Friday, June 24, 2016

Patrymau pleidleisio Gwynedd ddydd Iau - a'r hyn maent yn eu dweud am weddill Cymru

UUn o'r ychydig bethau da i ddeillio o ganlyniad refferendwm Ewrop y diwrnod o'r blaen ydi ei fod am ddarparu  llwyth o ddeunydd blogio am gyfnod i ddod.  Mae'r tirwedd gwleidyddol wedi newid yn llwyr, a bydd pob math o oblygiadau i hynny - llawer ohonynt yn amhosibl i'w darogan ar hyn o bryd.  

Ond cyn gwneud hynny, efallai y byddai'n syniad cael cael golwg ar yr hyn ddigwyddodd y diwrnod o'r blaen yn y canolfannau cyfrif.  Fedra i ond gwneud hynny yn fanwl yng Ngwynedd - ond efallai bod patrymau ehangach i'w gweld o'r hyn ddigwyddodd yma.  

Mae'n arfer gan bleidiau gwleidyddol i fonitro'r pleidleisiau fel maent yn cael eu didoli yn y canolfannau pleidleisio.  Fel rheol dydi'r wybodaeth fanwl byth yn cael ei datgelu oherwydd bod gwybodaeth  yn rhoi mantais strategol i'r sawl sydd efo'r wybodaeth honno - gwybodaeth y gellir ei ddefnyddio yn yr  etholiad canlynol.  Fydd yna byth refferendwm Ewrop arall, felly does yna ddim rheswm i guddio'r wybodaeth.  Mae'r holl wybodaeth manwl y byddaf yn cyfeirio ato isod wedi ei gasglu a'i goledu gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru Gwynedd.

Bydd rhaid i mi roi pwt o eglurhad i'r sawl ohonoch sydd ddim yn adnabod eich Gwynedd, fel rydan ni'n mynd yn ein blaenau, ond pwt bach cyffredinol ar y cychwyn.  

Mae'r sir wedi ei hadeiladu o dri hen gyngor dosbarth - Arfon yn y Dwyrain, Dwyfor yn y Gorllewin a Meirion yn y De.  Ag eithrio ardal Bangor, Arfon ydi'r ardal Gymreiciaf o ran iaith gyda llawer o'i chymunedau efo mwy nag 80% yn siarad y Gymraeg.  Mae'n ardal drefol a maestrefol yn bennaf.  

Mae Dwyfor i'r Gorllewin i Arfon, ac mae'n llawer mwy gwledig a rhywfaint yn llai Cymraeg o ran iaith nag Arfon - y norm ydi cymunedau gyda'r gyfradd siarad Cymraeg yn y 70%au - er bod cymunedau cryn dipyn llai Cymreig ar hyd arfordir deheuol y penrhyn. 

Mae Meirion hefyd yn wledig yn bennaf, er bod ardal Blaenau Ffestiniog yn ol ddiwydiannol ac yn fwy tebyg i ardaloedd chwarel Arfon yn gymdeithasegol nag i Feirion a Dwyfor.  Mae Gogledd A Dwyrain Meirion yn debyg i Ddwyfor yn ieithyddol, tra bod De Meirion yn llawer mwy Saesneg o ran iaith gyda niferoedd sylweddol o fewnfudwyr o Loegr yn ardaloedd y Tywyn a'r Bermo. 

Mi wnawn ni ddechrau yn Arfon ar lannau'r Fenai.  Ward Menai, Caernarfon oedd un o'r ardaloedd efo'r bleidlais Aros uchaf, gyda 75% eisiau gwneud hynny.  Un o'r canrannau uchaf yng Nghymru.  Dwi'n byw ym Menai fel mae'n digwydd.  Mae'n ardal cymharol gyfoethog, Gymraeg ei hiaith sydd efo llawer o bobl sydd wedi cael addysg prifysgol.  Mae'r boblogaeth hefyd yn un cymharol hen.  Mae Menai hefyd wedi bod yn gaer etholiadol i Blaid Cymru am ddegawdau. 

Caer etholiadol mwy diweddar i'r Blaid ydi Ogwen (pleidleisiodd 78% tros y Blaid yn etholiad Cynulliad 2016).  Pentre Bethesda ydi Ogwen - pentref mawr difreintiedig ac ol ddiwydiannol, Cymraeg ei iaith ar eithafion dwyreiniol y Wynedd Gymraeg.  Roedd 70% eisiau aros.  Roedd y canrannau yn uchel yng ngweddill Dyffryn Ogwen ac yn y pentrefi mawr maestrefol o gwmpas Caernarfon - Llanrug, Bethel, Bontnewydd ac ati.  Mae'r llefydd yma yn Gymraeg eu hiaith - ond roedd dwy ward Cymraeg eu hiaith yn Arfon lle'r oedd pethau'n agos iawn - Peblig (stad tai cymunedol sylweddol Sgubor Goch) a Phenygroes.  

Dydi Bangor ddim yn Gymraeg ei hiaith at ei gilydd, a phleidleisiodd un ward i adael - ond ddim o llawer - Marchog - stad tai cymunedol Maesgerchen yn bennaf.  Roedd yr wardiau eraill a gyfrwyd yn soled  o blaid Aros.

Yn y cyfamser ym mhellafion deheol y sir roedd pethau'n dra wahanol.  Yn y Friog 23% bleidleisiodd i aros a  34% yn Nhywyn.  Mae'r ardaloedd yma yn Ne Meirion, ac mae canran uchel o'u poblogaeth gyda'u gwreiddiau y tu allan i Gymru.  Roedd y bleidlais yn well mewn rhannau eraill o Dde Meirion, ond yr ochr Gadael oedd yn ennill.  

Roedd pethau'n well i Aros yng Ngogledd a Dwyrain Meirion - ond ddim yn agos cystal ag Arfon, er bod ambell i le efo canrannau Aros uchel iawn -Llanuwchllyn yn 78%, y Bala yn 6o%, Penrhyndeudraeth yn 63%, Tanygrisiau yn 61% er enghraifft.  Ond eithriadau oedd y rheiny - yn y 50au neu ychydig yn is oedd canran y rhan fwyaf o wardiau.  Does yna ddim llawer o amheuaeth i'r ochr gadael ennill y dydd ym Meirion - ond ddim  gyda mwyafrif mawr.

Roedd Dwyfor yn debyg i Ogledd a Dwyrain Meirion o ran patrymau pleidleisio.  Pethau'n agos iawn mewn trefi bychain fel Pwllheli a Phorthmadog, pethau'n well mewn llefydd mwy gwledig gan amlaf -  Llanor yn 74% er enghraifft a Botwnnog yn 71%. Ond y 50au oedd y norm - gydag ambell i le yn y 40au - Edern, Morfa Bychan, Rhiw er enghraifft.  Ond yn gyffredinol mae'n debyg i Dwyfor bleidleisio tros aros - ffigwr yn y 50au cynnar o bosibl.  Byddwn yn meddwl bod etholaeth Meirion / Dwyfor yn agos  - ond yn pleidleisio i Aros.

Rwan mae'r patrymau yma yn gymhleth - ac efallai nad ydi hi'n syniad gwych dod i gasgliadau ehangach o batrymau Gwynedd.  Mae gan Wynedd ei gwleidyddiaeth unigryw ei hun - ond mi geisiwn ni beth bynnag. 

Roedd y gefnogaeth i aros yn gryf ar hyd y Fenai o Gaernarfon i Fangor.  Mae llawer o bobl yn byw yn yr ardal yma, mae yna lawer o swyddi ac mae yna ddosbarth proffesiynol cymharol fawr.  Roedd hefyd yn gryf yn y pentrefi o gwmpas y Fenai sy'n darparu Caernarfon a Bangor efo llawer o'u gweithlu.  Oddi mewn i'r ardal yma roedd perthynas rhwng bod yn ddosbarth canol a phleidleisio tros Aros (Aros yn gryf ym Menai C/fon a Phenrhosgarnedd), efallai bod rhywfaint o berthynas rhwng iaith a phatrymau pleidleisio - ond dydi o ddim yn glir, ac mae'n rhaid dweud bod perthynas cymharol agos rhwng ardaloedd sy'n gefnogol i Blaid Cymru a thueddiad i fod eisiau Aros.

Fel rydym yn symud i'r Gorllewin rydym yn mynd i fyd mwy gwledig - ac i fyd sy'n  llai ffyniannus yn economaidd.  Mae llawer o bobl o Ddwyfor yn cymudo i 'r dwyrain i weithio - byddaf yn eu pasio yn y car pob bore a phrynhawn - fi ydi un o'r ychydig bobl sy'n  cymudo'r ffordd arall.   Mae'r gefnogaeth i Aros yn syrthio hefyd - ond ceir mwyafrif o hyd.  

Mae Dwyfor yn llawer mwy gwledig nag Arfon, mae yna llawer llai o wasanaethau a chyfleoedd gwaith yno, mae ei phentrefi'n tueddu i fod yn llai Cymraeg o ran iaith na phentrefi Arfon, ac mae yna fwy o fewnfudo o'r tu allan yno.  

Mae patrymau Gogledd Meirion yn debyg iawn i rai Dwyfor.  O symud i lawr ymhellach i Dde Meirion mae yna wahaniaethau mawr - mae'n llawer mwy Saesneg o ran iaith, mae yna lawer o fewnfudo o Loegr yno, ac mae rhai o'r cymunedau arfordirol yn teimlo mwy fel Clacton na Chaernarfon.  Mae'r ardal hefyd yn wledig iawn, ychydig o gyfleoedd gwaith sydd yna, mae'r boblogaeth yn hen ac mae gwasanaethau cyhoeddus yn brin.  Yn Ne Meirion oedd y bleidlais Aros ar ei hisaf - o ddigon.  Mae'n debyg i Dde Meirion sicrhau i'r rhanbarth yn ei gyfanrwydd bleidleisio i Adael.  

(Diweddariad - wedi ail edrych ar y data, dwi wedi newid fy meddwl am Feirion -dydi'r data ddim yn gyflawn, ond dwi'n meddwl bellach bod Meirion wedi pleidleisio i Aros  - ac nad oes llawer o wahaniaeth rhwng Dwyfor a Meirion yn ei gyfanrwydd - yn Tywyn, Bermo a'r Friog mae'r ffigyrau yn isel iawn - mae nhw'n well mewn lleoedd fel Y Ganllwyd ac Aberdyfi.  Mae data Meirion yn llai cyflawn na data'r ddau ranbarth arall gyda llaw). 

Reit, beth ydi'r patrymau cyffredinol?  Mae'n  debyg bod patrwm ieithyddol gwan.  Cymharol ychydig o ardaloedd sydd a chanrannau o fwy na 70% yn siarad Cymraeg sy'n pleidleisio i adael - er bod yna rhai.  

Ceir perthynas cryfach  rhwng bod yn gymharol gyfforddus yn ariannol a bod eisiau Aros -  mae yna fwy o fewnfudo i Borthygest na Phwllheli - ac roedd yna fwy eisiau Aros ym Morthygest.  Mae yna fwy o bobl di Gymraeg yn Abersoch nag i Edern, ond roedd mwy eisiau Aros ym Abersoch nag yn Edern.   Mae Abersoch a Borthygest yn Seisnig ac yn gyfoethog.  

Mae yna gysylltiad cryf hefyd efo lefelau mewnfudo (mae Bangor yn gymharol Saesneg o ran iaith, ond mae mwyafrif llethol ei thrigolion parhaol wedi eu geni a'u magu yng Nghymru - nid yw hynny 'n wir am y Dywyn Saesneg -  mae'n llawn mewnfudwyr o Loegr).  Ond eto, nid yw'n berthynas gwbl gyson -  does yna ddim llawer o bobl wedi eu geni y tu allan i Gymru ym Mhwllheli - ond roedd pethau'n agos iawn yno.

Fel dwi wedi nodi, mae yna berthynas cryf rhwng cefnogaeth i Blaid Cymru a thueddiad i fod eisiau Aros yn Arfon, ond dydi fy ngwybodaeth am union batrymau pleidleisio Meirion / Dwyfor ddim digon da i ddod i ddyfarniad ynglyn a hynny yno - ond ni fyddwn yn synnu petai perthynas felly - ond un gwanach nag yw yn Arfon.  

Ond dwi'n meddwl ei bod yn eithaf clir mai argaeledd gwasanaethau ac yn fwy arbennig cyflogaeth ydi'r ffactor pwysicaf sy 'n gyrru pobl i bleidleisio i Aros yng Ngwynedc, ac mae cyfoeth cymharol yn ffactor cryf hefyd - a thueddiad i bleidleisio i Blaid Cymru yn Arfon o leiaf.  

Ceir dylanwadau eraill - iaith, pam mor wledig ydi cymunedau - ond ffactorau economaidd ydi'r rhai pwysicaf - ac mae'n debyg bod gwleidyddiaeth creiddiol pobl yn cael dylanwad hefyd - cenedlaetholdeb Gwynedd sydd wedi ei gwneud yn wahanol i gynifer o siroedd eraill Cymru.

Ceir adlewyrchiad llawer mwy o'r hyn ddigwyddodd yng Ngwynedd yn Ne Ddwyrain Cymru.  Roedd Caerdydd yn soled tros Aros.  Ceir llawer o waith a gwasanaethau yng Nghaerdydd - yn ogystal ag ardaloedd cefnog iawn.  Roedd yr ardaloedd sydd gyda llawer llai o waith ond sy 'n darparu Caerdydd efo llawer o 'u gweithlu yn pleidleisio i Adael.  Fel rydym yn mynd yn bellach o Gaerdydd mae'r canrannau sydd am Aros yn syrthio.  Mae'r patrwm mewnfudo yn groes yn y De Ddwyrain i 'r hyn yw yng Ngwynedd - mae yna lawer o fewnfudo o'r tu allan i Gymru i Gaerdydd, does yna nemor ddim i Flaenau Gwent. 

Yng Ngwynedd a'r De Ddwyrain fel ei gilydd mae'r sawl sy 'n byw mewn cymunedau sy'n mynd yn llai hyfyw, sy'n colli eu gwasanaethau, sy'n colli ei raison d'etre yn aml - yn ymateb trwy bleidleisio yn erbyn y status quo.  Mae'r cymunedau sydd wedi sugno cyflogaeth ac amddiffyn eu gwasanaethau yn fwy tueddol i bleidleisio tros y status quo.  

Petaem eisiau defnyddio term technegol am y status quo hwnnw, efallai mai neo ryddfrydiaeth fyddai'r term priodol.  Neo ryddfrydiaeth sydd wedi arwain at erydiad economaidd llawer o gymunedau, a neo ryddfrydiaeth sydd wedi arwain at y llymder sydd wedi gwneud sefyllfaoedd drwg yn llawer, llawer gwaeth.  Rwan, ni fyddai 'n wir honni nad ydi'r Undeb Ewropiaidd yn ddim oll i'w wneud a neo ryddfrydiaeth na llymder - y gwrthwyneb sy'n wir.

Ond nid yr Undeb Ewropiaidd sy'n gyfrifol am neo ryddfrydiaeth na llymder ym Mlaenau Gwent nag yn Nhywyn chwaith.  Neo ryddfrydwyr Llafur a Thoriaidd yn San Steffan sy'n gyfrifol am hynny.  Bydd canlyniad y refferendwm - yn ogystal a grymoedd economaidd eraill sydd ar waith yn symud gwleidyddiaeth y DU i'r Dde am gyfnod sylweddol - a neo ryddfrywyr fydd yn rhedeg y sioe am gyfnod sylweddol.  

Yn wahanol i'r Undeb Ewropiaidd fydd gan Iain Duncan Smith, Boris Johnson a Michael Gove ddim llawer o ddiddordeb mewn deddfwriaeth sy 'n amddiffyn hawliau cyflogaeth a chymdeithasol, ac yn wahanol i neo ryddfrydwyr yr ochr arall i'r Iwerydd fydd ganddyn nhw ddim llawer o ddiddordeb mewn amddiffyn hawliau'r unigolyn chwaith.  

Nid Blaenau Gwent, nag yn wir Tywyn fydd yn elwa o benderfyniad dydd Iau - yn wir bydd gan eu trigolion gryn dipyn yn fwy diymgeledd mewn degawd nag ydynt ar hyn o bryd.

Diweddariad eto - Mae'n anodd rhoi ffigwr terfynol eto oherwydd na welwyd pob bocs, ac oherwydd nad ydym yn gwybod eto faint o bleidleisiau oedd ym mhob bocs -  ond byddwn yn tybio bod y ganran tros Aros yn Arfon yn y 60au canol, a bod y ganran ym Meirion Dwyfor yn y pumpdegau cynnar.

10 comments:

Cymru Rydd said...

Dadansoddiad diddorol a defnyddiol iawn Cai.

Ond dwi'n meddwl dy fod ti'n ymhell iawn ohoni wrth ddweud nad oes gan yr Undeb Ewropeaidd ddim oll i'w wneud a neo-ryddfrydiaeth.

Clwb neo-ryddfrydol ydi'r Undeb Ewropeaidd gyda buddiannau banciau mawr a chorfforaethau yn gwbl ganolog i'r prosiect. Wyt ti ddim yn sylweddoli mai bwriad yr Undeb Ewropeaidd yw dileu hunaniaethau cenedlaethol yn Ewrop er lles y cyrff hyn ac yn enw " integreiddio"??!!

Dwi'n genedlaetholwr Cymraeg sy'n llawenhau bod pleidlais ddydd Iau wedi rhoi terfyn ar y bwriadau dieflig hyn. Diolch i bobl LLoegr yn bennaf mae popeth wedi newid, a chyfle i bobl Ewrop( gan ein cynnwys ni yma yng Nghymru) ddilyn trywydd gwahanol.

Peth od i genedlaetholwr Cymraeg i gydnabod ein dyled i Loegr ond yng ngeiriau William Pitt yn 1805 "England has saved itself by its own exertions, and I trust it will save Europe as well"

william dolben said...

diolch am y ffigyrau lleol go fanwl, Cai
yng Nwynedd mae yna gysylltiad clir rhwng pleidlais y Blaid a'r awydd i aros gyda'r hen a'r ifanc, y rhai cefnog a'r rhai difreintiedig ar gytûn ond darlun gwahanol iawn tu allan i Wynedd. Deinamig arall eto yn achos Caerdydd
mae'n glir i mi mai dwy garfan a rôth fuddugoliaeth i Brexit: y difreintiedig a mewnfudwyr Saesneg y White Flight i Gymru (y rhai aeth Mike Parker i helynt am eu disgrifio) a phensiynwyr Saesneg a bleidleisiodd fel petaent yn dal yn Lloegr. Mae'r garfan gyntaf yn fwy a dylai PC ganolbwyntio arnynt i elwa ar y penderfyniad disynnwyr hwn. Ni bleidleisith byth yr ail garfan i PC.

coeliaf fod pleidlais Brexit yn gwneud Cynru annibynnol yn fwy tebyg yn fy nhyb i ond dagrau'r peth ydi'r dirywiad a chyni a ddaw i ran Cynru o ganlyniad i'r bleidlais ryfedd hon

Cai Larsen said...

Cymru Rydd - mae'r frawddeg braidd yn gymhleth - ond dweud bod Yr UE yn neo ryddfrydig mae hi.

william dolben said...

Cymru rydd: cymharwch bolisïau cyflogaeth pleidiau asgell dde fel CDU/CSU yn yr Almaen, PP yn Sbaen ay yn y blaen a chewch weld fod Corbyn a'i griw yn fwy asgell dde nag asgell dde y cyfandir....
Margaret Thatcher a aeth â Phrydain Fawr i'r dde gan ddiddymu yr ychydig hawliau a oedd yn bod yn y Deynas Unedig. Mae'r UE wedi gwella hawliau gweithwyr er eu bod yn dal yn waeth o beth coblyn nag eiddo'r cyfandir
pwrpas integreiddio ydi chwarae teg: gwneud yn siwr nad ydi un wlad yn cael ffafrïaeth trwy ostwng trethi, diddymu hawliau gweithiwr neu anwybyddu rheolaeth fel y City ac yn y blaen. Yn hyn o beth roedd parhad y DU yn Ewrop yn fregus am fod y DU yn manteisio ar ewyllys da y 27 gwlad arall.

Straen said...

Ymchwil a sylwadau da iawn,Cai fel arfer.
Fyswn i'n anghytuno ar dy ddisgrifiad o Abersoch yn gyfoethog serch hynny,mi oedd yn ardal amcan 1 gwreiddiol ac,arwahan i'r tai haf drudfawr,mae'r gweddill yn tueddu i fyw yn y tai cyngor a tai Eryri ac yn economaidd dlotach na r cyfartaledd.Anodd deallt sut fod pleidlais mor isel ym Mhenygroes a Pwllheli,ardalodd cymreig a chymraeg iawn,eto ai tlodi ydi'r linc?
Tebyg fod y bleidlais amaethyddol wedi bod yn solat ac yn egluro canran uchal gweddill Llŷn,ac ardaloedd gwledig Meirionydd.

Cyfnod tymhestlog iawn o'n blaenau,ac hawdd digaloni,ond onid cam gwag rhyfeddol fel hwn oedd ei angen i wneud i bobol feddwl o ddifri am eu dyfodol fel dinesydd yn"EnglandandWales",ac os nad ydynt yn ei weld yn gartref iddyn nhw,y mudiad cenhedlaethol fydd yn elwa?

Mabon said...

Dysgu'r ffugurau unigolyn ddim gen i law, ond pleidleisiodd Sir Ddinbych 54/46 dros allan, ond oddi fewn i hynny, rhannwyd y cyfrif yn ddwy - hanner yr etholwyr yn dod o Rhyl/Prestatyn a Dyserth, a hanner o weddill y sir.
Pleidleisiodd Rhyl/Prestatyn/Dyserth o blaid gadael, ac fe bleieisiodd weddill y sir o blaid Aros.
Roedd Corwen, Rhuthun a Llangollen o blaid Aros. Pwllglas, Cynwyd a Charrog of o blaid Aros, Gwyddelwern a Llandrillo o blaid gadael, o gof.
Ond yn grad roedd yr ardaloedd sydd orau i'r Blaid yn gryfach o blaid aros.
Anodd dadansoddi. Rhyl er engrhaifft - lot fwy o dlodi, ond hefyd canrhan llawer uwch o bobl o Lloegr yn byw yno.

Anonymous said...

Data fydd yn ddefnyddiol iawn adeg yr ail refferendwm....

Gwen Jones-Edwards said...

Diolch yn fawr. Diddorol tu hwnt. Bum yn ymgyrchu fymryn ym Mhwllheli, gan gnocio drysau. Yr ymateb oedd anwybodaeth yn y rhan fwyaf o dai lle cefais ateb, a roedd yn amlwg imi mai pitw iawn oedd y niferoedd a oedd yn deall y sefyllfa. Yn fy nhyb i methodd y gwleidyddion ddarparu ymgyrch effeithiol a goleuedig; mae'r ffaith nad oedd trigolion Cymru (heblaw am y rhai mwy addysgiedig) yn deall cymaint a fyddai'r colled i Gymru o adael Ewrop yn dyst i hyn. Wrth gwrs roedd hefyd yn anodd mynd yn erbyn y camwybodaeth cyson a ymddangosodd yn y papurau Saesneg. Mae angen i wleidyddion y Blaid fod yn fwy hy (er nad yw hyn yn cyfeirio at bob un ohonynt): mae angen negeseuon llawer mwy cryf, pendant a diamheuol oddi wrthynt. Yn hyn o beth clodwiw yw trywydd newydd Leanne tuag at annibyniaeth. Mae angen hefyd papur newydd o safon i'w gynhyrchu yng Nghaerdydd. Heb os mae darllenwyr addysgiedig papurau safonol yr Alban wedi bod yn fodd i ddylanwadu'n gryf ar ddaliadau gwleidyddol canran uchel o'r rhai llai breintiedig.

Trent Report said...

Diddorol iawn. Dyma blog am y dosbarthu i'r iaith gymraeg fel mamiaith in Gwynedd yn ol estyn (yn saesneg): http://politicsbyrebuttal.blogspot.co.uk/2016/07/just-how-welsh-speaking-is-gwynedd-today.html

Cai Larsen said...

Diolch. Diddorol iawn.