Friday, January 06, 2017

Y Dib Lems ers Brexit

Dwi wedi dwyn y graff isod o'r wefan politicalbetting.com - ac mae'n cyfleu rhywbeth diddorol.


Yr hyn rydym yn ei weld ydi llwyddiant i'r Lib Dems - o gymharu a'r etholiad flaenorol.  Mae'r Lib Dems yn ddi amwys gefnogol i 'r UE wrth gwrs.  Mae'r un peth yn wir am y Gwyrddion.  Mae'r Toriaid - bellach - ac UKIP yn ddi amwys eisiau gadael yr UE ac mae Llafur eisiau rhywbeth neu'i gilydd, ond does neb yn rhy siwr beth.  

Yr hyn sy'n ddiddorol ydi mor dda mae'r Lib Dems yn gwneud mewn ardaloedd a bleidleisiodd i adael. Hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny mae yna leiafrif sylweddol - a lleiafrif sy'n fwy na pharod i fynd i bleidleisio - oedd eisiau aros yn yr UE.  Mae'r Lib Dems yn eu corlanu oherwydd nad ydynt yn gorfod cystadlu efo neb am eu pleidleisiau.

Mae'r wers yng Nghymru yn weddol amlwg mi dybiwn.

2 comments:

Anonymous said...


Sori, ond dw e ddim yn amlwg imi.

Cai Larsen said...

Nad ydi gadael y tir hard remoaners i'r Dib Lems yn syniad arbennig o dda.