Ei phroblem ydi ei bod yn ddibynol ar blaid Asgell Dde eithafol, ond hynod ecsentrig y DUP. Ystyriwch y canlynol:
2). Beth bynnag arall fydd yn digwydd mae'r DUP yn erbyn i Ogledd Iwerddon gael ei thrin yn wahanol i weddill y DU. Maent yn gweld unrhyw symudiad i'r cyfeiriad hwnnw fel cyfraniad i gyfeiriad Iwerddon unedig - hunllef eithaf y DUP.
3). Mae yna leiafrif bychan ond swnllyd iawn o aelodau seneddol Toriaidd sydd eisiau Brexit caled yn annad dim arall yn y Byd mawr crwn. Does yna ddim byd wneith eu perswadio nhw i fod yn hyblyg ynglyn a Brexit caled. Mae'n debyg mai er mwyn peidio bod yn ddibynol arnyn nhw y galwodd May yr etholiad.
Rwan mae ganddi hi'r DUP ar y naill ochr iddi hi sydd am fod yn erbyn Brexit caled a Redwood, Rees Mogg ac ati ar y llall sy'n ystyried atal mewnfudo yn bwysicach na dim arall. Mae am fod yn nesaf peth i amhosibl i blesio'r ddwy ochr.
Os ydi'r DUP yn cytuno i Brexit caled bydd y gost yn uchel iawn - mae'r DUP wedi arfer negydu efo McGuiness, Adams a Kelly - byddant yn llyfu eu gwefysau wrth feddwl am negydu efo Mrs Weak & Wobbly. Gallant fod ar ol addasu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith - rhywbeth fyddai'n torri cytundeb rhyngwladol, neu becyn economaidd anferth - rhywbeth fyddai'n corddi rhannau tlawd eraill o'r DU.
Mi fyddai Etholiad Cyffredinol arall yn llawer llai o drafferth na cheisio mynd i'r afael a hyn oll.
1 comment:
Cytuno nad ydi hi'n gynaladwy o gwbl dibynnu ar gefnogaeth y DUP.
Nid eu polisiau adweithiol ydi'r broblem fel y cyfryw- ond y ffaith y byddai eu gwahodd hwy i gynnal breichiau'r Blaid Geidwadol yn Llundain yn peryglu'r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Mae hwnnw wedi'i seilio ar gyfartaledd a chydnabyddiaeth i'r ddau draddodiad yn y dalaith: rhywbeth a fyddai'n cael ei ddarnio'n llwyr pe bai gan yr Unoliaethwyr ddylanwad ychwanegol yn Llundain.
Dydi'r Wladwriaeth Prydeinig ddim am gael eu hudo i mewn i we pry cop y DUP a gorfod ymrwymo symiau anferthol o arian er mwyn i rhain gael smalio bod yn Brydeinwyr bellach: hefo dyledion o £1.7triliwn ar y llyfrau'n barod,a'r rhan fwyaf o'r etholwyr yn gwbl ddi-hid am y dalaith beth bynnag gwallgofrwydd llwyr fyddai hynny.
Na, dwi'n credu y caiff y syniad yma ei ollwng dros y dyddiau nesaf ac y gwelwn ni ddiflanniad sydyn iawn y foneddiges May.
Dwi ddim mor siwr am etholiad arall buan: synnwn i ddim y gwelir ryw ymdrech i greu "Dirprwyaeth Aml-Bleidiol" i geisio negydu Brexit yn y lle cyntaf gydag etholiad cyffredinol ar ddiwedd y broses honno.
Post a Comment