 comment:

Cai Larsen said...
This comment has been removed by the author.