Monday, June 05, 2017

Paradocs rhyfedd etholiad 2017

Felly beth ydym i'w wneud o'r etholiad ryfedd yma?

Os ydym i gredu'r polau - er gwaetha'r amrywiaeth sylweddol yng nghanfyddiadau'r polau hynny - mae yna batrwm amlwg yn ymddangos, ac mae'n batrwm amlwg iawn.

Yr hyn sy'n rhyfedd, ac yn anarferol iawn ydi bod erbyn hyn mae'r ddwy blaid fawr yn ymddangos i fod yn ennill pleidleisiau.  Mae hynny'n bennaf oherwydd y chwalfa ym mhleidlais UKIP, ond mae hefyd - i raddau llai - ar draul y pleidiau llai eraill.  Ar ol blynyddoedd o symud oddi wrth gyfundrefn dwy blaid a thuag at cyfundrefn aml bleidiol, ymddengys bod y llanw wedi troi - ac wedi troi go iawn.
Felly - os ydi'r polau i'w credu bydd Llafur a'r Torïaid yn ôl pob tebyg yn cynyddu eu cyfran o'r bleidlais. Y broblem o safbwynt Llafur a'r Toriaid ydi na fyddant yn ennill llawer o seddi oddi wrth ei gilydd os ydi pleidlais y ddwy blaid yn cynyddu.  
Hynny yw os ydi y Torïaid i ennill nifer fawr o seddi, mae'n rhaid iddynt i ennill oddi wrth Lafur a felly hefyd i'r gwrthwyneb.  Ond os ydi pleidlais y ddwy blaid yn codi ar draul UKIP yna fydd yna ddim llawer o symud o ran seddi.  Ar hyn o bryd mae'r polau cyfartalog yn awgrymu y bydd pleidlais y Toriaid tros y DU yn cynyddu o 6.2%, tra y bydd pleidlais Llafur yn cynyddu 4.8%.  Mae hyn yn ogwydd o 0.7% gogwydd fyddai'n arwain at ychydig iawn o newid o ran seddau.  Yn wir gallai arwain at fwy ac nid llai o seddi i'r Toriaid.
Felly gellir yn hawdd ddychmygu'r Toriaid yn cael cryn dipyn mwy o bleidleisiau na gawsant yn 2015, ond yn cael llai o seddi - neu o leiaf ddim llawer mwy.  Gallai May fod allan o joban ddydd Gwener er iddi gynyddu canran y Toriaid o'r broblem yn sylweddol

No comments: