1). Na fydd yr SNP yn galw refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban yn y tymor canolig os bydd y DU yn aros yn y Farchnad Sengl.
2). Y bydd yr SNP yn galw refferendwm mewn dwy flynedd os bydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl.
Rwan ar un olwg mae hyn yn ymddangos yn rhyfedd. Byddai rhywun yn disgwyl iddi fod yn anos i 'r Alban adael y DU os bydd tollau ar allforion a mewnforion o ac i'r UE. Mae'r farchnad rhwng gweddill y DU a'r Alban yn llawer mwy na'r farchnad rhwng yr Alban a'r UE. Petai'r DU yn gadael y Farchnad Sengl, yna y DU fyddai'r Farchnad Sengl i 'r Alban. Byddai codi wal o dollau ar hyd y ffin efo Lloegr yn broblem.
Ond mae yna ffordd arall o edrych ar bethau. Byddai gadael y DU hefyd yn rhoi cyfleoedd i'r Alban petai Prydain allan o'r Farchnad Sengl. Ceir dau brif gyfle - neu un cyfle efo dwy agwedd iddi mewn gwirionedd.
1). Gallwn fod yn weddol sicr y byddai gwledydd yr UE yn syrthio tros ei gilydd yn cystadlu am farchnadoedd Prydain petaent yn gadael y Farchnad Sengl. Gallai 'r Alban fod yn rhan o'r sgrambl yna.
2). Byddai'r Alban mewn lle delfrydol - yn ddaearyddol, ieithyddol a diwylliannol - i gystadlu am lawer o'r hyn y byddai gweddill y DU yn ei golli. Byddai Paris, Frankfurt, Dulyn a Chaeredin yn cystadlu i ddenu sefydliadau ariannol - ond byddai Dulyn a Chaeredin gyda manteision oherwydd y byddai'n haws adleoli staff yna. Petai cwmni ceir eisiau adleoli, byddai'n haws symud tros y ffin na symud tros y dwr.
Byddai natur refferendwm o dan yr amgylchiadau yma'n dra gwahanol i'r un diwethaf - ond byddai yna naratif 'Ia' atyniadol y gellid ei chreu - yn arbennig felly os y byddai sefydliadau masnachol ac ariannol eisoes yn chwilio am gyfleoedd i adleoli.
3 comments:
Bron y gellid dadlau mai Nichola Sturgeon yw'r Prif Weinidog ar hyn o bryd. Mae ganddi safbwynt clir a dealladwy ac mae'n cyflwyno'r safbwynt hwnnw gydag awdurdod ac argyhoeddiad- cymharer hyn gyda pherfformiadau cloff ac aneglur Theresa May.
Mae hi wedi cyflwyno dadl sy'n gwneud "synnwyr" i fwyafrif o'r etholwyr ar lefel Prydain gyfan- sef trefniant a fyddai'n caniatau i'r DU aros yn y farchnad sengl a fyddai wedyn yn cadw'r Alban yn yr Undeb.
Gan wybod yn iawn na all Theresa May aros yn ei swydd os caiff ei gweld yn "ildio" i ofynion yr SNP er mor bwysig yw'r Alban i'r hynny o sefydlogrwydd economaidd sy'n perthyn i'r DU. Yn wleidyddol, mae hi bron yn amhosib i'r DU aros yn y Farchnad Sengl rwan yn dilyn yr hyn y mae Arweinydd yr SNP wedi ei ddweud.
Rhaid imi ddweud nad yw'r gair "schadenfraude" yn llwyr gyfleu y boddhad mae dyn yn ei gael wrth weld y Sefydliad Prydeinig ar fin cael ei ddryllio oherwydd y bydd yr imperialaeth diwylliannol hunandybus sydd mor greiddiol i'r sefydliad hwnnw wastad yn cael ei osod uwchlaw realities economaidd. Gan aralleirio hen slogan gan Bill Clinton: " It's the culture stupid" lle bo'r "UK" yn y cwestiwn.
Mae Ail Refferendwm ar Annibyniaeth i'r Alban yn anorfod.
Cachu Tarw
@ Cymru Rydd
I'r dim, dwi'n meddwl ... ond ble mae Cymru rwan, i mewn i hyn oll??
Post a Comment