Sunday, March 19, 2017

Athrylith strategol

Felly mae Andrew RT Davies wedi manteisio ar ei araith yng Nghynhadledd Wanwyn ei blaid i ymosod ar Blaid Cymru - ymddengys y byddai pleodlais iddi ym mis Mai yn beryglys ac yn arwaith at annibyniaeth.  Mae wedi defnyddio ei gyfweliadau teledu i bwrpas tebyg.


Rwan, dwi'n gwybod bod Andrew yn dweud bod ei blaid am roi ymgeiswyr i sefyll tros y lle i gyd - ond does yna ddim byd yn hanes y Toriaid yng Nghymru i awgrymu y byddant yn cael fawr o neb i sefyll mewn rhannau eang o'r wlad.  Yn wir, go brin y bydd ganddynt lawer o ymgeiswyr yn sefyll mewn etholaethau maent yn eu cynrychioli yn San Steffan megis Brycheiniog a Maesyfed. 

Ond lle maent yn sefyll mewn niferoedd a lle maent yn gystadleuol Llafur yw eu prif wrthwynebwyr bron yn ddi eithriad - Bro Morgannwg, Mynwy, a rhannau o'r dinasoedd yn bennaf.  Yr unig rannau o Gymru lle bydd Plaid Cymru a'r Toriaid ben ben a'i gilydd yn ol pob tebyg ydi yn rhai o wardiau Conwy a Dinbych, ambell i le ym Mro Morgannwg, ac ambell i ward ar gyrion Caerdydd.  Mae'n debyg y bydd yna ychydig o lefydd eraill ar hyd a lled Cymru.

Yn y rhan fwyaf o Gymru mae'r Blaid yn cystadlu efo Llafur, neu efo ymgeiswyr annibynnol.  Dydi o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i Andrew RT Davies ddefnyddio ei araith a'i gyfweliadau teledu i geisio dychryn etholwyr Rhondda Cynon Taf, Caerffili neu Gastell Nedd Port Talbot rhag pleidleisio i Blaid Cymru - Llafur ac nid ei blaid ei hun fyddai'n ennill petai ei godi bwganod yn gweithio.  Mae'n gwneud llai o synnwyr fyth mewn ardaloedd fel Caerdydd - lle mai'r peth diwethaf mae Andrew angen ei wneud ydi adgyfnerthu'r bleidlais Lafur.  Nid y Toriaid fyddai ail ddewis cefnogwyr y Blaid yn y brif ddinas - na'r trydydd dewis na'r pedwerydd.

Byddai'n ddiddorol gwybod pwy sy'n cynghori'r dyn ar lunio strategaeth etholiadol.

2 comments:

Gwynfor Owen said...

Y realiti Ydi, buasai yn well gan unoliaethwyr o pa bynnag Blaid weld unoliaethwyr eraill yn curo'r Blaid. Dwi'n cofio David Davies yn dweud unwaith mai'r clymblaid naturiol yn Mae Caerdydd fuasai Llafur - Toriaid. Teimlaf bod hyn yn dangos y pwysigrwydd o gydweithio yn agosach gyda y rheiny sydd yn dangos rhywfaint o Gymreictod o pa bynnag Blaid. Dylsem gymeryd mantais o'r hyn mae'r Brit Nats yn ei ddweud I apelio at eraill yn eu pleidiau.

Anonymous said...

Llafur? Nid chwalfa yn yr Alban yn unig.
Fel y gwelem yn ddiweddar eto yn yr Iseldiroedd (ar batrwm Ffrainc, y Groegiaid ayb) - talcen caled nawr sy'n gwynebu pleidiau prif-lif y Chwith led-led Ewrob gan fwyaf.