Friday, June 23, 2017

Etholiadau lleol - rhan 1

Fel dwi wedi son eisoes dwi'n gwneud pwt o gyflwyniad ac yn bwriadu postio ambell i siart neu fap yma.

Mae'r mapiau isod wedi eu dwyn o wikipedia, mae'r map ar y chwith pob tro yn dangos pa blaid sy'n rheoli'r siroedd (du = dim rheolaeth) ac mae'r mapiau ar y dde  yn dangos dosbarthiad wardiau llywodraeth leol yn ol maint cyfnogaeth y gwahanol bleidiau.

Maent yn siarad trostynt eu hunain i raddau helaeth.  O safbwynt y Blaid y pwyntiau diddorol mae'n debyg ydi anghydbwysedd rhwng ei chefnogaeth yn nwyrain a gorllewin y wlad a'i thwf ar lefel lleol yn Ynys Mon a Chaerfyrddin.

2017



2012


2008


2004






4 comments:

indynow said...

Cai,
Mae'r Map 2017 yn deddolol iawn, mae llawer o newyddion da yno. Ond rydwu yn poinu braidd am deriwiad un manau ble oedd y Blaid yn dal seddy ward a nawr dim.
Manay rhwin siarad am iw Pwlleli, ti fas Caernarfon, Trefriw, Caerhun ac Uchaled. Hefid mae y'r arfordur De Meirionnydd. Dydwi dim yn nabod yr ardaloedd hin ond bydden yn synhwiro bod De Meirionnydd I naid da mewlifiad fel Ceredigion.
Y cwestiwn fi iw pam maer blaid yu collu a dim enill yr ardaloedd hin ynol?
Y newyddion da, wardiau newidd y Maldwyn, Sir Benfro, De Ceredigion rownd Aberteifi a Sir Gar (Gwich).
Mae'r blaid yn Gwynedd wedy wneid yn dda i cael gwared Llafir, ond y step nesaf yn fyn marn i iw, bwrw mlain am Bryn, Pandy a Penmaenan.

Anonymous said...

Mae'n rhaid fod yna wardiau ym Mon ac Arfon lle y bu gryn wahaniaeth rhwng pleidlais y blaid yn etholiadau'r cyngor ddechrau Mai, a'r etholiad cyffredinol ddechrau Mehefin. A oes yna rai sy'n sefyll allan fel yna ? . Efallai mai rhain yw'r wardiau y bydd angen gweithio arnynt cyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae'n amlwg fod y blaid yn atyniadol yn lleol (onibai mai diwrthwynebiad oedd yr etholiad) , ond fod Corbyn yn rhagori ar Leanne Wood yn genedlaethol.
Mae'r blaid Lafur yn elwa o'r ffaith mai dim ond un ymgeisydd sydd ei hangen ar lefel San Steffan.

Cai Larsen said...

Wel, mae yna drosiant naturiol. Dim ond mewn dwy ward yn Arfon dydi'r Blaid erioed wedi cael sedd - Marchog a Hirael - y ddau ym Mangor.

3:05 pm

Cai Larsen said...

Does gen i ddim mynediad i ddata Mon - ond mae yna wardiau felly yn Arfon. Dwi ddim am eu henwi am resymau amlwg.